Cyfarfodydd
NDM6835 Dadl Plaid Cymru - Newid Hinsawdd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 24/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 24/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Newid Hinsawdd
NDM6835
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad
Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.
2. Yn nodi casgliad yr
adroddiad bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel
pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd
celsius.
3. Yn nodi bod y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi canfod bod
Llywodraeth Cymru yn debygol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau
allyriadau carbon erbyn 2020.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ba gamau breision y bydd yn eu
cymryd mewn ymateb i adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd:
5. Yn credu y dylai’r
camau hynny gynnwys:
a) gwaharddiad ar
ffracio yng Nghymru;
b) rhoi’r gorau i
gynllun llwybr du yr M4 a buddsoddi mewn atebion mwy cynaliadwy i ddatrys
problem capasiti yr M4 yn yr ardal;
c) cynnydd sylweddol
mewn buddsoddiad mewn ôl-osod tai a chryfhau rheoliadau adeiladu er mwyn
cyrraedd y nod o adeiladau ynni agos at sero; a
d) sefydlu cwmni ynni
cenedlaethol er mwyn helpu cyrraedd y nod o gynhyrchu cymaint o drydan ag sy’n
cael ei ddefnyddio yng Nghymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2035 gan fuddsoddi elw
mewn gwell gwasanaeth a phrisoedd i gleientiaid.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill
yng Nghymru i fod yn rhan o’r symudiad byd-eang i ddad-fuddsoddi mewn tanwydd
ffosil.
Adroddiad Panel
Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi’r dystiolaeth
sy’n dangos yr heriau i Gymru sydd ynghlwm wrth gyflawni ymrwymiadau Deddf yr
Amgylchedd (Cymru) 2016 o ran lleihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050.
Adeiladu
economi carbon isel yng Nghymru – Pennu targedau carbon Cymru
Deddf
yr Amgylchedd (Cymru) 2016
Gwelliant
2 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3:
Yn gwrthwynebu
defnyddio ynni niwclear fel ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Gwelliant
3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le:
5. yn croesawu Papur
Gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd Byw', sy'n cyflwyno cynigion i liniaru
achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys:
a) gwneud Caerdydd yn
brifddinas carbon niwtral gyntaf y DU;
b) gosod offer monitro llygredd aer ym mhob
ysgol a meithrinfa yng Nghymru;
c) cyflwyno menter
cartrefi clyfar i gefnogi micro gynlluniau ynni a chynlluniau ynni cymdogaethau
sydd am gynhyrchu, storio a chludo eu hynni eu hunain;
d) ymrwymo i darged o
orchudd canopi coed trefol o 20 y cant erbyn 2030;
e) cymell ac annog
toeau gwyrdd ar ddatblygiadau masnachol yng Nghymru; a
f) cyflwyno cerdyn
gwyrdd a fydd yn rhoi teithiau bws am ddim i bob plentyn rhwng 16 a 24 oed yng
Nghymru.
[Os
derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol]
Gwelliant
4 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae
Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd hyd yma o ran y newid yn yr hinsawdd gan
gynnwys:
a) gosod targedau
interim a chyllidebau carbon i Gymru a datblygu’r cynllun cyflenwi carbon isel
cyntaf.
b) cyhoeddi’r fersiwn
ddrafft o’r polisi echdynnu petroliwm at ddiben ymgynghori.
c) cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyfer
gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn a fydd yn arwain at leihad o 25 y
cant mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a chynlluniau i
ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd a all gefnogi rhwydwaith
trafnidiaeth carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru.
d) buddsoddi dros £240
miliwn yn rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Nyth ac
Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi a chymeradwyo
buddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod 2017-2021.
e) cychwyn adolygiad o
ran L o’r rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu lefel yr effeithlonrwydd ynni
sy’n ofynnol ar gyfer cartrefi newydd
f) gosod targed sy’n
golygu bod 70 y cant o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru’n dod o ffynonellau
adnewyddadwy erbyn 2030, gyda gwahanol gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’n
cefnogi cynnydd i 48 y cant yn 2017.
Polisi
echdynnu petrolewm yng Nghymru
Adolygiad
Rheoliadau Adeiladu Rhan L
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6835 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Panel
Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.
2. Yn nodi casgliad yr
adroddiad bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel
pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd
celsius.
