Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Gwasanaethau Brys (Troseddau)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau)

NDM6662 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Assaults on Emergency Workers (Offences) Bill 2017-19 – UK Parliament (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19:07

NDM6662 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Dogfennau’r Bil — Assaults on Emergency Workers (Offences) Bill 2017-19 – UK Parliament (Saeseng yn unig)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 


Cyfarfod: 08/02/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Argyfwng (Tramgwyddau) - ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytuno arno: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Gwasanaethau Brys (Troseddau)


Cyfarfod: 17/01/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Argyfwng (Troseddau) - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) a chytunodd i ddrafftio adroddiad arno.

 


Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Gwasanaethau Brys (Troseddau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.