Cyfarfodydd
P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 114 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 6.11.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3
PDF 99 KB
- 17.11.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/3) 3 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd
yr ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
y byddai'r deisebau sy'n dod i law, a barn trigolion lleol, yn cael eu
hystyried yn ystod y broses o adolygu'r terfyn cyflymder. Wrth wneud hynny, cytunodd y Cadeirydd i
ysgrifennu at y deisebydd i egluro'r rhesymau dros hyn ac i egluro na all y
Pwyllgor Deisebau ei hun wneud y newid y gofynnwyd amdano yn uniongyrchol.
Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 113 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 25.08.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3
PDF 21 KB
- 07.09.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/3) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau gan y
deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a
oes cynlluniau, ar hyn o bryd, i wella'r A487 o ystyried ei phwysigrwydd
strategol a'r ffaith ei bod yn mynd drwy nifer fawr o bentrefi lle mae pryderon
ynglŷn â chyflymder y traffig.
Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2
PDF 113 KB Gweld fel HTML (2/1) 6 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 75 KB Gweld fel HTML (2/2) 41 KB
- 19.06.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 2
PDF 144 KB
- 21.06.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 99 KB Gweld fel HTML (2/4) 4 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
- ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y
canlynol:
o
rhagor o wybodaeth am statws presennol ymrwymiadau blaenorol i archwilio
i'r posibl o dynnu statws cefnffordd yr A487 yn Aberystwyth, ac a yw'r gwaith
hwn yn dal i fwrw ymlaen;
- ystyried
y ddeiseb eto ynghyd â deisebau presennol eraill yn ymwneud â therfynau
cyflymder unwaith y bydd Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb i ohebiaeth
flaenorol y Pwyllgor yn ymwneud â'r Adolygiad Terfyn Cyflymder.