Cyfarfodydd

P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Papur i’w nodi: Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig at y Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Ddatganiad Deddfwriaethol diweddar y Prif Weinidog, ynghyd â sylwadau'r deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn ystod y 12 mis nesaf. Roedd y Pwyllgor hefyd am longyfarch y deisebydd a'i chefnogwyr ar lwyddiant eu hymgyrch ar y mater hwn.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y wybodaeth ychwanegol a geisir gan y deisebydd.

Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am gyhoeddiad y Prif Weinidog am y datganiad deddfwriaethol, a ddisgwylir cyn diwedd tymor yr haf, cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan yr Urdd Syrcas ynghyd ag ymateb gan y deisebydd a chytunodd i ystyried camau ymhellach yn dilyn y sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn ddiweddarach yn y cyfarfod.

Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am waith gan Lywodraeth Cymru i drafod yr opsiynau ar gyfer symud ymlaen â gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a'r amserlenni posibl dan sylw, yn dilyn ei hymateb i'r ddadl ar y ddeiseb.

Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ar gais y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r eitem i'w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

Cyfarfod: 07/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ynghylch y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

NDM6677 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru’ a gasglodd 6,398 o lofnodion.

P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.09

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn.