Cyfarfodydd
Introductions, apologies and declaration of interests
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd un
ymddiheuriad gan Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd a’r
Swyddog Cyfrifyddu.
1.2 Croesawodd y Pwyllgor Siwan Davies fel Prif
Weithredwr a Chlerc y Senedd dros dro a Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol.
1.3 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion cyfarfod 29 Ebrill, camau gweithredu a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
ARAC (22-03) Papur 1 - Cofnodion Drafft 29 Ebrill 2022
ARAC (22-03) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1 Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 29 Ebrill yn
ffurfiol a nodwyd diweddariadau i’r camau gweithredu.
2.2 Roedd Ed Williams wedi cael cadarnhad y byddai
amserlen ar gyfer y cynllun gwresogi ardal yn cael ei chytuno o fewn wyth
wythnos. Cytunodd i roi briff anffurfiol i’r Pwyllgor cyn yr hydref.
Cam i’w gymryd
-
Ed Williams i drefnu sesiwn friffio anffurfiol
ar strategaeth a gweithgareddau cynaliadwyedd Cyngor Caerdydd.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion y cyfarfod ar 14 Chwefror, camau gweithredu a'r materion a gododd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 1 - Cofnodion drafft cyfarfod 14
Chwefror 2022
ARAC (22-02) Papur 2 - Crynodeb o'r camau gweithredu
2.1 Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14
Chwefror yn ffurfiol. Roedd yr holl gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol
wedi cael eu cwblhau.
2.2 Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i Ed Williams am y briff
ar y Strategaeth Ystadau a ddarparodd i aelodau’r Pwyllgor ar 28 Mawrth 2022.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd un
ymddiheuriad gan Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru.
1.2 Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r tîm clercio am ddwyn
ynghyd pecyn da arall o bapurau, ac am eu dosbarthu hwy yn brydlon.
1.3 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a
chroesawodd Ed Williams yn ffurfiol i'w gyfarfod cyntaf. Nododd y Cadeirydd un
ymddiheuriad gan Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru.
1.2 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion cyfarfod 18 Mehefin, y camau gweithredu a'r materion a gododd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
ARAC (05-21) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod ar
18 Mehefin 2021
ARAC (05-21) Papur 2 - Crynodeb o'r camau
gweithredu
2.1
Roedd y
Pwyllgor wedi derbyn cofnodion cyfarfod 18 Mehefin yn ffurfiol ym mis
Gorffennaf ac nid oedd rhagor o sylwadau i'w nodi. Rhoddwyd sylw i'r holl gamau
gweithredu a oedd yn weddill.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chroesawodd Ken Skates yn
ffurfiol i'w gyfarfod cyntaf.
1.2
Nododd y Cadeirydd, gan y bydd Dave Tosh yn ymddeol o Gomisiwn y Senedd
ym mis Ionawr 2022, mai hwn fyddai ei gyfarfod olaf. Dymunodd ymddeoliad hapus
ac iach i Dave a diolchodd iddo am ei holl gymorth a chyngor dros y tair
blynedd diwethaf.
Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion cyfarfod 23 Ebrill, camau gweithredu a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
ARAC (03-21) Papur 1 - Cofnodion Drafft 24
Ebrill 2021
ARAC (03-21) Papur 2 - Crynodeb o'r camau
gweithredu
2.1
Cytunwyd
ar gofnodion cyfarfod 24 Ebrill. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr adolygiad
archwilio mewnol o reoli asedau TGCh, cadarnhaodd Gareth Watts nad oedd y
gwaith wedi'i gwblhau eto ac y byddai'r adroddiad yn cael ei ddosbarthu y tu
allan i'r pwyllgor. Eglurodd hefyd y byddai'n gweithio gyda'r tîm Cymorth
Busnes i’r Aelodau ar gwmpas y rhannu o’r adolygiad a oedd yn weddill ac y
byddai'n ystyried awgrym gan Suzy i gynnwys trafodaethau gydag Aelodau sy'n
ymadael.
2.2
Nododd y
Cadeirydd fod y camau gweithredu yn y tabl crynodeb wedi’u cwblhau a dywedodd
fod myfyrdodau Suzy ar ei haelodaeth o'r Pwyllgor wedi'u trafod gyda Manon.
Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd
bawb i'r cyfarfod, a’r prif ffocws fyddai ystyried eitemau'n ymwneud ag
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn. Ni chafwyd ymddiheuriadau. Roedd Suzy
Davies yn bresennol yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd gan nad oedd
Comisiynwyr newydd y Chweched Senedd wedi'u penodi eto.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion y cyfarfod ar 12 Chwefror, camau gweithredu a materion sy'n codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
ARAC
(02-21) Papur 1 – Cofnodion drafft y cyfarfod ar 12 Chwefror 2021
ARAC
(02-21) Papur 2 – Crynodeb o gamau gweithredu
2.1
Derbyniwyd cofnodion y
cyfarfod ar 12 Chwefror. Nododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn a godwyd gan
Suzy:
-
(paragraff 4.3) – i
gyd-fynd â’r archwiliad diweddar o brosesau i reoli asedau TGCh, bydd Gareth
Watts yn llunio adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddychwelyd asedau
TGCh a dodrefn gan Aelodau sy’n ymadael ar ôl yr etholiad. Cytunodd y Pwyllgor
y dylai hyn, lle bo hynny’n bosibl, gynnwys trafodaethau â’r Aelodau sy’n
ymadael yn ogystal â’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau.
-
(paragraff 5.3) – croesawodd
y Pwyllgor y ffaith y bydd yr Aelodau newydd, unwaith y byddant wedi’u hethol,
yn cael hyfforddiant ar seiberddiogelwch fel rhan o’r broses gynefino.
2.2
Cafodd y diweddariad ar y camau gweithredu
cryno ei nodi. Mewn perthynas â cham gweithredu 6.2, roedd Ann Beynon wedi
trafod ymgysylltiad y Comisiwn â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol â
Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol a Chynhwysiant, a byddai unrhyw gamau
gweithredu posibl sy’n dod i’r fei yn y maes hwn yn cael eu trafod â’r
swyddogion perthnasol.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 19)
Sylwadau gan Suzy Davies AS
Cofnodion:
Eitem lafar
4.1
Croesawodd Suzy y cyfle hwn i rannu ei sylwadau â’r
Pwyllgor a diolchodd i’r aelodau a’r swyddogion am fod mor groesawgar a
chefnogol. Ceir crynodeb o’i sylwadau isod.
4.2
Roedd safon eithriadol o uchel y gwaith a wneir ar draws
y sefydliad weithiau’n golygu ei bod yn heriol awgrymu gwelliannau. Fodd
bynnag, nododd Suzy fod yna ethos o wellhad parhaus, a bod y gwaith craffu gan
y Pwyllgor, yn ogystal â’r camau a gymerir i herio’r drefn, wedi gweithio’n
dda. Hefyd, bu newid mawr ymhlith yr uwch reolwyr yn ystod yr ychydig
flynyddoedd diwethaf a oedd wedi arwain at syniadau newydd yr oeddent i’w
croesawu.
4.3
Yn ogystal â’r busnes arferol, nododd Suzy fod ymateb y
Comisiwn i swmp y gwaith o ganlyniad i Brexit wedi bod yn syfrdanol, yn enwedig
yr ymateb gan y Gwasanaeth Cyfreithiol a’r cymorth a roddwyd i Bwyllgorau’r
Senedd.
4.4
Hefyd, gwnaeth Suzy longyfarch staff y Comisiwn am eu
hymateb a’u trefniadau i sicrhau parhad busnes yn ystod y pandemig, a oedd wedi
bod yn arbennig. Anogodd uwch reolwyr i barhau’n ofalus wrth drafod trefniadau
i weithio o bell a gweithio mewn ffordd hybrid, oherwydd ei bod yn bosibl y
byddai mwy o bobl na’r disgwyl am fod yn bresennol yn y swyddfa. Hefyd, pwysleisiodd
ddatblygiad y gweithgarwch ymgysylltu, fel teithiau rhithwir o amgylch y
Senedd, yr oeddent wedi gweithio’n hynod dda ac y dylent barhau yn y dyfodol.
4.5
Diolchodd Suzy i Nia Morgan am ei chymorth, yn enwedig
wrth baratoi i ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus, ac am ei gallu i egluro terminoleg gyllidebol. Roedd Nia a’i thîm
hefyd yn haeddu clod am y ffordd y gwnaethant reoli cyllidebau a sicrhau rhagor
o dryloywder wrth gyflwyno adroddiadau, ac am gael archwiliad ‘glân’ o’r
cyfrifon. Roedd yn disgwyl i’r ffocws ar werth am arian a blaenoriaethu
adnoddau barhau yn ystod y Chweched Senedd.
4.6
Awgrymodd Suzy y byddai gwariant yn y sector cyhoeddus yn
gyffredinol yn destun mwy o waith craffu a monitro nag erioed o’r blaen yn ystod
y Chweched Senedd oherwydd y pandemig. Hefyd, nododd y byddai angen ystyried
risgiau o ran disgwyliadau’r Aelodau, y Llywydd a’r cyhoedd wrth flaenoriaethu
gwariant.
4.7
Gan edrych tua’r dyfodol, nododd Suzy bwysigrwydd
diffinio’n glir rôl y Comisiynwyr o ran rheoli’r berthynas rhwng y Comisiwn ac
Aelodau o’r Senedd, yn enwedig lle y gallai penderfyniadau ar arferion gwaith a
blaenoriaethu gwariant achosi tensiwn. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch
cyfathrebu rhwng Comisiynwyr, Aelodau a swyddogion, awgrymodd Suzy ffyrdd y
gellid gwella’r broses hon, gan gynnwys rhagor o gyswllt wyneb yn wyneb a
chynnig cyfleoedd i Aelodau a grwpiau gwleidyddol ymgysylltu’n fwy uniongyrchol
â’r swyddogion priodol i rannu adborth.
