Cyfarfodydd
NDM6692 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru – Pobl Ifanc a chymunedau yng Nghymru
NDM6692 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled
Cymru'n profi allfudo sylweddol o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a
thu hwnt.
2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau
Cymru.
3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer cynllun
grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig a'u
denu i'r ardaloedd hynny.
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i greu cyfleoedd i
bobl ifanc i'w galluogi i ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwella'r cyfleoedd economaidd a roddir i bobl ifanc mewn cymunedau ym
mhob rhan o Gymru;
b) darparu cefnogaeth well i fusnesau newydd yng Nghymru a gwella'r
isadeiledd digidol a thrafnidiaeth y maent yn dibynnu arnynt;
c) cefnogi ymagwedd ranbarthol newydd i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd dan
bwysau arbennig o ganlyniad i ymfudiad allanol, e.e. rhanbarth Arfor a'r
cymoedd.
d) ystyried a ellir lleoli sefydliadau cenedlaethol presennol neu newydd
mewn ardaloedd yng Nghymru sydd angen mwy o gyfleoedd gwaith;
e) darparu tai fforddiadwy a diwygio'r system gynllunio i alluogi pobl
ifanc i aros a/neu ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau;
f) ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Adolygiad Diamond i gymell myfyrwyr
sy'n gadael i astudio i ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi compact Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur o
2016-2017 a chytundeb clymblaid Cymru'n Un â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad
Llafur Cymru o 2007-2011, ac yn credu bod Llywodraeth bresennol Cymru a
Llywodraethau Cymru yn y gorffennol wedi methu â chreu cyfleoedd i bobl ifanc
ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i greu
swyddi sy'n talu'n dda i bobl ifanc mewn cymunedau yng Nghymru drwy gymryd
camau sy'n cynnwys:
a) lleihau mewnfudo torfol a'r pwysau cysylltiedig y mae'n ei roi ar
gyflogau galwedigaethau heb sgiliau a lled-fedrus, fel y datgelwyd yn
mhapur gweithio Banc Lloegr ar effaith mewnfudo ar gyflogau galwedigaethol;
b) lleihau trethi a rheoleiddio ar gyfer pob busnes, yn enwedig busnesau
bach a chanolig;
c) lleihau baich treth incwm ac yswiriant cenedlaethol;
d) rhoi'r gorau i'r agenda cynhesu byd-eang a datgarboneiddio sy'n agenda
gwneuthuredig, a'i gymorthdaliadau gwyrdd cysylltiedig, sy'n trosglwyddo cyfoeth
oddi wrth y tlawd i'r cyfoethog;
e) annog cynllunwyr a llunwyr polisi i symbylu creu swyddi â chyflogau da
mewn ardaloedd gwledig, pentrefi a threfi llai, yn hytrach na dinasoedd mawr yn
unig; ac
f) torri cyllideb cymorth tramor nad yw'n ddyngarol ac ailgyfeirio'r
arbedion yn gymesur i bobl Cymru.
Bank of England - The impact of immigration on
occupational wages: evidence from Britain (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu strategaeth ddiwydiannol fodern ac uchelgeisiol Llywodraeth
y DU sy'n nodi cynllun tymor hir i hybu cynhyrchiant a grym ennill pobl ifanc
ledled Cymru a'r DU.
2. Yn nodi'r ffigurau a ryddhawyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
sy'n dangos bod graddedigion Cymru yn ennill llai nag yn unman arall yn y DU.
3. Yn gresynu bod Llywodraethau Llafur Cymru – gyda chefnogaeth pleidiau
eraill – ers 1999, wedi methu â chynyddu ffyniant economaidd ac addysgol pobl
ifanc yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc
a chymorth i fusnesau ac entrepreneuriaid drwy:
a) diddymu ardrethi busnes i bob busnes bach (hyd at £15,000);
b) cyflwyno cynllun teithio ar fysiau am ddim a chardiau disgownt
rheilffordd ar gyfer pawb rhwng 16 a 24 oed; ac
c) cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc i sicrhau cyllid ar gyfer busnesau
newydd.
UK Government -
The UK's Industrial Strategy (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i bobl ifanc,
gan gynnwys drwy:
a) Twf Swyddi Cymru, sydd wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael
swyddi o ansawdd da;
b) prentisiaethau o ansawdd uchel a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru
wedi’i wneud i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod
tymor y Cynulliad hwn;
c) mynediad at dai gan fod 10,000 o dai fforddiadwy wedi’u codi yn ystod y
pedwerydd Cynulliad a chan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau 20,000 yn
rhagor yn ystod tymor y Cynulliad hwn;
d) helpu myfyrwyr â’u costau byw drwy sicrhau y byddant yn derbyn swm sy’n
cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio;
e) cynnal Bwrsariaeth y GIG i helpu pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn GIG
Cymru;
f) buddsoddi £100m i wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod
tymor y Cynulliad hwn.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.35
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6692 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled Cymru'n profi allfudo sylweddol
o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a thu hwnt.
2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau
Cymru.
3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer
cynllun grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig
a'u denu i'r ardaloedd hynny.
