Cyfarfodydd

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Trafod yr adroddiad drafft - P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, cytunodd ar rai diwygiadau a chytunodd y byddai'n cytuno ar fersiwn derfynol o'r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i lunio adroddiad o’i ystyriaeth o’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, cyn llunio adroddiad ar y mater hwn, i ofyn am y canlynol:

·         diweddariad ar y gwaith o weithredu’r fanyleb fframwaith gwasanaeth newydd a reolir ar gyfer gweithwyr asiantaeth;

·         ymateb i'r pwyntiau a godwyd gan asiantaethau cyflenwi a'r deisebydd ynghylch y ffaith nad yw'r gyfradd isafswm cyflog cenedlaethol yn cael ei dilyn mewn rhai achosion nac yn cael ei gadarnhau gan ddeddfwriaeth; a

·         gwybodaeth am y camau gweithredu nesaf yn dilyn y gwerthusiad diweddar o'r Prosiect Model Cyflenwi Clwstwr mewn Ysgolion.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth nifer o randdeiliaid a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         Gofyn am farn asiantaethau cyflenwi am y materion a godwyd gan y ddeiseb; ac ar ôl cael hynny

·         defnyddio'r holl dystiolaeth a gasglwyd hyd yma i lunio adroddiad, gan gynnwys argymhellion, ar ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Addysg a chytunodd i:

  • ysgrifennu at sefydliadau eraill megis CLlLC, NUT, NASUWT a NAHT i gael eu barn am y ddeiseb; a
  • gofyn am farn y deisebydd am y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn Dystiolaeth P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg

Neil Welch - Pennaeth Ymgysylltu â'r Gweithlu, Llywodraeth Cymru

Gail Deane - Uwch-reolwr Polisi, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Neil Welch.


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i wahodd y Gweinidog Addysg i ddod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth ynghylch y mater.

 

 


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

mae wedi gweithio fel athro cyflenwi yn y gorffennol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:

o   ofyn am ymateb i'r cwestiynau pellach a ofynnwyd gan y deisebwyr;

o   gofyn iddi egluro pam nad yw'n meddwl ar hyn o bryd y byddai'n addas cael trefniant sector cyhoeddus rhanbarthol neu leol o ran darparu athrawon cyflenwi; a

  • gofyn am nodyn cyfreithiol ar bwerau Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion neu awdurdodau lleol i gyflogi staff cyflenwi yn uniongyrchol.

 

 


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi gweithio fel athro cyflenwi yn y gorffennol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried datblygu model gwahanol i gadw rhestr o athrawon cyflenwi – fel ffordd o ymdrin â’r mater yn y sector cyhoeddus - ochr yn ochr â'r gwaith o adolygu'r fframwaith gwasanaeth a reolir ar gyfer gweithwyr asiantaeth; a

·         gofyn am ragor o wybodaeth am ysgolion unigol neu awdurdodau lleol sy'n cyflogi athrawon cyflenwi heb ddefnyddio asiantaethau.

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiwetharaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am waith sydd ar droed er mwyn:

  • gweithredu model Cymru ar gyfer pennu tâl ac amodau athrawon; a
  • diwygio manyleb y tendr ar gyfer asiantaethau.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am:

 

·         ei hymateb i'r cynigion a wnaed gan y deisebwyr;

·         ei barn ar y posibilrwydd y gallai'r consortia addysg rhanbarthol gymryd rhan yn y trefniadau ar gyfer darparu athrawon cyflenwi yn eu hardaloedd; a'r

·         wybodaeth ddiweddaraf am:

    • waith y Gweithgor Cyflenwi; a'r
    • adolygiad o'r contract presennol ar gyfer dewis ddarparwr yr athrawon cyflenwi.

 


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi gweithio fel athro cyflenwi o'r blaen.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ystod o faterion a phryderon a godwyd yn sgil y ddeiseb, cytunodd i ofyn i'r deisebwyr a oes atebion penodol i'r materion a godwyd yr hoffent i'r Pwyllgor eu trafod wrth barhau i ystyried y ddeiseb.