4.8
Diolchodd y Cadeirydd i Suzy am ei dadansoddiad gonest, a
dymunodd aelodau’r Pwyllgor yn dda iddi yn y dyfodol. Cytunodd Suzy i rannu
nodyn mwy cynhwysfawr â’r Cadeirydd i helpu i lywio trafodaethau â’r swyddogion
perthnasol yn y dyfodol.
Camau gweithredu
· Suzy i rannu ei sylwadau ar ei haelodaeth o’r Pwyllgor ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 19
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion cyfarfod 20 Tachwedd, y camau i'w cymryd a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
2.1
Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd a nodwyd y crynodeb o’r
diweddariadau ar y camau i’w cymryd.
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd
bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys Steve Wyndham a oedd yn bresennol am y tro
cyntaf ers cymryd lle Gareth Lucey fel Rheolwr Archwilio yn Archwilio Cymru.
Nododd ymddiheuriad gan Ann-Marie Harkin a dywedodd y byddai'r sesiwn breifat
flynyddol gydag Archwilio Cymru a drefnwyd ar gyfer heddiw yn cael ei
hail-drefnu.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion cyfarfod 10 Gorffennaf, y camau i'w cymryd a'r materion a gododd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
ARAC (05-20) Papur 1 - Cofnodion drafft y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2020
ARAC (05-20) Papur 2 - Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod
10 Gorffennaf. Gofynnwyd am un pwynt eglurder o ran paragraff 2.4 ynghylch p’un
a oedd cytundebau wedi'u cwblhau ar drefniadau cyllido'r Comisiwn Etholiadol yn
y dyfodol a sefydlu Pwyllgor y Llywydd y byddai'n atebol i'r Senedd drwyddo. Byddai'r
tîm Clercio yn sicrhau bod diweddariad yn cael ei ddosbarthu y tu allan i'r
pwyllgor.
2.2
Croesawodd y Cadeirydd y
cyfoeth o wybodaeth a rannwyd gydag aelodau'r Pwyllgor dros y misoedd diwethaf.
Roedd y Cynghorwyr Annibynnol hefyd wedi croesawu cael eu gwahodd i'r cyfarfod
holl staff, a oedd yn eu hysbysu o weithgareddau a thrafodaethau mewnol.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1
Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o
fuddiant.
Cyfarfod: 10/07/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion y cyfarfod ar 15 Mehefin, y camau i'w cymryd a'r materion sy'n codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 46
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
ARAC (04-20)
Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod ar 15 Mehefin 2020
ARAC (04-20)
Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15
Mehefin.
2.2
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor, dywedodd
Arwyn Jones na fu fawr o sylw yn y wasg ynglŷn â chyhoeddi Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn. Ychwanegodd Manon Antoniazzi fod y cyfarfod
llawn hybrid wedi cael llawer o sylw ar ITV Cymru a oedd yn gadarnhaol dros
ben.
2.3
Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies i'r cyfarfod a
fyddai'n diweddaru'r Pwyllgor ar gam gweithredu 6.4 yn ymwneud â diwygio'r
Senedd, yn benodol ynghylch y trefniadau cyllido ar gyfer y Comisiwn Etholiadol
yn y dyfodol. Esboniodd Siwan fod Llywodraeth Cymru wedi dweud am ei bwriad i
gyflwyno deddfwriaeth bellach yr oedd ei hangen er mwyn gwneud y Comisiwn
Etholiadol yn atebol i'r Senedd ac er mwyn iddo gael ei ariannu'n uniongyrchol
o Gronfa Gyfunol Cymru; fodd bynnag, ni fyddai hyn yn cael ei roi ar waith mewn
pryd ar gyfer etholiadau 2021. Ychwanegodd y cytunwyd ar gytundeb dros dro lle
byddai Llywodraeth Cymru’n gwneud taliadau i’r Comisiwn Etholiadol.
2.4
Disgrifiodd Siwan y broses ar gyfer cyflawni hyn a
oedd yn cynnwys gwneud newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd (i'w gwneud yr
wythnos ganlynol) i sefydlu Pwyllgor y Llywydd (i'w benodi yn nhymor yr hydref)
a nodi prosesau cyllid a rheolaeth ariannol newydd. Ychwanegodd y byddai angen
i gytundebau rhyngsefydliadol gael eu nodi erbyn mis Medi o ran sut y byddai’r
Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu ac ar gyfer ei atebolrwydd i’r Senedd
(trwy Bwyllgor y Llywydd), Tŷ'r Cyffredin (trwy
Bwyllgor y Llefarydd) a Senedd yr Alban.
2.5
Atgoffodd Nia Morgan y
Pwyllgor am wrthwynebiad cryf y Comisiwn i'r cynigion cychwynnol ar gyfer
ariannu’r Comisiwn Etholiadol drwy Gomisiwn y Senedd yn ystod y cyfnod interim
hwn. Byddai’r cytundeb newydd hwn yn dileu’r goblygiadau o ran y trefniadau ar
gyfer cyllideb Comisiwn y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor fod hwn yn ganlyniad da,
a nododd ymdrechion y Comisiwn i barhau â hyn o fewn amserlenni tyn trwy gynnal
deialog parhaus a gofynnodd am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd maes o
law.
