Cyfarfodydd
P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 11.11.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 295 KB Gweld fel HTML (3/2) 36 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebwyr a
nododd yr Aelodau eu siom na chafwyd ymateb i ohebiaeth flaenorol gan yr
Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd.
Fodd bynnag, yn sgil y ffaith bod penderfyniadau ynghylch
datblygu Wylfa Newydd yn destun ymchwiliad cynllunio ac y byddant yn cael eu
gwneud gan Lywodraeth Cymru yn y pen draw, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb
ar y sail nad oes llawer o graffu pellach a allai gyfrannu’n ddefnyddiol at y
broses hon.
Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 45 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 09.01.19 Gohebiaeth – Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 305 KB
- 22.01.19 Gohebiaeth – Y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 288 KB Gweld fel HTML (3/3) 19 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
·
ysgrifennu
at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd yn gofyn iddo ystyried
defnyddio'r cyllid a fyddai wedi mynd i Wylfa Newydd i gefnogi'r gwaith o
ddatblygu ymhellach gynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 45 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 16.11.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 587 KB Gweld fel HTML (3/2) 74 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebwyr a chytunodd i:
·
anfon
sylwadau ychwanegol y deisebwyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio
a Materion Gwledig a gofyn iddi ymateb i'r pwyntiau a godwyd a rhoi gwybod am y
camau posibl y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd; a
·
gofyn i
Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r sylwadau hyn a'r adroddiad diweddar gan
y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd, ystyried trefnu dadl yn
ystod amser y Llywodraeth ar ddatblygu ynni gwyrdd a chefnogaeth i'r gwaith
hwn.
Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2
PDF 45 KB Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 154 KB Gweld fel HTML (2/2) 50 KB
- 06.09.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig at y Cadeirydd, Eitem 2
PDF 1 MB
- 01.10.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 2
PDF 633 KB Gweld fel HTML (2/4) 114 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd i
ysgrifennu at y deisebwyr:
- i esbonio mai ychydig iawn o graffu
ymarferol y gall y Pwyllgor ei wneud ar yr agwedd gorsaf bŵer
niwclear Wylfa Newydd, gan mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y
datblygiad hwn; a
- gofyn a hoffent gynnig unrhyw sylwadau
ychwanegol ar y prif bwyntiau a godwyd yn y ddeiseb sy'n ymwneud â sut y
gellid gwella neu gynyddu'r gefnogaeth a'r buddsoddiad mewn technolegau
adnewyddadwy a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.