Cyfarfodydd

P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-843 Rhagor o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Dai Lloyd AC fuddiant gan ei fod wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r deisebydd yn y gorffennol.

 

O ystyried bod y cynnig o ran hawliau apelio trydydd parti wedi’i wrthod gan Lywodraeth Cymru - fel yr oedd yn ystod ystyriaeth flaenorol a roddwyd i’r mater hwn wrth graffu ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 - mae’n anodd gweld sut y gall y Pwyllgor weithredu ymhellach ar y ddeiseb. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am ei chyfraniadau i’r broses.

 

 

 


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps. 

 

Cytunodd y Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig i'r Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth, gan gynnwys y potensial ar gyfer apeliadau lle cymeradwywyd cais cynllunio yn groes i gynnwys cynllun datblygu lleol, sut mae modd herio penderfyniadau cynllunio, a phrosesau ar gyfer monitro perfformiad arolygwyr cynllunio.

 

 


Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd. Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a chytunodd i godi materion perthnasol yn ystod ei sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â nifer o ddeisebau sy'n gysylltiedig â chynllunio yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin.

 


Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

  • ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am ei hymateb i'r sylwadau ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebydd a chynnwys y papur a luniwyd gan Glinig y Sefydliad Cyfraith Amgylcheddol Caerdydd; ac
  • ystyried cynnal sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog ar sawl deiseb sy'n gysylltiedig â chynllunio mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

 

 


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r deisebydd, a chyn ystyried pa gamau pellach y gallai eu cymryd, cytunodd y bydd yn derbyn cynnig y deisebydd i ddarparu adroddiad pellach ar y rheswm y mae angen i'r gyfraith newid yn y maes hwn.

 

 


Cyfarfod: 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno ar y camau a ganlyn:

  • Ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn iddi ymateb i bryderon manwl y deisebwyr.  Nododd y Pwyllgor y bydd, efallai, am gynnal sesiwn dystiolaeth ar hyn a materion cynllunio eraill yn y dyfodol pan fydd wedi trafod yr ymateb a geir; ac
  • Ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru er mwyn:
    • ceisio ei farn am y ddeiseb; a
    • gofyn iddo rannu pryderon sydd ganddo ynghylch y modd y mae awdurdodau cynllunio lleol yn ystyried barn trydydd partïon yn y broses gynllunio.