Cyfarfodydd
Dadleuon gan Aelodau unigol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM4945
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y
ffaith bod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob
blwyddyn yng Nghymru, gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad
yw'r prif achos o farwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed;
2. Yn cydnabod bod pobl
sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig ac
amcangyfrifir bod gan 90 y cant o bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n
marw o ganlyniad i hunanladdiad un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl;
4. Yn credu bod angen
gwneud mwy i annog pobl i siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau
hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu
gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar eu pen eu hunain;
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) gwella'r broses o
gasglu data i adnabod y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf;
b) sicrhau bod cymorth
dilynol ar gael i bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl
hunan-niwed neu geisio cyflawni hunanladdiad;
c) darparu ffyrdd mwy
effeithiol o gyfeirio pobl at wasanaethau gwrando ac eiriolaeth;
d) edrych ar gyflawni
prosiectau megis y parth tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor sydd ar flaen y
gad mewn ffordd sy'n briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac
enghreifftiau cenedlaethol a rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac
e) asesu'r cymorth sydd
ar gael i deuluoedd unigolion sydd â salwch meddwl.
Cefnogir gan:
William Powell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.42
NDM4945
Eluned Parrott (Canol De
Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod rhwng 300 a 350 o
bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, gyda'r
ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad yw'r prif achos o farwolaeth
ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed;
2. Yn cydnabod bod pobl sydd wedi cael diagnosis o
gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig ac amcangyfrifir bod gan 90 y cant o
bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n marw o ganlyniad i hunanladdiad un
neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl;
4. Yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl i
siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth
a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar
eu pen eu hunain;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwella'r broses o gasglu data i adnabod y rhai
sy'n wynebu'r perygl mwyaf;
b) sicrhau bod cymorth dilynol ar gael i bobl sy'n
mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl hunan-niwed neu geisio
cyflawni hunanladdiad;
c) darparu ffyrdd mwy effeithiol o gyfeirio pobl at
wasanaethau gwrando ac eiriolaeth;
d) edrych ar gyflawni prosiectau megis y parth
tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor sydd ar flaen y gad mewn ffordd sy'n
briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac enghreifftiau cenedlaethol a
rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac
e) asesu'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd
unigolion sydd â salwch meddwl.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5942
Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd)
Elin Jones (Ceredigion)
Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at nifer y canghennau banc sydd wedi'u cau yng
Nghymru ac, yn arbennig, pa mor aml y mae canghennau yn cael eu cau hyd yn oed
pan mai’r gangen banc yw'r banc olaf yn yr ardal.
2. Yn galw ar fanciau i ystyried effaith cau canghennau
banc ar gymunedau trefol a gwledig ac unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau
bach, cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ynghylch eu cau.
3. Yn galw ar fanciau i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan
gynnwys sefydliadau cymunedol lleol, sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes
cyn dod i benderfyniadau terfynol ynghylch cau canghennau, yn enwedig pan mai’r
gangen banc dan sylw yw'r unig un sydd ar ôl yn yr ardal.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod
Ymddygiad Ariannol i sicrhau eu bod yn ystyried effaith cau canghennau banc
wrth lunio eu polisïau perthnasol ar wasanaethau ariannol, datblygu economaidd
a rheoleiddio ariannol.
Cefnogir gan:
Christine Chapman (Cwm Cynon)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Mark Isherwood (Gogledd
Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd)
Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe)
David Rees (Aberafan)
Sandy Mewies (Delyn)
Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru)
Ann Jones (Dyffryn
Clwyd)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Gwyn Price (Islwyn)
Joyce Watson (Canolbarth
a Gorllewin Cymru)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.03
NNDM5942
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Elin Jones (Ceredigion)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
gresynu at nifer y canghennau banc sydd wedi'u cau yng Nghymru ac, yn arbennig,
pa mor aml y mae canghennau yn cael eu cau hyd yn oed pan mai’r gangen banc
yw'r banc olaf yn yr ardal.
2. Yn
galw ar fanciau i ystyried effaith cau canghennau banc ar gymunedau trefol a
gwledig ac unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau bach, cyn i
benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ynghylch eu cau.
