Cyfarfodydd

P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i Addysgu Hanes a Diwylliant Cymru, ac i roi rhagor o wybodaeth i'r deisebydd o ran sut y gall gyfrannu at hyn.

 


Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am gael rhagor o wybodaeth hefyd gan y deisebydd am y datganiad a wnaed yn y ddeiseb bod hanes Cymru wedi'i ysgrifennu yn Gymraeg.