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i greu cyfleoedd i
bobl ifanc i'w galluogi i ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwella'r cyfleoedd economaidd a roddir i bobl ifanc mewn cymunedau ym
mhob rhan o Gymru;
b) darparu cefnogaeth well i fusnesau newydd yng Nghymru a gwella'r
isadeiledd digidol a thrafnidiaeth y maent yn dibynnu arnynt;
c) cefnogi ymagwedd ranbarthol newydd i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd
dan bwysau arbennig o ganlyniad i ymfudiad allanol, e.e. rhanbarth Arfor a'r
cymoedd.
d) ystyried a ellir lleoli sefydliadau cenedlaethol presennol neu newydd
mewn ardaloedd yng Nghymru sydd angen mwy o gyfleoedd gwaith;
e) darparu tai fforddiadwy a diwygio'r system gynllunio i alluogi pobl
ifanc i aros a/neu ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau;
f) ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Adolygiad Diamond i gymell
myfyrwyr sy'n gadael i astudio i ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
7 |
1 |
41 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi compact Plaid
Cymru â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur o 2016-2017 a chytundeb
clymblaid Cymru'n Un â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur Cymru o
2007-2011, ac yn credu bod Llywodraeth bresennol Cymru a Llywodraethau Cymru yn
y gorffennol wedi methu â chreu cyfleoedd i bobl ifanc ddewis byw a gweithio yn
eu cymunedau.
2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i greu swyddi sy'n talu'n dda i bobl
ifanc mewn cymunedau yng Nghymru drwy gymryd camau sy'n cynnwys:
a) lleihau mewnfudo
torfol a'r pwysau cysylltiedig y mae'n ei roi ar gyflogau galwedigaethau
heb sgiliau a lled-fedrus, fel y datgelwyd yn mhapur gweithio Banc Lloegr ar
effaith mewnfudo ar gyflogau galwedigaethol;
b) lleihau trethi a
rheoleiddio ar gyfer pob busnes, yn enwedig busnesau bach a chanolig;
c) lleihau baich treth
incwm ac yswiriant cenedlaethol;
d) rhoi'r gorau i'r
agenda cynhesu byd-eang a datgarboneiddio sy'n agenda gwneuthuredig, a'i
gymorthdaliadau gwyrdd cysylltiedig, sy'n trosglwyddo cyfoeth oddi wrth y tlawd
i'r cyfoethog;
e) annog cynllunwyr a
llunwyr polisi i symbylu creu swyddi â chyflogau da mewn ardaloedd gwledig,
pentrefi a threfi llai, yn hytrach na dinasoedd mawr yn unig; ac
f) torri cyllideb
cymorth tramor nad yw'n ddyngarol ac ailgyfeirio'r arbedion yn gymesur i bobl
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
44 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Dileu popeth a
rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu
strategaeth ddiwydiannol fodern ac uchelgeisiol Llywodraeth y DU sy'n nodi
cynllun tymor hir i hybu cynhyrchiant a grym ennill pobl ifanc ledled Cymru a'r
DU.
2. Yn nodi'r ffigurau a
ryddhawyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch sy'n dangos bod graddedigion
Cymru yn ennill llai nag yn unman arall yn y DU.
3. Yn gresynu bod
Llywodraethau Llafur Cymru – gyda chefnogaeth pleidiau eraill – ers 1999, wedi
methu â chynyddu ffyniant economaidd ac addysgol pobl ifanc yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc a chymorth i fusnesau ac
entrepreneuriaid drwy:
a) diddymu ardrethi
busnes i bob busnes bach (hyd at £15,000);
b) cyflwyno cynllun
teithio ar fysiau am ddim a chardiau disgownt rheilffordd ar gyfer pawb rhwng
16 a 24 oed; ac
c) cynyddu cyfleoedd i
bobl ifanc i sicrhau cyllid ar gyfer busnesau newydd.
UK Government - The UK's
Industrial Strategy (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
5 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt
3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y cymorth y
mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i bobl ifanc, gan gynnwys drwy:
a) Twf Swyddi Cymru,
sydd wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da;
b) prentisiaethau o
ansawdd uchel a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i greu o leiaf
100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn;
c) mynediad at dai gan
fod 10,000 o dai fforddiadwy wedi’u codi yn ystod y pedwerydd Cynulliad a chan
fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau 20,000 yn rhagor yn ystod tymor y
Cynulliad hwn;
d) helpu myfyrwyr â’u
costau byw drwy sicrhau y byddant yn derbyn swm sy’n cyfateb i’r cyflog byw
cenedlaethol tra byddant yn astudio;
e) cynnal Bwrsariaeth y
GIG i helpu pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn GIG Cymru;
f) buddsoddi £100m i
wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
23 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6692 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled Cymru'n profi allfudo sylweddol
o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a thu hwnt.
2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau
Cymru.
3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer
cynllun grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig
a'u denu i'r ardaloedd hynny.
4. Yn cydnabod y cymorth
y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i bobl ifanc, gan gynnwys drwy:
a) Twf Swyddi Cymru,
sydd wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da;
b) prentisiaethau o
ansawdd uchel a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i greu o leiaf
100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn;
c) mynediad at dai gan
fod 10,000 o dai fforddiadwy wedi’u codi yn ystod y pedwerydd Cynulliad a chan
fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau 20,000 yn rhagor yn ystod tymor y
Cynulliad hwn;
d) helpu myfyrwyr â’u costau
byw drwy sicrhau y byddant yn derbyn swm sy’n cyfateb i’r cyflog byw
cenedlaethol tra byddant yn astudio;
e) cynnal Bwrsariaeth y
GIG i helpu pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn GIG Cymru;
f) buddsoddi £100m i
wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
7 |
16 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.