3. Yn
galw ar fanciau i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnwys sefydliadau
cymunedol lleol, sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes cyn dod i
benderfyniadau terfynol ynghylch cau canghennau, yn enwedig pan mai’r gangen
banc dan sylw yw'r unig un sydd ar ôl yn yr ardal.
4. Yn
galw ar Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i
sicrhau eu bod yn ystyried effaith cau canghennau banc wrth lunio eu polisïau
perthnasol ar wasanaethau ariannol, datblygu economaidd a rheoleiddio ariannol.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 09/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5885
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd i
addysg a datblygiad ein pobl ifanc, gan ddarparu profiad cyfoethog yn eu
rhinwedd eu hunain, ond gan hefyd helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio, gan
ysgogi eu dychymyg a'u creadigrwydd, adeiladu hyder, codi dyheadau a rhoi gwell
dealltwriaeth o bobl eraill iddynt a gwell empathi ar gyfer pobl eraill;
2. Yn nodi â phryder bod cyfyngiadau ar gyllidebau
awdurdodau lleol dros y degawd diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar
wasanaethau cerddorol anstatudol;
3. Yn nodi casgliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar
wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru fod yr heriau allweddol sy'n wynebu
gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru yn cynnwys yr anghyfartalwch yn y
ddarpariaeth bresennol a'r anghydraddoldeb cynyddo o ran cyfleoedd i gael
mynediad at wasanaethau; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth
genedlaethol ar addysg gerddorol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd
rhan mewn amrywiaeth o brofiadau cerddorol, i leihau rhwystrau ariannol i gael
mynediad at y gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn
cael eu cynnal er gwaethaf gostyngiadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol ac
ysgolion.
Cefnogir gan:
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Lynne Neagle (Torfaen)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM5885
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
cydnabod gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd i addysg a datblygiad ein pobl
ifanc, gan ddarparu profiad cyfoethog yn eu rhinwedd eu hunain, ond gan hefyd
helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio, gan ysgogi eu dychymyg a'u
creadigrwydd, adeiladu hyder, codi dyheadau a rhoi gwell dealltwriaeth o bobl
eraill iddynt a gwell empathi ar gyfer pobl eraill;
2. Yn
nodi â phryder bod cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol dros y degawd
diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cerddorol anstatudol;
3. Yn
nodi casgliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau cerddoriaeth yng
Nghymru fod yr heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth yng
Nghymru yn cynnwys yr anghyfartalwch yn y ddarpariaeth bresennol a'r
anghydraddoldeb cynyddol o ran cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau; a
4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar addysg
gerddorol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o
brofiadau cerddorol, i leihau rhwystrau ariannol i gael mynediad at y
gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu
cynnal er gwaethaf gostyngiadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol ac ysgolion.
Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 02/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5881
David Rees (Aberafan)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod
pwysigrwydd cynhyrchu dur i economi Cymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i barhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r diwydiant dur yn
ystod y cyfnod anodd hwn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i gymryd camau brys ar nifer o feysydd, gan gynnwys mynd i'r afael â'r
costau ynni uchel a wynebir gan y diwydiannau ynni dwys yng Nghymru, megis y
diwydiant dur, er mwyn sicrhau y gallant gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr
Ewropeaidd eraill o fewn marchnad fyd-eang.
Cefnogir gan:
Lindsay Whittle (Dwyrain
De Cymru)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Lynne Neagle (Torfaen)
Jeff Cuthbert (Caerffili)
Keith Davies (Llanelli)
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Alun Davies (Blaenau Gwent) R
Christine Chapman (Cwm Cynon)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.05
NDM5881
David Rees (Aberafan)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur i economi
Cymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i wneud
popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r diwydiant dur yn ystod y cyfnod anodd hwn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys
ar nifer o feysydd, gan gynnwys mynd i'r afael â'r costau ynni uchel a wynebir
gan y diwydiannau ynni dwys yng Nghymru, megis y diwydiant dur, er mwyn sicrhau
y gallant gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr Ewropeaidd eraill o fewn marchnad
fyd-eang.
Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 14/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5832
Mick
Antoniw (Pontypridd) R
Rhodri
Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ymfalchïo yn y berthynas dda sydd wedi'i sefydlu yng
Nghymru rhwng cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r
sector preifat; a
2. Yn credu:
a) bod Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn ymosodiad
diangen ar hawliau democrataidd pobl sy'n gweithio ac y bydd yn tanseilio'r
cysylltiadau diwydiannol da ac adeiladol sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru ers
1999;
b) bod peryg y bydd y Bil yn mynd yn groes i Ddeddf
Hawliau Dynol 1998 a chonfensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol;
a
c) bod y Bil yn ymyrryd â meysydd y mae Llywodraeth Cymru
yn gyfrifol amdanynt ac na ddylid ei gymhwyso i Gymru heb gydsyniad Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Y Bil Undebau
Llafur (Saesneg yn unig)
Deddf Hawliau Dynol
1998 (Saesneg yn unig)
Confensiynau
87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (Saesneg yn unig)
Cefnogir
gan:
Alun Davies (Blaenau Gwent)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
David Rees (Aberafan)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Christine Chapman (Cwm Cynon)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Gwenda Thomas (Castell-nedd)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jeff Cuthbert (Caerffili)
Lynne Neagle (Torfaen)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Keith Davies (Llanelli)
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Sandy Mewies (Delyn)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5832
Mick Antoniw
(Pontypridd) R
Rhodri Glyn
Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Peter Black
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn ymfalchïo yn y berthynas dda sydd wedi'i sefydlu yng Nghymru rhwng
cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat;
a
2.
Yn credu:
a)
bod Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn ymosodiad diangen ar hawliau
democrataidd pobl sy'n gweithio ac y bydd yn tanseilio'r cysylltiadau
diwydiannol da ac adeiladol sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru ers 1999;
b)
bod peryg y bydd y Bil yn mynd yn groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a
chonfensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol; a
c)
bod y Bil yn ymyrryd â meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac
na ddylid ei gymhwyso i Gymru heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd y Cynnig.
Cyfarfod: 15/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5789
Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru)
Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf
arbenigol ar gyfer staff meithrin, fel bod ganddynt y sgiliau a'r hyfforddiant
i ymateb yn gyflym ac yn briodol os bydd argyfwng.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth o
hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig i staff meithrinfeydd ac asesu opsiynau
ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod yr holl staff sy'n gweithio mewn meithrinfeydd
yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol.
Cefnogir
gan:
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.50
NDM5789
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd
hyfforddiant cymorth cyntaf arbenigol ar gyfer staff meithrin, fel bod ganddynt
y sgiliau a'r hyfforddiant i ymateb yn gyflym ac yn briodol os bydd argyfwng.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ehangu'r ddarpariaeth o hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig i staff
meithrinfeydd ac asesu opsiynau ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod yr holl staff
sy'n gweithio mewn meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a
gydnabyddir yn swyddogol.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 08/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5799
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Alun
Ffred Jones (Arfon)
Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu cyhyd â bod fformiwla Barnett yn parhau y
dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig, fel HS2, arwain at gyllid
canlyniadol Barnett llawn i Gymru; a
2. Yn credu ymhellach, pan fo Llywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant arwain at gyllid
canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu ar hyn.
Cefnogir
gan:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
15.01
Gohiriwyd y bleidlais
ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5799
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu cyhyd â bod
fformiwla Barnett yn parhau y dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig,
fel HS2, arwain at gyllid canlyniadol Barnett llawn i Gymru; a
2. Yn credu ymhellach, pan fo
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant
arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu
ar hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
10 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig.
Cyfarfod: 22/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5715
Bethan
Jenkins
William
Graham
Lynne
Neagle
William
Powell
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
a) annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled Cymru, er
mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu digon o
amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig;
b) ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleodd glo
brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â
phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; ac
c) cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i
wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5715
Bethan Jenkins
William Graham
Lynne Neagle
William Powell
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
a) annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled
Cymru, er mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu
digon o amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig;
b) ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleodd glo
brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â
phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; ac
c) cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithir arnynt
i wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
16 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y
Cynnig.
