Cyfarfodydd

NDM6861 Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20

NDM6861 - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20, fel y pennir yn Nhabl 1 o “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2019-20”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2018 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.