Cyfarfodydd

Legislative Consent Memorandum on the Ivory Bill

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/03/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ifori

NDM6847 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Ifori, i’r graddau y bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Lywodraeth y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Dogfennau'r Bil - Ivory Bill 2017-19 — Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.16

NDM6847 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Ifori, i’r graddau y bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Lywodraeth y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 05/11/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ifori

CLA(5)-27-18 – Papur briffio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ac yn nodi nodyn cyngor cyfreithiol mewn perthynas â'r Bil Ifori. Nid yw'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi cael ei gyfeirio'n ffurfiol i'r Pwyllgor ac felly ni fydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad arno.