Cyfarfod: 25/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5713
Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad economaidd diwydiant dur Cymru a'r
miloedd o swyddi y mae'n eu cefnogi;
2. Yn gresynu at y ffaith bod y mewnforion tramor sy'n
llifo i mewn i'r farchnad wedi creu sefyllfa anghyfartal; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r siarter ar
gyfer dur cynaliadwy Prydeinig a fydd yn arwain at sefyllfa lle bydd pob proses
gaffael llywodraeth mewn perthynas â barrau atgyfnerthu dur carbon yn bodloni
safon cyrchu cyfrifol BES 6001.
Mae'r siarter dur cynaliadwy Prydeinig ar gael yma:
Dogfen
Ategol (Saesneg yn unig)
Cefnogir
gan:
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Keith Davies (Llanelli)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
John Griffiths (Gorllewin Casnewydd)
Byron Davies (Gorllewin De Cymru)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.01
NDM5713
Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad economaidd diwydiant dur Cymru a'r miloedd
o swyddi y mae'n eu cefnogi;
2. Yn gresynu at y ffaith bod y mewnforion tramor sy'n
llifo i mewn i'r farchnad wedi creu sefyllfa anghyfartal; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r siarter ar
gyfer dur cynaliadwy Prydeinig a fydd yn arwain at sefyllfa lle bydd pob proses
gaffael llywodraeth mewn perthynas â barrau atgyfnerthu dur carbon yn bodloni
safon cyrchu cyfrifol BES 6001.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 18/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5712
Mick Antoniw (Pontypridd)
Jocelyn Davies (Dwyrain De
Cymru)
Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod bod technoleg ar-lein ynghyd â hysbysebu dwys wedi ysgogi twf
hapchwarae yng Nghymru ac yn nodi:
a)
bod hapchware ar gael i holl boblogaeth Cymru 24/7;
b)
y gall hapchwarae ddod yn gaethiwed sy'n niweidiol yn gymdeithasol, gan
gyfrannu at dlodi, iechyd a phroblemau cymdeithasol;
c)
bod adnabod caethiwed a darparu cymorth yn gynnar yn hanfodol er mwyn atal pobl
rhag dod yn gaeth i hapchwarae;
d)
bod y twf mewn hapchwarae ar-lein a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog wedi
troi hapchwarae yn y DU i mewn i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd; a
e)
bod amgylchedd rheoleiddio hapchwarae yn gymharol ysgafn.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
datblygu a gweithredu strategaeth i fynd i'r afael â'r canlyniadau cymdeithasol
ac iechyd sy'n deillio o hapchwarae;
b)
ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu
peiriannau hapchwarae; ac
c) ymgysylltu â'r diwydiant hapchwarae a'r Ymddiriedolaeth Hapchwarae Cyfrifol i sicrhau bod cyfran briodol o'r cyllid yn cael ei wario yng Nghymru i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bod yn gaeth i hapchwarae.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5712
Mick Antoniw (Pontypridd)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
cydnabod bod technoleg ar-lein ynghyd â hysbysebu dwys wedi ysgogi twf
hapchwarae yng Nghymru ac yn nodi:
a) bod
hapchware ar gael i holl boblogaeth Cymru 24/7;
b) y
gall hapchwarae ddod yn gaethiwed sy'n niweidiol yn gymdeithasol, gan gyfrannu
at dlodi, iechyd a phroblemau cymdeithasol;
c) bod
adnabod caethiwed a darparu cymorth yn gynnar yn hanfodol er mwyn atal pobl
rhag dod yn gaeth i hapchwarae;
d) bod y
twf mewn hapchwarae ar-lein a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog wedi troi
hapchwarae yn y DU i mewn i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd; ac
e) bod
amgylchedd rheoleiddio hapchwarae yn gymharol ysgafn.
2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
datblygu a gweithredu strategaeth i fynd i'r afael â'r canlyniadau cymdeithasol
ac iechyd sy'n deillio o hapchwarae;
b)
ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu
peiriannau hapchwarae; ac
c) ymgysylltu â'r diwydiant hapchwarae a'r
Ymddiriedolaeth Hapchwarae Cyfrifol i sicrhau bod cyfran briodol o'r cyllid yn
cael ei gwario yng Nghymru i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bod yn
gaeth i hapchwarae.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
14 |
0 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig.