2.6
Fel mater sy’n codi, gofynnodd y Cadeirydd am
gynnal trafodaeth ar sut y gallai'r Pwyllgor chwarae rhan adeiladol wrth reoli
risg gorfforaethol y Comisiwn ar Newid Cyfansoddiadol yn barhaus. Dywedodd ei
fod wedi cael adroddiad wedi'i ddiweddaru, er gwybodaeth iddo y tu allan i'r
pwyllgor yr oedd wedi ei anfon ymlaen at Ann ac Aled er gwybodaeth. Rhoddodd
Siwan sicrwydd i'r Pwyllgor ynghylch y modd y mae’r Comisiwn yn rheoli’r risg
sy’n gysylltiedig â Newid Cyfansoddiadol, gan gynnwys trwy gynllunio senarios
ac ymgysylltu â Chomisiwn y Senedd a'r Pwyllgor Busnes, yn ogystal â thrwy
sianeli gwleidyddol, gan gynnwys grŵp
rhyng-seneddol.
2.7 Mewn ymateb i gwestiynau gan Ann ynghylch effaith bosibl swm y ddeddfwriaeth funud olaf yn ymwneud â Brexit a'i heffaith ar graffu ar raglen ddeddfwriaethol bresennol Llywodraeth Cymru, rhoddodd Siwan sicrwydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2
Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion 27 Ebrill, camau gweithredu a'r materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
- Cyfyngedig 51
Cofnodion:
ARAC (03-20) Papur 1 - Cofnodion 27 Ebrill 2020
ARAC (03-20) Papur 2 - Crynodeb o'r camau
gweithredu
2.1
Cytunwyd ar
gofnodion cyfarfod 27 Ebrill.
2.2
Rhoddodd y
Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau i drefnu cyfarfod rhwng y Bwrdd
Gweithredol a’r Cynghorwyr Annibynnol am y strategaeth ar gyfer y Chweched
Senedd. Roedd
trafodaethau wedi’u cynnal â Manon Antoniazzi, Dave Tosh a Chadeirydd Pwyllgor
y Comisiwn ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu, ac roedd gwaith yn mynd
rhagddo i geisio dod o hyd i ddyddiad addas ar gyfer y cyfarfod. Anogodd Ann Beynon y
swyddogion i ystyried ffactorau allanol yn ystod y cyfarfod hwnnw a chytunodd y
Cadeirydd y dylid ystyried ymgysylltu â phobl allanol berthnasol maes o law.
2.3
Argymhellodd y
Cadeirydd y dylid nodi pwynt gweithredu 2.3 (adolygiad o seiberddiogelwch) fel
un a oedd wedi’i gwblhau, gan fod Gareth Watts wedi cadarnhau y byddai’r adran
TGCh yn adnewyddu ei strategaeth seiberddiogelwch cyn bo hir.
2.4
Mewn perthynas â'r
gwaith ar y strategaeth gyfathrebu ddiwygiedig ar gyfer y prosiect newid enw,
ac i ategu papur a gylchredwyd allan o'r pwyllgor, rhoddodd Arwyn Jones
ddiweddariad i'r Pwyllgor. Oherwydd pandemig y coronafeirws, roedd cam nesaf y
strategaeth yn cael ei gynllunio ar gyfer yr hydref a byddai'n cyd-fynd â chodi
ymwybyddiaeth ynghylch pleidleisio yn 16 oed ac etholiadau’r Senedd yn 2021.
Byddai canlyniadau arolygon gyda grwpiau ffocws yn cael eu defnyddio i lywio'r
strategaeth. Ychwanegodd Arwyn fod cydweithwyr yn gweithio'n agos gyda
Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol i gydlynu gwaith ymgysylltu.
Argymhellodd aelodau'r Pwyllgor y dylai swyddogion y Comisiwn barhau i gynnal
cyfarfodydd ffurfiol â’r ddau sefydliad fel mater o flaenoriaeth a gofynnodd y
Cadeirydd am ddiweddariadau rheolaidd gan y swyddogion. Yn y cyfamser, byddai’r
broses o ailstrwythuro'r tîm cyfathrebu yn mynd rhagddi a byddai hyn yn cynnwys
penodi arweinydd cyfathrebu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a chreu tîm i
ymdrin â’r cyfryngau cymdeithasol o blith y staff presennol.
2.5
Rhoddodd Ann
Beynon adborth i'r Pwyllgor ar drafodaethau yng nghyfarfod diweddar Pwyllgor
Cynghori’r Comisiwn ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu. Trafodwyd canlyniadau
arolwg PULSE diweddar, lle y gofynnwyd i staff wneud sylwadau am eu lles
corfforol a meddyliol yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd y Pwyllgor wedi
nodi'r camau lliniaru a gyflwynwyd ar ffurf polisïau, ac wedi nodi bod staff yn
teimlo’u bod yn cael eu cefnogi. Ystyriwyd yr Adroddiad Blynyddol ar Amrywiaeth
a Chynhwysiant hefyd, gyda thrafodaethau manwl am ystadegau anabledd a BAME y
Comisiwn.
