Cyfarfodydd
P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 21.10.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 126 KB
- 22.10.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/3) 5 KB
- 29.10.19 Datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru: Cronfa newydd i ddarparu prostheses chwaraeon i blant a phobol ifanc yng Nghymru, Eitem 3
PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/4) 4 KB
- 04.11.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/5) 3 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chyhoeddiad a wnaed gan
Lywodraeth Cymru ar 29 Hydref 2019 y bydd cronfa i ddarparu prostheteg
chwaraeon arbenigol i blant a phobl ifanc yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill
2020. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni hyn ac ysgrifennu at y
deisebydd i'w longyfarch am lwyddiant y ddeiseb.
Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 42 KB Gweld fel HTML (3/1) 23 KB
- 05.07.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 170 KB
- 03.09.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/3) 24 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am
ddiweddariad ar:
·
y cynnydd a
wnaed mewn perthynas ag achos busnes dros ddatblygu gwasanaeth i ddarparu
prostheses chwaraeon arbenigol i blant; ac
·
yr
ystyriaeth a roddir i ddarparu copi o'r achos busnes i'r Pwyllgor
Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 42 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 23.01.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 266 KB
- 15.05.19 Gohebiaeth - Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru at t Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 176 KB Gweld fel HTML (3/3) 4 KB
- 16.05.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 184 KB Gweld fel HTML (3/4) 6 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn:
·
am
ddiweddariad am ei fwriadau mewn perthynas ag argaeledd prostheteg chwaraeon yn
y dyfodol,
·
am ei
amserlenni disgwyliedig ar gyfer ystyried achos busnes llawn ar y mater hwn, ac
i ofyn am gopi o'r achos busnes ar ôl iddo gael ei gwblhau; ac
·
a yw
Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ymchwil i ddatblygiad neu addasrwydd argraffu
3D at y diben hwn, neu a yw wedi cefnogi ymchwil o’r fath.
Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 42 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 26.11.18 Gohebiaeth - Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 89 KB
- 04.12.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 35 KB Gweld fel HTML (3/3) 9 KB
Cofnodion:
Datganodd
Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae cwmni
yn ei etholaeth yn gwneud aelodau prosthetig drwy argraffu 3D.
Trafododd
y Pwyllgor ymateb gan Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a
chytunodd i:
- ysgrifennu yn ôl at WHSSC i:
o
ofyn am
ragor o fanylion am yr adolygiad o fanyleb y Gwasanaethau Adsefydlu
Trychedigion a Phrosthetig, gan gynnwys y broses, yr amserlenni a rhestr o'r
rhanddeiliaid y mae'n bwriadu ymgynghori â hwy; a
o
cheisio
rheswm llawn y tu ôl i'r cyfyngiadau o fewn y fanyleb bresennol ar gyfer
Gwasanaethau Adsefydlu Trychedigion a Phrosthetig ar gyfer aelodau isaf
hamdden; ac
- ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn:
o
i
Lywodraeth Cymru ystyried sicrhau bod cyllid penodol ar gael i blant allu cael
gafael ar aelodau prosthetig chwaraeon arbenigol; a
o
pha
rwystrau sydd i ddefnyddio argraffu 3D ar gyfer cynhyrchu aelodau prosthetig.
Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2
PDF 41 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- 07.06.18 Gohebiaeth - Deisebydd at y tîm clercio, Eitem 2
PDF 81 KB Gweld fel HTML (2/2) 36 KB
- Briff ymchwil, Eitem 2
PDF 80 KB
- 08.05.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 2
PDF 367 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru
(WHSSC) i ofyn am ragor o fanylion am y polisi presennol ar gyfer darparu
gwasanaethau prosthetig, gan ofyn:
·
pam mae'n
ymddangos bod gwahaniaeth yn cael ei wneud rhwng breichiau a choesau;
·
faint o
geisiadau a gafwyd ar gyfer coesau prosthetig hamdden o dan y broses Ceisiadau
Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), ac amcan o'r gyfran a gymeradwyir;
·
am
fanylion am y gost ychwanegol gyfartalog sy'n gysylltiedig â darparu coes
brosthetig hamdden i blentyn neu berson ifanc; ac
·
i ba
raddau y mae technoleg argraffu 3D yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd, neu y
gellid ei defnyddio yn y dyfodol, i gynhyrchu aelodau prosthetig.