Cyfarfod: 11/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5683 Simon Thomas (Gorllewin a Chanolbarth
Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) diwrnod
cofrestru pleidleiswyr Bite the Ballot ar 5 Chwefror ac wythnos genedlaethol o
weithgareddau rhwng 2 a 8 Chwefror;
b) adroddiad y Comisiwn
Etholiadol, 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain', a
ganfu nad oedd 49% o bobl ifanc 16-17 oed wedi cofrestru i bleidleisio.
c) adroddiad
cynnydd y Comisiwn Etholiadol, 'Dadansoddiad o'r Arbrawf Cadarnhau Byw yng
Nghymru a Lloegr', a ganfu bod y gyfradd baru i bobl rhwng 16 a 17 oed sydd
wedi cofrestru i bleidleisio'n unigol wedi gostwng o 86% i 52%; a
d) llwyddiant
menter ysgolion Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a wnaeth arwain at
ychwanegu 57,000 o bobl ifanc (tua 50% o'r grŵp oedran) at y gofrestr.
2. Yn gresynu at
y ffaith bod nifer y bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod
yn gostwng ac yn cefnogi camau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn
democratiaeth;
3. Yn galw am
gamau i rymuso swyddogion cofrestru i wella prosesau rhannu data, cynyddu nifer
y bobl sydd wedi'u cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – yn
enwedig etholwyr ifanc a myfyrwyr - a sicrhau lefelau uwch o gyfranogiad
ymhlith pobl ifanc.
Mae adroddiad
'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain' gan y Comisiwn
Etholiadol ar gael yma: http://www.electoralcommission.org.uk/__data/assets/pdf_file/0005/169889/Completeness-and-accuracy-of-the-2014-electoral-registers-in-Great-Britain.pdf
(Saesneg yn unig)
Cefnogwyd gan:
Ann Jones
(Dyffryn Clwyd)
Leanne Wood
(Canol De Cymru)
Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Keith Davies
(Llanelli)
Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru)
Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
y DU i gytuno y dylai'r broses o drosglwyddo enwau pobl gofrestredig a oedd
wedi'u cynnwys yn y gofrestr flaenorol, nad oedd wedi cofrestru'n unigol, fod
yn gymwys i gofrestr 2016 yn yr un modd ag yr oedd ar gyfer 2015.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NNDM5683 Simon Thomas (Gorllewin a Chanolbarth
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi:
a) diwrnod cofrestru
pleidleiswyr Bite the Ballot ar 5 Chwefror ac wythnos genedlaethol o
weithgareddau rhwng 2 a 8 Chwefror;
b) adroddiad y Comisiwn
Etholiadol, 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain', a
ganfu nad oedd 49% o bobl ifanc 16-17 oed wedi cofrestru i bleidleisio.
c) adroddiad cynnydd y
Comisiwn Etholiadol, 'Dadansoddiad o'r Arbrawf Cadarnhau Byw yng Nghymru a
Lloegr', a ganfu bod y gyfradd baru i bobl rhwng 16 a 17 oed sydd wedi cofrestru
i bleidleisio'n unigol wedi gostwng o 86% i 52%; a
d) llwyddiant menter ysgolion
Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a wnaeth arwain at ychwanegu 57,000 o bobl
ifanc (tua 50% o'r grŵp oedran) at y gofrestr.
2. Yn gresynu at y ffaith bod
nifer y bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn gostwng ac
yn cefnogi camau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth.
