Cyfarfodydd
NNDM6753 - Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl ar NNDM6753 - Ysgrifennydd Gwladol Cymru
NNDM6753
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn datgan nad oes ganddo bellach
hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni proseictau seilwaith mawr, yn
dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae
Abertawe.
2. Yn datgan nad oes ganddo
hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn credu y dylai’r swydd gael ei
dileu a’i disodli gan gyngor Gweinidogion y DU, wedi’i gyfansoddi’n briodol
gyda phwerau cyfartal i wneud penderfyniadau ar y cyd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi yn
ei le:
1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi
mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae
Abertawe a thrydaneiddio’r brif linell rhwng Caerdydd ac Abertawe.
2. Yn gresynu at fethiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru i
ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor o fuddsoddiad gan Lywodraeth
y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.
3. Yn credu:
a) bod rhaid sicrhau rhagor o gydweithredu sy’n fwy
cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig;
b) bod angen diwygio peirianwaith rhynglywodraethol y DU
gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth
annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio a’r broses o wneud penderfyniadau.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyflawniadau sylweddol Ysgrifennydd Gwladol
Cymru, sy'n cynnwys:
a) y cytundeb â Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol
hanesyddol;
b) diddymu tollau'r pontydd Hafren;
c) buddsoddiad sylweddol mewn bargeinion dinesig a
bargeinion twf rhanbarthol ledled Cymru; a
d) y cyhoeddiad diweddar ynghylch negodiadau pellach i
ddatblygu ac adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa Newydd.
2. Yn nodi anallu Llywodraeth Cymru i ddarparu cynnydd ar
brosiectau seilwaith mawr ledled Cymru, yn dilyn ei phenderfyniad i wrthod
Cylchffordd Cymru a'i methiant parhaus i gyflawni gwelliannau i'r M4, yr A40
a'r A55.
3. Yn credu bod swydd a swyddfa Ysgrifennydd Gwladol
Cymru yn hanfodol o ran cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Llywodraeth y DU.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.07
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NNDM6753 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn datgan nad oes ganddo bellach hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru i
gyflawni prosiectau seilwaith mawr, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San
Steffan i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae Abertawe.
2. Yn datgan nad oes ganddo hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn
credu y dylai’r swydd gael ei dileu a’i disodli gan gyngor Gweinidogion y DU,
wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda phwerau cyfartal i wneud penderfyniadau ar y
cyd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
40 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl
Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi yn ei le:
1. Yn gresynu at
fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr yng
Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio’r brif
linell rhwng Caerdydd ac Abertawe.
2. Yn gresynu at fethiant
Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor
o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.
3. Yn credu:
a) bod rhaid sicrhau
rhagor o gydweithredu sy’n fwy cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r
llywodraethau datganoledig;
b) bod angen diwygio
peirianwaith rhynglywodraethol y DU gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar
gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio
a’r broses o wneud penderfyniadau.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
1 |
18 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NNDM6753 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at
fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr yng
Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio’r brif
linell rhwng Caerdydd ac Abertawe.
2. Yn gresynu at fethiant
Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor
o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.
3. Yn credu:
a) bod rhaid sicrhau
rhagor o gydweithredu sy’n fwy cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r
llywodraethau datganoledig;
b) bod angen diwygio
peirianwaith rhynglywodraethol y DU gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar
gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio
a’r broses o wneud penderfyniadau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
18 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.