2.6
Cafodd Comisiwn y
Senedd ei longyfarch gan aelodau’r Pwyllgor am ennill statws Platinwm
Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP).
Camau Gweithredu
·
(2.5) Eitem reolaidd i'w chynnwys o dan faterion sy'n
codi, sef bod Ann yn rhoi adborth am drafodaethau’r Pwyllgor Cynghori ar
Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a dywedodd fod ymddiheuriadau wedi dod i law gan
Suzy Davies AS.
1.2
Diolchodd i’r
swyddogion hefyd a’u canmol am yr ymdrech eithriadol i baratoi'r papurau yn y
pecyn yn ogystal â'r papurau a gylchredwyd y tu allan i'r Pwyllgor.
1.3
Ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau.
Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion 20 Ionawr, camau i'w cymryd a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
- Cyfyngedig 57
Cofnodion:
ACARAC (02-20) Papur 1 - Cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2020
ACARAC
(02-20) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu
2.1
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 20 Ionawr.
2.2
Cytunodd aelodau'r Pwyllgor i
gynnal trafodaethau pellach â swyddogion er mwyn bwrw ymlaen â’r camau yn
ymwneud â mynychu cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol yn y dyfodol i drafod y
strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd, a sesiwn friffio gyda’r tîm Cymorth Busnes
i'r Aelodau ar fonitro treuliau Aelodau’r Cynulliad.
2.3
Ymatebodd Gareth i gwestiynau ar
amserlenni ar gyfer gweithredu argymhellion yr archwiliad o seiberddiogelwch ac
o ran cynnal yr archwiliad o ddiwylliant cydymffurfio. Esboniodd Gareth,
oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan argyfwng y Coronafeirws (Covid-19), a'i
ran wrth arwain ymateb y Comisiwn, y byddai rhywfaint o’r gwaith archwilio yn
cael ei ddal yn ôl.
2.4
Gwahoddodd y Cadeirydd Arwyn i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynllun cyfathrebu ar gyfer y
prosiect newid enw. Esboniodd Arwyn, gan fod y dyddiad ar gyfer y newid enw
wedi ei osod mewn deddfwriaeth, nad oedd cyfle i’w newid. Fodd bynnag, oherwydd
Covid-19, roedd y digwyddiadau lansio a gynlluniwyd wedi cael eu disodli gan
ddull gweithredu allweddol mwy cynnil, gyda'r posibilrwydd o lansiad mwy cadarn
yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Eglurodd hefyd fod trafodaethau'n mynd rhagddynt
ynghylch y cyfleoedd a ddaw yn sgil gostwng yr oedran pleidleisio i ganiatáu i
bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio, a byddai cofrestriadau ar gyfer hyn yn agor
ar 1 Mehefin 2020 (ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021) i lansio ymhellach neu
i godi ymwybyddiaeth ynghylch y newid enw.
2.5
Cydnabu aelodau'r Pwyllgor y newid
yn y dull o weithredu a thrafodwyd y potensial i godi ymwybyddiaeth drwy
sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys rhai Aelodau'r Cynulliad, ynghyd â
defnyddio grwpiau ffocws. Mewn ymateb, nododd Arwyn gynlluniau i gynyddu
arbenigedd yn y Comisiwn o ran y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Nodwyd y
dylid cadw'r negeseuon mor syml â phosibl i helpu'r cyhoedd i ddeall rôl y
Senedd fel deddfwrfa a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
2.6
Nododd y Pwyllgor y bu ymgysylltu
cynnar â rhanddeiliaid allweddol ac y byddai datganiad ysgrifenedig yn cael ei
gyhoeddi gan y Llywydd ar 6 Mai.
2.7
Diolchodd y Cadeirydd i Arwyn am
roi’r wybodaeth ddiweddaraf a gofynnodd iddo sicrhau bod y Pwyllgor yn cael ei
hysbysu am gynlluniau cyfathrebu. Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn dychwelyd at
hyn yn y cyfarfod ym mis Mehefin.
Camau gweithredu
·
(2.2) y Cadeirydd a Dave i drafod
gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu,
ynghylch pryd y dylid trefnu cyfarfod o'r Bwrdd Gweithredol gyda Chynghorwyr
Annibynnol i drafod y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.
