Cyfarfodydd

P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod Llywodraeth Cymru wedi adfer y grant ar gyfer y gwasanaethau hyn yn 2018-19 a 2019-20, a gwaith craffu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllideb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Grant Gwella Addysg.

 


Cyfarfod: 18/10/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r deisebydd a chytunodd i rannu copi o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i dynnu sylw at y ddeiseb pan fydd y Pwyllgor hwnnw yn craffu'n fuan ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20.

 

 


Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am fanylion am y canlynol:

  • rhagor o wybodaeth am y fformwla a ddefnyddir i ddyrannu arian i bob awdurdod lleol o dan yr EIG a'r trefniadau trosiannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar;

 

  • manylion am ba waith ymgynghori sydd wedi'i wneud gyda chynghorwyr neu randdeiliaid cyn y penderfyniad i brif ffrydio cymorth i ddysgwyr o leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr;

 

  • sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro effaith y newid hwn a'r ddarpariaeth cymorth parhaus gan awdurdodau lleol.