3. Yn galw am gamau i rymuso
swyddogion cofrestru i wella prosesau rhannu data, cynyddu nifer y bobl sydd
wedi'u cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a sicrhau lefelau
uwch o gyfranogiad ymhlith pobl ifanc.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
32 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gytuno y dylai'r broses o
drosglwyddo enwau pobl gofrestredig a oedd wedi'u cynnwys yn y gofrestr
flaenorol, nad oedd wedi cofrestru'n unigol, fod yn gymwys i gofrestr 2016 yn
yr un modd ag yr oedd ar gyfer 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
10 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NNDM5683 Simon Thomas (Gorllewin a Chanolbarth
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) diwrnod cofrestru
pleidleiswyr Bite the Ballot ar 5 Chwefror ac wythnos genedlaethol o
weithgareddau rhwng 2 a 8 Chwefror;
b) adroddiad y Comisiwn
Etholiadol, 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain', a
ganfu nad oedd 49% o bobl ifanc 16-17 oed wedi cofrestru i bleidleisio.
c) adroddiad cynnydd y
Comisiwn Etholiadol, 'Dadansoddiad o'r Arbrawf Cadarnhau Byw yng Nghymru a
Lloegr', a ganfu bod y gyfradd baru i bobl rhwng 16 a 17 oed sydd wedi
cofrestru i bleidleisio'n unigol wedi gostwng o 86% i 52%; a
d) llwyddiant menter ysgolion
Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a wnaeth arwain at ychwanegu 57,000 o bobl
ifanc (tua 50% o'r grŵp oedran) at y gofrestr.
2. Yn gresynu at y ffaith bod
nifer y bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn gostwng ac
yn cefnogi camau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth.
3. Yn galw am gamau i rymuso
swyddogion cofrestru i wella prosesau rhannu data, cynyddu nifer y bobl sydd
wedi'u cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a sicrhau lefelau
uwch o gyfranogiad ymhlith pobl ifanc.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU
i gytuno y dylai'r broses o drosglwyddo enwau pobl gofrestredig a oedd wedi'u
cynnwys yn y gofrestr flaenorol, nad oedd wedi cofrestru'n unigol, fod yn
gymwys i gofrestr 2016 yn yr un modd ag yr oedd ar gyfer 2015.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
9 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 21/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5639
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu cyflawni cynllun gweithredu strategol
Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm awtistig.
2. Yn nodi bod angen gwneud mwy i ddiwallu anghenion
plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.
3. Yn credu y byddai gosod dyletswyddau penodol ar
awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal
a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf
Awtistiaeth ar gyfer Cymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5639 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu cyflawni
cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm
awtistig.
2. Yn nodi bod angen gwneud
mwy i ddiwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.
3. Yn credu y byddai gosod
dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o
eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
21 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 14/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5630
Antoinette
Sandbach (Gogledd Cymru)
Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynlliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) bod menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith
Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Cymru;
b) ei bod bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y
bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog Cyfartal;
c) bod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran
sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn y gweithle.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu
contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt
unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5630
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynlliad
Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) bod menywod wedi gwneud
cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o
economi Cymru;
b) ei bod bron i 100 mlynedd
ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog
Cyfartal;
c) bod gan Lywodraeth Cymru
ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn
digwydd yn y gweithle.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i
gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
32 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 10/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5636
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Mick
Antoniw (Pontypridd)
Alun
Ffred Jones (Arfon)
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi egwyddorion y Bil Cymorth i Farw.
Mae'r Bil Cymorth i Farw ar gael yn:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/assisteddying.html
(Saesneg yn unig)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.53
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5636
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi egwyddorion y Bil
Cymorth i Farw.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
20 |
21 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Cyfarfod: 03/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5625
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid datganoli plismona (heblaw am Asiantaeth
Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol).
