Cyfarfodydd

P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-846 Achub ein Hysbyty Tywysog Philip Llanelli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd Dai Lloyd ddiddordeb gan fod ei ferch-yng-nghyfraith yn feddyg yn Ysbyty’r Tywysog Phillip.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i oedi o ran y ddeiseb, ac ystyried unrhyw ddatblygiadau ymhen 6 mis arall, yn unol â chais y deisebwyr, a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i lywio’r drafodaeth honno.

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-846 Achub ein Hysbyty Tywysog Philip Llanelli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o gofio nad yw'n glir ar hyn o bryd bod unrhyw fygythiad sylweddol i ddarpariaeth gwasanaeth yn Ysbyty Tywysog Phillip neu yn Llanelli o'r wybodaeth a ddaeth i law, cytunodd i gysylltu â'r deisebwyr i ofyn:

·         a fyddai'n well ganddynt i'r Pwyllgor gadw golwg ar y newidiadau sy'n effeithio ar Ysbyty Tywysog Philip ac adolygu'r ddeiseb tua diwedd y flwyddyn; neu

·         cau'r ddeiseb ar hyn o bryd, er mwyn galluogi deiseb yn y dyfodol petai'r sefyllfa hon yn newid.

 

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Trafod y Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i ofyn am ymateb i rai o'r materion a godwyd.

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Sesiwn dystiolaeth - P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

Cyng John Prosser (SOSPPAN)

Cyng Louvain Roberts (SOSPPAN)

Cyng Deryk Cundy (SOSPPAN)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Deryk Cundy, John Prosser a Louvain Roberts o SOSPPAN.

 


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i wahodd y deisebwyr i gyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i drafod eu pryderon ynghylch cynigion yn ymwneud ag Ysbyty Tywysog Philip yn fanylach.

 

 


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i:

·         ofyn am eu hymateb i'r ddeiseb a'r sylwadau a gafwyd gan y deisebwyr; ac i

·         ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion yn ymwneud â newid gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Phillip.

 

Gofynnodd yr Aelodau hefyd am bapur yn nodi’r deisebau hynny a gafodd dros 5,000 o lofnodion ers Mawrth 2017