Cyfarfodydd

Estyn Adroddiad Blynyddol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2019 – 2020 a COVID-19: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.

 


Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2019 - 2020 (i gynnwys materion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar addysg)

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM – Estyn

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol - Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol – Estyn

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol, ac ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19.

 

2.2 Oherwydd diffyg amser, cwtogwyd y cwestiwn ar flynyddoedd cynnar, gwahoddwyd Estyn i ddarparu ymateb ysgrifenedig mwy llawn, pe dymunent.

 

 


Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ei ymddeoliad

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 17/09/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch y ddadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2018-19

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/07/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghylch y ddadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2018-19

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn gydag Estyn.

 


Cyfarfod: 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM – Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol - Estyn

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol – Estyn

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar adroddiad blynyddol Estyn.

 


Cyfarfod: 19/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18

NDM6969 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.

2. Croesawu bod y “newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym”.

3. Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd ar y llynedd.

4. Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.

Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer 2017-18 ar gyfer disgyblion yn hanner ysgolion uwchradd Cymru, nad yw mwyafrif y disgyblion ar draws pob oedran a gallu yn gwneud digon o gynnydd.

2. Yn gresynu nad yw mwyafrif y disgyblion, yn hanner yr ysgolion, yn cyflawni yn unol â'u galluoedd erbyn iddynt gyrraedd diwedd addysg orfodol.

3. Yn gresynu at y gostyngiad parhaus yn nifer y lleoliadau sy'n darparu addysg ar gyfer plant 3 a 4 oed.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio unrhyw brosesau archwilio mewnol sydd ganddi o ran consortia rhanbarthol a rhannu canlyniadau unrhyw archwiliad mewnol neu allanol a allai fod wedi cael ei gynnal ers cyhoeddi canllawiau dilynol Estyn ar gyfer consortia rhanbarthol ac arolygwyr ym mis Medi 2017.

Estyn-canllawiau dilynol ar gyfer arolygwyr a chonsortia rhanbarthol – Medi 2017

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymroddiad parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Donaldson ar Estyn, Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn a gyhoeddwyd yn Mehefin 2018, ac sydd heb dderbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn - Graham Donaldson

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Cut to the Bone?' sy’n cadarnhau bod gwariant ysgol yn 2017-18 £324 y disgybl yn is mewn termau real na’r ffigwr cyfatebol yn 2009-10.

Prifysgol Caerdydd - Cut to the Bone? An analysis of Local Government finances in Wales, 2009-10 to 2017-18 and the outlook to 2023-24 (Saesneg yn unig)

Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi llythyr agored ASCL Cymru a’i sylwadau fod yna argyfwng cyllid difrifol mewn ysgolion yng Nghymru sydd yn cael effaith andwyol ar bobl ifanc Cymru.

Llythyr agored gan ASCL Cymru at y Gweinidog Addysg (Saesneg yn unig)

Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwariant teg o’r gyllideb a fydd yn ysgafnhau’r pwysau presennol sy’n bodoli ar ein hysgolion.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.11

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6969 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.

2. Croesawu bod y “newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym”.

3. Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd ar y llynedd.

4. Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer 2017-18 ar gyfer disgyblion yn hanner ysgolion uwchradd Cymru, nad yw mwyafrif y disgyblion ar draws pob oedran a gallu yn gwneud digon o gynnydd.

2. Yn gresynu nad yw mwyafrif y disgyblion, yn hanner yr ysgolion, yn cyflawni yn unol â'u galluoedd erbyn iddynt gyrraedd diwedd addysg orfodol.

3. Yn gresynu at y gostyngiad parhaus yn nifer y lleoliadau sy'n darparu addysg ar gyfer plant 3 a 4 oed.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio unrhyw brosesau archwilio mewnol sydd ganddi o ran consortia rhanbarthol a rhannu canlyniadau unrhyw archwiliad mewnol neu allanol a allai fod wedi cael ei gynnal ers cyhoeddi canllawiau dilynol Estyn ar gyfer consortia rhanbarthol ac arolygwyr ym mis Medi 2017.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

1

24

43

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymroddiad parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

1

0

43

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Donaldson ar Estyn, Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn a gyhoeddwyd yn Mehefin 2018, ac sydd heb dderbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

24

43

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Cut to the Bone?' sy’n cadarnhau bod gwariant ysgol yn 2017-18 £324 y disgybl yn is mewn termau real na’r ffigwr cyfatebol yn 2009-10.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

25

43

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi llythyr agored ASCL Cymru a’i sylwadau fod yna argyfwng cyllid difrifol mewn ysgolion yng Nghymru sydd yn cael effaith andwyol ar bobl ifanc Cymru

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

25

43

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwariant teg o’r gyllideb a fydd yn ysgafnhau’r pwysau presennol sy’n bodoli ar ein hysgolion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

25

43

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6969 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.

2. Croesawu bod y “newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym”.

3. Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd ar y llynedd.

4. Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.

5. Yn nodi ymroddiad parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

11

6

43

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd


Cyfarfod: 30/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Addysg yn dilyn y sesiwn graffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2017-18

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr at Lywodraeth Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18: gwaith dilynol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/12/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adroddiad Blynyddol Estyn 2017 - 2018

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Holodd yr Aelodau Estyn ynglŷn â’i Adroddiad Blynyddol.

3.2 Cytunodd Estyn i ddarparu nodyn ar unrhyw arfer gorau a welir mewn lleoliadau Dechrau'n Deg.