·
(2.2) y Cadeirydd a Gareth i drafod
y dull gorau o ddarparu'r briff i ACARAC ar waith y tîm Cymorth Busnes i'r
Aelodau a monitro treuliau Aelodau'r Cynulliad
·
(2.3) Gareth i drafod â Suzy yr
amserlen ar gyfer gweithredu’r argymhellion o’r adolygiad o seiberddiogelwch
· (2.3) Gareth i gynghori ar amseru'r adolygiad o ddiwylliant ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion 21 Hydref, camau gweithredu a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 60
- Cyfyngedig 61
Cofnodion:
ACARAC (01-20) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod ar 21 Hydref 2019
ACARAC (01-20) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1 Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 21 Hydref.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion 15 Gorffennaf, camau gweithredu a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 64
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
ACARAC
(05-19) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2019
ACARAC (04-19) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
15 Gorffennaf.
2.2
O ran y cam gweithredu nad yw wedi'i roi ar
waith ynghylch y Comisiwn Etholiadol (paragraff 2.1), roedd aelodau'r Pwyllgor
wedi cael diweddariad cyn y cyfarfod.
2.3
Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r ddarpariaeth pensiwn cynyddrannol
(paragraff 3.4) yn parhau i fod yn broblem mewn perthynas â chyfrifon 2019-20.
2.4
O ran y sesiwn ar y cyd a awgrymwyd gyda REWAC (paragraff 6.2), cytunwyd
y dylid trefnu cyfarfod arall rhwng dau Gadeirydd y Pwyllgor, sef Manon a Dave.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion cyfarfod 17 Mehefin, y camau i'w cymryd a'r materion a gododd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
- Cyfyngedig 69
Cofnodion:
ACARAC (04-19) Papur 1 - Cofnodion cyfarfod 17 Mehefin 2019
ACARAC (04-19)
Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 17 Mehefin. Cwblhawyd yr holl gamau ar
wahân i'r cam yn ymwneud â’r Comisiwn Etholiadol a oedd yn parhau.
2.2
Ymatebodd y Cadeirydd i gwestiwn gan Ann Beynon drwy ddweud bod trosolwg
cyffredinol o ystyriaethau gan y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a
Gweithlu (REWAC) wedi cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod mis Hydref.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion 25 Mawrth, camau gweithredu a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 72
- Cyfyngedig 73
Cofnodion:
ACARAC (03-18) Papur 1 - Cofnodion cyfarfod 25 Mawrth 2019
ACARAC (03-19)
Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth. Cafodd y camau
gweithredu eu cwblhau neu roeddent yn parhau.
2.2
Cam gweithredu 3.4 (strategaeth gaffael): Cafodd Dave Tosh a Jan Koziel,
Pennaeth Caffael, nifer o drafodaethau cynhyrchiol â Siambr Fasnach De Cymru
ynghylch rhwystrau posibl i gwmnïau dendro am gontractau. Awgrymodd Ann Beynon
y dylai'r trafodaethau hyn barhau, ac y dylid cynnwys Gareth Watts lle bo
angen. Croesawodd y Cadeirydd y diweddariad a'r ffaith y byddai trafodaethau'n
parhau gyda sefydliadau eraill. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y mater eto mewn
cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Chwefror, y camau i'w cymryd a'r materion sy'n codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 76
- Cyfyngedig 77
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 1a - Cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2019
ACARAC (02-19) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11
Chwefror.
2.2
Cam 2.2 (Cronfa Gyfunol Cymru): Roedd Gareth wedi cwrdd
â'r Dirprwy Gyfarwyddwr newydd sy'n gyfrifol am y Gronfa yn Llywodraeth Cymru
ar 21 Mawrth a oedd wedi cytuno i gyfnewid gwybodaeth er mwyn osgoi’r problemau
a gododd y llynedd. Croesawodd y Cadeirydd y wybodaeth hon a diolchodd i Gareth
am ei ymdrechion.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 80
- Cyfyngedig 81
Cofnodion:
ACARAC
(01-19) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2018
ACARAC
(01-19) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1
Yn amodol ar un pwynt
bach o eglurhad mewn perthynas â Chronfa Gyfunol Cymru, cytunwyd ar gofnodion y
cyfarfod ar 26 Tachwedd.
2.2
Cam Gweithredu 2.2
(Cronfa Gyfunol Cymru): Roedd Gareth wedi bod mewn cysylltiad â'i gymheiriaid
yn Llywodraeth Cymru a oedd eto i gadarnhau dyddiad i gyfarfod. Byddai Gareth
yn rhoi diweddariad cyn y cyfarfod nesaf. Anogodd y Cadeirydd Gareth i fynd ar
drywydd hyn.
2.3
Cam Gweithredu 5.1
(Adolygiad Digwyddiadau): Nododd Gareth fod cynnydd da yn cael ei wneud yn
erbyn y cynllun gweithredu cyfathrebu a'r buddion yn cael eu gwireddu a
chytunwyd i ddosbarthu manylion ymhellach i aelodau ar gyfer eu trafod yn y
cyfarfod nesaf.
Camau i'w cymryd
– (2.2)
Gareth Watts i roi diweddariad ar drafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch
Cronfa Gyfunol Cymru.
– (2.3)
Gareth Watts i ddosbarthu manylion pellach am gynnydd yn erbyn y cynllun
gweithredu Adolygiad Digwyddiadau.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion 9 Gorffennaf a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 84
- Cyfyngedig 85
Cofnodion:
ACARAC
(05-18) Papur 1 - Cofnodion 9 Gorffennaf 2018
ACARAC
(05-18) Papur 2 – Crynodeb o'r camau gweithredu
2.1
Gydag un newid bach,
cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod ar 9 Gorffennaf.
2.2
Cam gweithredu 4.3
(Cronfa Gyfunol Cymru): Cadarnhaodd Gareth Watts fod Dirprwy Archwilydd
Cyffredinol Cymru wedi rhoi barn ddiamod ar gyfrifon Derbyniadau a Thaliadau
Cronfa Gyfunol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth
2018. Cyfeiriodd Datganiad Llywodraethu
Blynyddol Cronfa Gyfunol Cymru at y mater a drafodwyd gan y Pwyllgor yn
flaenorol, a dywedodd y byddai trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, Comisiwn y
Cynulliad, ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau er mwyn penderfynu a oedd
angen i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw gamau pellach i sicrhau bod y mater hwn
yn cael ei ddatrys. Byddai
Gareth yn rhan o'r trafodaethau ac yn rhoi diweddariad i'r Pwyllgor. Ailategodd
Gareth Lucey, o safbwynt Comisiwn y Cynulliad a thimau archwilio Cronfa Gyfunol
Cymru, nid oedd unrhyw anghysondeb o ran taliadau cyflog y Comisiynydd
Safonau.
2.3
Cam gweithredu 5.8: Bydd
y tîm Clercio yn ymgynghori ag aelodau'r Pwyllgor ynglŷn â'r flaenraglen
waith.
2.4
Cam gweithredu 6.4
(diweddariad ar brosiect y system gyllid): bellach wedi'i ddisodli, bydd
Uwch-swyddog Cyfrifol y prosiect yn cael ei wahodd i gyfarfod ACARAC ym mis
Chwefror.
Camau gweithredu
– Bydd
Gareth Watts yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Gronfa Gyfunol Cymru.
– Bydd y tîm
Clercio yn rhannu'r Flaenraglen Waith gydag aelodau'r Pwyllgor er mwyn sicrhau
bod y dyddiadau yn addas ac i wahodd awgrymiadau ar gyfer eitemau agenda yn y
dyfodol.
– Bydd y tîm
Clercio yn gwahodd Uwch-swyddog Cyfrifol prosiect y system gyllid i'r cyfarfod
ym mis Chwefror er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar gam 3.
Cyfarfod: 09/07/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 88
- Cyfyngedig 89
Cofnodion:
ACARAC (04-18) Papur 1 - Cofnodion cyfarfod 18 Mehefin 2018
ACARAC (04-18) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu
2.1
Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin.
2.2
Diolchodd
y Cadeirydd i Dave Tosh am ddosbarthu copi o adroddiad SIRO diwygiedig a oedd
bellach yn cynnwys y paratoadau ar gyfer y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu
Data (GDPR) ac ystadegau ynghylch seiber-ddiogelwch. Nid oedd unrhyw gamau
gweithredu eraill heb eu cymryd.
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 92
- Cyfyngedig 93
Cofnodion:
ACARAC (03-18) Papur 1 - Cofnodion 23 Ebrill 2018
ACARAC (03-18) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1
Cytunwyd
ar gofnodion cyfarfod 23 Ebrill yn amodol ar un newid a fyddai'n cael ei wneud
cyn cyhoeddi.
2.2 Cadarnhaodd Gareth Watts fod cam 6.4 (ystyried cyfeirio at y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid ar Fap Sicrwydd y Comisiwn) yn rhan
o adolygiad ehangach o sicrwydd a byddai diweddariad yn cael ei rannu â'r
Pwyllgor yn yr hydref.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion 5 Chwefror 2018 a camau i’w cymryd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 96
- Cyfyngedig 97
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Papur 1 - Cofnodion 5 Chwefror 2018
ACARAC (02-18) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1
Cytunwyd ar gofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror a chafodd y camau gweithredu, a nodwyd ym
mhapur 2, eu nodi.
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 100
- Cyfyngedig 101
Cofnodion:
ACARAC (01-18) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd
2017
ACARAC (01-18) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu
2.1
Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd a nodwyd y wybodaeth
ddiweddaraf am y camau a nodwyd ym mhapur 2.
2.2 Mewn perthynas â phwynt gweithredu 2.3 (triniaeth o Gyflog Archwilydd
Cyffredinol Cymru), roedd Gareth Watts yn disgwyl manylion ynghylch yr hyn
yr oedd ei angen o ran sicrwydd pellach i'r Ysgrifennydd Parhaol yn dilyn
cyfarfodydd yr oedd ef a Nia Morgan wedi'u cynnal â swyddogion Llywodraeth
Cymru dros doriad yr haf. Roedd y Pwyllgor yn pryderu y gallai hyn fod yn
broblem os na fyddai wedi'i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Byddai
Gareth yn parhau i fynd ar ôl Llywodraeth Cymru ar y mater hwn ac yn
diweddaru'r Pwyllgor maes o law.
2.3 O ran pwynt gweithredu 6.1 (Diogelwch Seiber), cytunwyd y câi
swyddogion o TGCh eu gwahodd i ddod i'r cyfarfod ym mis Ebrill i roi diweddariad
i'r Pwyllgor ar wendidau seiber a chynlluniau ymateb.
Camau i’w cymryd
-
Pennaeth TGCh a/neu Bennaeth Seilwaith a Rheoli Gweithrediadau i ddod i
gyfarfod mis Ebrill i roi diweddariad i'r Pwyllgor ar ddiogelwch seiber.
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1 Datganodd Eric Gregory ei fod yn dal i fod yn rhan o'r tîm gweithredu ar
gyfer yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
1.2 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau eraill.
Cyfarfod: 18/07/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1
Datganodd Eric Gregory ei
fod yn gynrychiolydd busnes ar gyfer yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yng Nghymru.
1.2
Ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau eraill.
Cyfarfod: 18/07/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion
Cofnodion:
ACARAC
(04-17) Papur 1 - Cofnodion cyfarfod 19 Mehefin 2017
ACARAC
(04-17) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu
2.1
Cytunwyd ar gofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2017 a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am
gamau gweithredu, a nodwyd ym mhapur 2, ei nodi.
2.2
O ran pwynt gweithredu 5.3 (Ystyried
dulliau o gyfleu penderfyniadau'r Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi yn ehangach),
cytunwyd mewn diwrnod i ffwrdd diweddar y Bwrdd Rheoli, y byddai Nia Morgan yn
briffio Suzy Davies yn ystod eu cyfarfodydd dal i fyny. Byddai'r Bwrdd Rheoli hefyd yn cael
diweddariadau a'r cyfle i gyfrannu at y flaenraglen waith.
2.3
Pwynt gweithredu 5.3 (Rhannu canlyniadau
strwythurau llywodraethu ar ôl diwrnod i ffwrdd y Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi).
Cadarnhaodd Dave Tosh y byddai cylch gorchwyl y Bwrdd Rheoli a'r Bwrdd
Buddsoddi ac Adnoddau yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn
addas at y diben a'u bod yn nodi'n fanwl gywir swyddogaeth arbennig pob Bwrdd o
fewn trefniadau llywodraethu'r Comisiwn.
Eglurodd Dave hefyd, fel rhan o'r ymarfer hwn eu bod hefyd yn adolygu
aelodaeth pob Bwrdd. Cytunodd i roi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor gyda chylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y
Bwrdd Rheoli a'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.
2.4
Trafododd Suzy Davies, Manon Antoniazzi a Nia
Morgan bwynt gweithredu 8.1 (Briffio ACARAC yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor
Cyllid). Roeddent wedi egluro i'r
Pwyllgor Cyllid y broses tu ôl i broffilio'r gyllideb a'r gwaith cynllunio a
chraffu sy'n digwydd yn ystod y broses o bennu'r gyllideb. Mewn ymgais i wella tryloywder, gofynnodd y
Pwyllgor Cyllid fod y Comisiwn yn amcangyfrif y tanwariant yn erbyn y
Penderfyniad yn ystod 2018-19 ac yn llunio rhestr fanwl o feysydd posibl o
wariant a blaenoriaethu. Gofynnodd y Pwyllgor Cyllid i'r wybodaeth hon gael ei
chynnwys yn nogfen y gyllideb i'w gosod erbyn 30 Medi 2017.
2.5
Hysbysodd Suzy ACARAC fod rhestr wedi'i
blaenoriaethu o brosiectau buddsoddi ar gyfer 2018-19 ar hyn o bryd, ond ei bod
yn anodd rhagweld y gwariant gwirioneddol yn ystod 2018-19 oherwydd y tirlun
gwleidyddol sy'n newid. Byddai
amcangyfrif o'r gwarged tebygol hefyd yn cael ei gynnwys yn nogfen y gyllideb
ar gyfer 2018-19, ond nododd Nia na nodwyd unrhyw batrwm clir o ddefnydd o'r
gyllideb yn y blynyddoedd blaenorol ac y byddai'n anodd darparu rhagolwg
cywir.
2.6
Trafododd Dave gyfeiriad risg corfforaethol
ICT16 (Bygythiadau seiber - Amddiffyn, Canfod ac Ymateb) a oedd
wedi'i ddiwygio i fod yn fwy penodol ac ystyrlon. Hysbysodd y Pwyllgor yn dilyn yr achos diweddar
yn San Steffan, fod neges at bob rhan o'r sefydliad wedi'i hanfon yn atgoffa'r
holl ddefnyddwyr i fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod am unrhyw beth amheus i
ddesg gwasanaeth y tîm TGCh.
2.7 Cafwyd trafodaeth bellach ar yr angen parhaus i'r Aelodau a staff cymorth fod yn ymwybodol o'u gweithredoedd yn ymwneud â diogelwch seiber. Cytunodd Suzy i Gomisiynwyr fod yn rhan o'r gwaith o annog eu pleidiau i fod yn rhagweithiol wrth hyfforddi a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2