Cyfarfodydd

P-05-814 Pob adeilad newydd yng Nghymru i gael paneli solar

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-814 Pob Adeilad Newydd yng Nghymru i gael Paneli Solar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o ystyried nad oedd llawer o gamau y gallent eu cymryd gyda'r ddeiseb ar hyn o bryd, cytunwyd i hysbysu'r deisebydd o ganlyniad yr adolygiad o Ran L o reoliadau'r adeiladau y disgwylir iddynt gychwyn ar ddechrau 2019 ac ystyried y ddeiseb eto bryd hynny.

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-814 Pob adeilad newydd yng Nghymru i gael paneli solar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • aros am sylwadau'r deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig; a
  • gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am fanylion ychwanegol am yr amserlenni ar gyfer yr adolygiad o Ran L (Cadwraeth tanwydd a phŵer) y Rheoliadau Adeiladu.