3. Yn nodi bod y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi canfod bod Llywodraeth Cymru yn
debygol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn
2020.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ba gamau breision y bydd yn eu cymryd mewn
ymateb i adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd:
5. Yn credu y dylai’r camau
hynny gynnwys:
a) gwaharddiad ar ffracio yng
Nghymru;
b) rhoi’r gorau i gynllun
llwybr du yr M4 a buddsoddi mewn atebion mwy cynaliadwy i ddatrys problem
capasiti yr M4 yn yr ardal;
c) cynnydd sylweddol mewn
buddsoddiad mewn ôl-osod tai a chryfhau rheoliadau adeiladu er mwyn cyrraedd y
nod o adeiladau ynni agos at sero; a
d) sefydlu cwmni ynni
cenedlaethol er mwyn helpu cyrraedd y nod o gynhyrchu cymaint o drydan ag sy’n
cael ei ddefnyddio yng Nghymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2035 gan fuddsoddi elw
mewn gwell gwasanaeth a phrisoedd i gleientiaid.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru i fod
yn rhan o’r symudiad byd-eang i ddad-fuddsoddi mewn tanwydd ffosil.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
1 |
38 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r dystiolaeth sy’n dangos yr heriau i Gymru sydd
ynghlwm wrth gyflawni ymrwymiadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ran
lleihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
12 |
10 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3:
Yn gwrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o fynd
i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
1 |
8 |
41 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
5. yn croesawu Papur Gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd
Byw', sy'n cyflwyno cynigion i liniaru achosion ac effeithiau newid yn yr
hinsawdd, gan gynnwys:
a) gwneud Caerdydd yn brifddinas carbon niwtral gyntaf y
DU;
b) gosod offer
monitro llygredd aer ym mhob ysgol a meithrinfa yng Nghymru;
c) cyflwyno menter cartrefi clyfar i gefnogi micro gynlluniau
ynni a chynlluniau ynni cymdogaethau sydd am gynhyrchu, storio a chludo eu
hynni eu hunain;
d) ymrwymo i darged o orchudd canopi coed trefol o 20 y
cant erbyn 2030;
e) cymell ac annog toeau gwyrdd ar ddatblygiadau
masnachol yng Nghymru; a
f) cyflwyno cerdyn gwyrdd a fydd yn rhoi teithiau bws am
ddim i bob plentyn rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
4 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu
pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn
nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd hyd yma o ran y newid yn yr
hinsawdd gan gynnwys:
a)
gosod targedau interim a chyllidebau carbon i Gymru a datblygu’r cynllun
cyflenwi carbon isel cyntaf.
b)
cyhoeddi’r fersiwn ddrafft o’r polisi echdynnu petroliwm at ddiben ymgynghori.
c) cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyfer gwasanaeth
rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn a fydd yn arwain at leihad o 25 y cant mewn
allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a chynlluniau i ddatblygu
Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd a all gefnogi rhwydwaith trafnidiaeth
carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru.
d)
buddsoddi dros £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, sy’n
cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi a
chymeradwyo buddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod 2017-2021.
e)
cychwyn adolygiad o ran L o’r rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu lefel yr
effeithlonrwydd ynni sy’n ofynnol ar gyfer cartrefi newydd
f)
gosod targed sy’n golygu bod 70 y cant o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru’n
dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, gyda gwahanol gamau gweithredu gan
Lywodraeth Cymru’n cefnogi cynnydd i 48 y cant yn 2017.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
12 |
10 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6835 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Panel
Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.
2. Yn nodi casgliad yr
adroddiad bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel
pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd
celsius.
3. Yn
nodi’r dystiolaeth sy’n dangos yr heriau i Gymru sydd ynghlwm wrth gyflawni
ymrwymiadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ran lleihau allyriadau o leiaf
80 y cant erbyn 2050.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ba gamau breision y bydd yn eu cymryd mewn
ymateb i adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd:
5. Yn nodi’r camau y mae
Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd hyd yma o ran y newid yn yr hinsawdd gan
gynnwys:
a)
gosod targedau interim a chyllidebau carbon i Gymru a datblygu’r cynllun
cyflenwi carbon isel cyntaf.
b)
cyhoeddi’r fersiwn ddrafft o’r polisi echdynnu petroliwm at ddiben ymgynghori.
c) cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyfer
gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn a fydd yn arwain at leihad o 25
y cant mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a chynlluniau i
ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd a all gefnogi rhwydwaith
trafnidiaeth carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru.
d)
buddsoddi dros £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, sy’n
cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi a
chymeradwyo buddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod 2017-2021.
e)
cychwyn adolygiad o ran L o’r rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu lefel yr
effeithlonrwydd ynni sy’n ofynnol ar gyfer cartrefi newydd
f)
gosod targed sy’n golygu bod 70 y cant o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru’n
dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, gyda gwahanol gamau gweithredu gan
Lywodraeth Cymru’n cefnogi cynnydd i 48 y cant yn 2017.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru i fod
yn rhan o’r symudiad byd-eang i ddad-fuddsoddi mewn tanwydd ffosil.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
3 |
10 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd