Cyfarfodydd

SICM(5)8 - Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

NDM6913 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21(b) i Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018, yn unol â’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Rhagfyr 2018.

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15:40

NDM6913 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21(b) i Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018, yn unol â’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Rhagfyr 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 14/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 14)

SICM(5)8 (Rhif.2) - Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

CLA(5)-02-19  – Adroddiad drafft

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad.

 


Cyfarfod: 14/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 SICM(5)8 (Rhif.2) - Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

CLA(5)-02-19 – Papur 76 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

CLA(5)- 02-19 – Papur 77 – Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 nas gosodir gerbron y Cynulliad

CLA(5)- 02-19 – Papur 78 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)- 02-19 – Papur 79 – Rheoliadau

CLA(5)- 02-19 – Papur 80 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)- 02-19 – Papur 81 – Sylwebaeth

CLA(5)- 02-19 – Papur 82 – SICM(5)8 (Rhif 2) - Rheoliadau'r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a osodwyd gan Suzy Davies AC ar 31 Rhagfyr 2018.

 


Cyfarfod: 10/12/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 SICM(5)8 - Rheoliadau Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

CLA(5)-32-18 – Papur 13 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

CLA(5)-32-18 – Papur 14 – Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 nas gosodir gerbron y Cynulliad

CLA(5)-32-18 – Papur 15 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-32-18 – Papur 16 – Rheoliadau

CLA(5)-32-18 – Papur 17 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-32-18 - Papur 18 - Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a nododd nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gosod cynnig ar gyfer dadl. Cododd Suzy Davies y posibilrwydd o gyflwyno cynnig er mwyn trafod y Memorandwm. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai'r Pwyllgor, ddechrau mis Ionawr, adolygu'r Memoranda a Datganiadau Ysgrifenedig a osodwyd o dan Reol Sefydlog 30C a ystyriwyd hyd yma.