Cyfarfodydd

Cyllid Ysgolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Addysg ynghylch yr adolygiad o gyllido ysgolion

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/02/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Undebau Llafur ynghylch adolygiad Llywodraeth Cymru o ariannu ysgolion

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch eglurhad am Asesiadau wedi'u Seilio ar Ddangosyddion a'u diben o fewn cyfrifiadau Setliad y Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/07/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Lansio adroddiad y Pwyllgor ar Gyllido Ysgolion (drwy wahoddiad yn unig) (Ystafell Bwyllgora 5)


Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 12/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Caiff yr adroddiad drafft ei drafod eto yn y cyfarfod ar 26 Mehefin.

 


Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - gwybodaeth ychwanegol ar gyfer yr ymchwiliad i Gyllido Ysgolion yn dilyn y cyfarfod ar 3 Ebrill

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - trafod y materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol. Bydd adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod ar 12 Mehefin.

 


Cyfarfod: 02/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - trafod y prif faterion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Oherwydd cyfyngiadau amser bydd y papur yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod wythnos nesaf.

 


Cyfarfod: 02/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-872 - Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/04/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

 


Cyfarfod: 03/04/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - sesiwn dystiolaeth

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Phartneriaethau Gweithlu

Steve Davies, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidogion.

2.2 Cytunodd y Gweinidogion i ddarparu nodyn ar gymhlethdodau'r trefniadau ar gyfer trosglwyddo cyllidebau i flynyddoedd dilynol, mewn perthynas â'r potensial ar gyfer cyllidebau tair blynedd i ysgolion.

 


Cyfarfod: 20/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd.

 


Cyfarfod: 20/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - sesiwn dystiolaeth

Debbie Harteveld, Rheolwr Gyfarwyddwr - Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) De-ddwyrain Cymru

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr - GwE

Geraint Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr – Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)

Esther Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro – Consortiwm Canolbarth y De (CSC)

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Consortia Rhanbarthol.

 


Cyfarfod: 20/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - sesiwn dystiolaeth

 

Chris Llewelyn, Prif Weithredwr - CLlLC
Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau - CLlLC

Dilwyn Williams, Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd ac aelod o'r Is-grŵp Dosbarthu

Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen a Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau

Paula Ham, Arweinydd Strategol CCAC – Cyllid a Chyfarwyddwr Addysg, Cyngor Bro Morgannwg



 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.

 

2.2        Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu nodyn ynglŷn â'r canlynol:

·         y goblygiadau o ran cost yn sgil dyfarniad cyflogau athrawon a chyfraniadau pensiwn cysylltiedig y cyflogwyr, ac a yw Llywodraeth Cymru yn ariannu'r rhain yn llawn; a'r

·         newidiadau y mae'r Is-grŵp Dosbarthu wedi'u gwneud neu wedi ystyried eu gwneud i'r fformiwla setliad llywodraeth leol yn y blynyddoedd diwethaf.

 

 


Cyfarfod: 21/02/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - sesiwn dystiolaeth

Tim Cox, Swyddog Gwaith Achos a Pholisi Cymru - NASUWT

David Evans, Ysgrifennydd Cymru - NEU

Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol - UCAC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan NASUWT, NEU ac UCAC.

 


Cyfarfod: 21/02/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau.

 


Cyfarfod: 21/02/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - sesiwn dystiolaeth

Tim Pratt, Cyfarwyddwr - ASCL Cymru

Lee Cummins, Pennaeth Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele - Is-Lywydd ASCL

Rob Williams, Cyfarwyddwr - NAHT Cymru

Dean Taylor, Pennaeth Ysgol Gynradd Pentrepoeth, Casnewydd - Llywydd NAHT Cymru

Tim Newbould, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Ysgol Penycae, Wrecsam - Aelod Gweithredol o NAHT Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ASCL a NAHT.

 

2.2 Gwnaethant gytuno i ddarparu gwybodaeth yn sgil cais rhyddid gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol ynghylch faint o arian a wariwyd ar welliannau ysgol.

 


Cyfarfod: 07/02/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - Ymweliadau ysgol

Bydd y Pwyllgor yn ymweld ag ysgolion i ddeall yn well sut y mae prosesau cyllido ysgolion yn gweithio’n ymarferol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Ymwelodd y Pwyllgor ag ysgolion ym Merthyr Tudful ac Aberaeron i weld sut mae’r broses cyllido ysgolion yn gweithio.


Cyfarfod: 24/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Cyllido Ysgolion - Ymweliadau ag Ysgolion

Bydd y Pwyllgor yn ymweld ag ysgolion yn Rhisga a Sir Ddinbych i ddeall yn well sut y mae prosesau cyllido ysgolion yn gweithio’n ymarferol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ymwelodd y Pwyllgor ag ysgol yn Rhisga i weld sut roedd proses cyllido’r ysgol yn gweithio. Gohiriwyd yr ymweliad â’r ysgol yn Sir Ddinbych tan ddyddiad diweddarach.


Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Cyllido Ysgolion - Digwyddiad Bord Gron (Gwahoddedigion yn unig) (YB5)

Bydd y Pwyllgor yn cwrdd â rhanddeiliaid allweddol i drafod pa mor ddigonol yw cyllid ysgolion yng Nghymru a’r ffordd y caiff cyllidebau ysgolion eu pennu a’u dyrannu. Nid yw'r digwyddiad hwn yn agored i'r cyhoedd.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau yr ymchwiliad Cyllido Ysgolion gyda rhanddeiliaid. Byddai nodyn o’r digwyddiad yn cael ei gyhoeddi.

 


Cyfarfod: 16/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Cyllido Ysgolion - Briffio technegol

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan  yr ymchwilwyr ynghylch yr ymchwiliad Cyllido Ysgolion.

 


Cyfarfod: 08/11/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - ymchwiliad i gyllido ysgolion

Dogfennau ategol: