Cyfarfodydd
P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4
PDF 120 KB Gweld fel HTML (4/1) 11 KB
- 10.12.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4
PDF 227 KB
Cofnodion:
Nodwyd y papur.
Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 13.11.19 Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru - Cytundeb mynediad i’r meddyginiaethau ffeibrosis systig Orkambi® and Symkevi®, Eitem 3
PDF 120 KB Gweld fel HTML (3/2) 13 KB
- 13.11.19 Gohbeiaeth - Vertex Pharmaceuticals at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 87 KB
- 13.11.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 131 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i
gau'r ddeiseb yn sgil cytundeb y daethpwyd iddo i sicrhau bod Orkambi ar gael i
gleifion yng Nghymru, ac i roi diolch a llongyfarch y deisebydd a’r
Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig ar ganlyniad llwyddiannus eu gwaith ymgyrchu.
Cyfarfod: 01/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 07.08.19 Gohebiaeth - Grwp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 2 MB
- 12.08.19 Datganiad gan y Gweinidog - Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:Mynediad i’r feddyginiaethau ffeibrosis systig Orkambi® a Symkevi®, Eitem 3
PDF 138 KB Gweld fel HTML (3/3) 19 KB
- 25.09.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 193 KB
- 27.09.19 Gohebiaeth - Vertex Pharmaceuticals at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 26 KB Gweld fel HTML (3/5) 7 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i aros i Vertex Pharmaceuticals
gyflwyno tystiolaeth yn gysylltiedig ag Orkambi i Grŵp Strategaeth
Meddyginiaethau Cymru Gyfan, y mae'r Pwyllgor yn deall ei fod ar fin digwydd,
cyn gofyn am ragor o wybodaeth.
Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 120 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 26.06.19 Gohebiaeth - Vertex Pharmaceuticals at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 28 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
- aros am ddiweddariad pellach gan Vertex
Pharmaceuticals a chadarnhad bod ei dystiolaeth wedi'i chyflwyno'n
ffurfiol i'w gwerthuso; ac
- ysgrifennu at Grŵp Strategaeth
Meddyginiaethau Cymru Gyfan i ofyn am wybodaeth am y cais gan Vertex i
gyflwyno tystiolaeth ar gyfer gwerthusiad ar Orkambi ynghyd â
Symkevi yn ogystal â manylion ei drafodaeth â'r cwmni mewn
perthynas â gwerthuso ei driniaethau ffibrosis systig.
Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-797 Sicrhau mynediad at y feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 120 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 13.05.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 269 KB
- 04.06.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd (Saeseneg yn unig), Eitem 3
PDF 237 KB Gweld fel HTML (3/3) 12 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis
Cystig a'r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Vertex Pharmaceuticals i'w
annog i gyflwyno tystiolaeth i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru
Gyfan i’w gwerthuso fel mater o flaenoriaeth.
Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4
PDF 120 KB Gweld fel HTML (4/1) 11 KB
- 08.03.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4
PDF 276 KB
- 08.03.19 Gohebiaeth - Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn San Steffan at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Saesneg yn unig), Eitem 4
PDF 221 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y
ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar ddatblygiadau yng Nghymru a ledled y DU.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y posibilrwydd o roi trwydded y Goron yn unol
â darpariaethau a wneir yn Neddf Patentau 1977 i wneud defnydd posibl o'r
patent ar gyfer Orkambi heb awdurdodiad y deiliad y patent, os na ellir
goresgyn y maen tramgwydd yn y trafodaethau.
Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 120 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 14.01.19 Gohebiaeth – Vertex at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 1 MB
- 22.01.19 Gohebiaeth – Y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 94 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Vertex a'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig, a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn
gofyn iddo ystyried a oes ffordd briodol o sicrhau bod cleifion a fyddai’n elwa
arno yn cael mynediad dros dro at Orkambi, o gofio bod trafodaethau wedi
ailddechrau ynghylch argaeledd tymor hir y feddyginiaeth gan y GIG.
Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 120 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 7.11.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 284 KB
- 20.11.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 162 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â
sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:
- ysgrifennu at Vertex Pharmaceuticals i'w
hannog i wneud cyflwyniad i GIG Cymru neu Grŵp Strategaeth
Feddyginiaethau Cymru ar drefniadau penodol i sicrhau bod Orkambi ar gael
i gleifion yng Nghymru, naill ai fel rhan o gynllun peilot cychwynnol neu
ar sail barhaus, a'r amserlen arfaethedig ar gyfer gwneud hyn, neu am
resymau'r cwmni dros beidio â chymryd y camau hyn; ac
·
aros am y
camau gweithredu gan y Pwyllgor Dethol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn
San Steffan ynghylch ymchwiliad posibl i argaeledd Orkambi.
Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 120 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 25.05.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 208 KB
- 12.07.18 Gohebiaeth - Vertex at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 3
PDF 34 KB
- 20.09.18 Gohebiaeth - Vertex at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 89 KB
- 03.10.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 150 KB Gweld fel HTML (3/5) 7 KB
- 03.10.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor 2 (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 353 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd, a
chytunodd i:
- ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei ymateb i'r cynnig a
wnaed gan yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig i Lywodraeth Cymru weithredu
trefniant dros dro i alluogi cleifion yng Nghymru i gael gafael ar
Orkambi, a'r defnydd posibl o Gofrestr CF y DU;
- ysgrifennu at Vertex Pharmaceuticals i
ofyn iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am ganlyniad unrhyw
gyfarfod â Grŵp Strategaeth Meddygaeth Cymru Gyfan; ac
- archwilio ffynonellau cyngor neu
arbenigedd pellach a allai gefnogi'r Pwyllgor i ystyried y ddeiseb hon
ymhellach.
Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 119 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 17.04.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig) , Eitem 3
PDF 62 KB
- 01.05.18 Gohebiaeth – Vertex Pharmaceuticals at y Cadeirydd (Saesneg yn unig) , Eitem 3
PDF 42 KB
- 08.05.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 3
PDF 224 KB Gweld fel HTML (3/4) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a Vertex Pharmaceuticals, ynghyd â sylwadau pellach gan y
deisebydd a chytunodd i drefnu sesiynau tystiolaeth gydag Ysgrifennydd y
Cabinet a Vertex ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 119 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 21.02.18 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 56 KB
- 07.03.18 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 220 KB Gweld fel HTML (3/3) 15 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu
at:
·
Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a yw Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau
Cymru Gyfan bellach wedi cysylltu â Vertex i ofyn iddo gyflwyno'i dystiolaeth a
gofyn am ddiweddariad pan dderbynnir unrhyw ymateb; a
·
Vertex, i ofyn i'r cwmni am wybodaeth ynghylch trafodaethau y mae wedi'u
cynnal â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â sicrhau bod Orkambi ar gael i
gleifion Cymru.
Cyfarfod: 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2
PDF 119 KB Gweld fel HTML (2/1) 11 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 163 KB Gweld fel HTML (2/2) 43 KB
- 11.12.17 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 2
PDF 105 KB
- Gohebiaeth – Y Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 2
PDF 307 KB Gweld fel HTML (2/4) 28 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn
ôl at y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
rannu'r wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebwyr a gofyn a fyddai'r data hirdymor
mwy diweddar y cyfeiriwyd ato yn rhan o unrhyw ystyriaeth bellach gan Grŵp
Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, cyn ystyried a ddylid cymryd tystiolaeth
lafar ar y mater.