Cyfarfodydd

P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro....mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am y canlynol:

·         trosolwg o’r holl gamau gweithredu sydd wedi’u cymryd gan y Llywodraeth i fynd i’r afael â llygredd plastig fel cwpanau a chynhwysyddion bwyd polystyren; a

·         bod y gwaharddiad yn cael ei ymestyn i gynnwys polystyren untro. 

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog cyllid i ofyn am ddiweddariad ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i waith Llywodraeth y DU i weithredu treth ar becynnau plastig, ac opsiynau trethi penodol sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd i Gymru.

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-750 a P-05-829, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriadau perthnasol a gynhelir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd, cyn ystyried a ddylai gymryd camau pellach ar y deisebau.

 


Cyfarfod: 09/01/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 FIN(5)-01-19 PTN2 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-803 - 11 Rhagfyr 2018

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a chytunodd i:

 

·         rannu manylion y ddeiseb â'r Pwyllgor Cyllid;

  • monitro'r gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer trethi yn y maes hwn, gan gynnwys Strategaeth Adnoddau a Gwastraff Llywodraeth y DU sydd yn yr arfaeth; a
  • dychwelyd at y ddeiseb hon a deisebau eraill ynghylch plastigau untro unwaith y bydd gan y Pwyllgor ragor o wybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd ar y pwnc hwn.

 

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau'r DU ynghylch datblygu treth bosibl ar blastigau untro pan fo'n briodol.

 

 

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth! a chytunodd i ysgrifennu at:

  • Weinidog yr Amgylchedd i ofyn am y canlynol:
    •  manylion pellach am y trafodaethau y mae'n bwriadu eu cynnal gyda llywodraethau eraill o fewn y DU ar y posibilrwydd o gael System Dychwelyd Adneuo ledled y DU a threth plastig;
    • ei barn ar y pwynt arall a godwyd yn y ddeiseb ynghylch deddfu i sicrhau y gellir compostio'r holl gynwysyddion ac offer bwyd a diod untro yn gyfan gwbl; ac
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gael diweddariad ar ddatblygu treth bosibl ar blastigau untro.

 

 

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ystyried y ddeiseb ymhellach yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy, gyda'r bwriad o ystyried y ddwy ddeiseb gyda'i gilydd yn y dyfodol.