Cyfarfod: 09/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5552
Ann
Jones (Dyffryn Clwyd)
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru)
Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r awydd llethol ymhlith cefnogwyr pêl-droed i weld cyfleusterau
sefyll diogel yn cael eu cyflwyno;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda
chymdeithasau chwaraeon ac awdurdodau rheoleiddio i hyrwyddo cyfleusterau
sefyll ddiogel yn stadia chwaraeon yng Nghymru; ac
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno cynllun peilot
ar gyfer cyfleusterau sefyll diogel yng Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NNDM5536
Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r awydd llethol ymhlith cefnogwyr
pêl-droed i weld cyfleusterau sefyll diogel yn cael eu cyflwyno;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos
gyda chymdeithasau chwaraeon ac awdurdodau rheoleiddio i hyrwyddo cyfleusterau
sefyll ddiogel yn stadia chwaraeon yng Nghymru; ac
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno
cynllun peilot ar gyfer cyfleusterau sefyll diogel yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
20 |
1 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 14/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5502
Kirsty
Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion
ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd i wahardd y defnydd o sigaréts electronig mewn
mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod 2.1 miliwn o oedolion yn y DU, yn ôl
amcangyfrif, yn defnyddio sigaréts electronig ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod canllawiau iechyd y cyhoedd oddi wrth y
Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ‘Tobacco:
harm-reduction approaches to smoking’ yn cefnogi’r defnydd o gynnyrch
trwyddedig sy’n cynnwys nicotin i helpu pobl i ysmygu llai neu i roi'r gorau i
ysmygu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r dystiolaeth sy’n
sail i’r cynigion ar sigaréts electronig, er mwyn darparu eglurder ar gyfer
cyfiawnhau'r cynigion hyn ym Mil Iechyd y Cyhoedd.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 14.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NNDM5502
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig yn ymgynghoriad Llywodraeth
Cymru ar gynigion ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd i wahardd y defnydd o sigaréts
electronig mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod 2.1 miliwn o oedolion yn y DU,
yn ôl amcangyfrif, yn defnyddio sigaréts electronig ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod canllawiau iechyd y cyhoedd oddi
wrth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ‘Tobacco:
harm-reduction approaches to smoking’ yn cefnogi’r defnydd o gynnyrch
trwyddedig sy’n cynnwys nicotin i helpu pobl i ysmygu llai neu i roi'r gorau i
ysmygu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r
dystiolaeth sy’n sail i’r cynigion ar sigaréts electronig, er mwyn darparu
eglurder ar gyfer cyfiawnhau'r cynigion hyn ym Mil Iechyd y Cyhoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
22 |
3 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5464
Mick
Antoniw (Pontypridd)
Dafydd
Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ymrwymo i chwarae ei ran lawn mewn materion Ewropeaidd; ac
yn benodol:
a) yn cydnabod y gwerth i Gymru ac i'r UE yn sgïl ymgysylltu
cadarnhaol Cymru yn Ewrop;
b) yn defnyddio sgiliau, profiad ac arloesedd y Llywodraeth a
phobl Cymru i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, ffyniant economaidd a
llywodraethu democrataidd ledled Ewrop.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.17
NNDM5464
Mick Antoniw (Pontypridd)
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ymrwymo i chwarae ei ran lawn mewn materion
Ewropeaidd; ac yn benodol:
a) yn cydnabod y gwerth i Gymru ac i'r UE yn sgïl
ymgysylltu cadarnhaol Cymru yn Ewrop;
b) yn defnyddio sgiliau, profiad ac arloesedd y
Llywodraeth a phobl Cymru i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, ffyniant
economaidd a llywodraethu democrataidd ledled Ewrop.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 12/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5423
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) yr effaith andwyol y mae colli eu pensiynau wedi’i chael
ar dros 700 o gyn-weithwyr Visteon sy’n byw yn ardal Abertawe a’r cyffiniau;
b) yr effaith ddilynol y mae colli pensiynau gweithwyr
Visteon wedi’i chael ar economi Abertawe a’r cyffiniau;
c) y bydd pum mlynedd wedi mynd heibio ar 2 Ebrill eleni ers
cau Visteon fel cwmni, a bod gorymdaith fawr yn cael ei threfnu yn San Steffan;
a
d) bod eleni’n flwyddyn bwysig i’r ymgyrch, o ystyried y bydd
achos llys Unite the Union yn erbyn Ford yn cael ei gynnal yn yr Uchel Lys yn
Llundain ddiwedd 2014.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i effaith colli eu
pensiynau ar weithwyr Visteon ac ar economi’r ardal lle maent yn byw.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 2.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5423 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi:
a) yr effaith andwyol y mae colli
eu pensiynau wedi’i chael ar dros 700 o gyn-weithwyr Visteon sy’n byw yn ardal
Abertawe a’r cyffiniau;
b) yr effaith ddilynol y mae colli
pensiynau gweithwyr Visteon wedi’i chael ar economi Abertawe a’r cyffiniau;
c) y bydd pum mlynedd wedi mynd
heibio ar 2 Ebrill eleni ers cau Visteon fel cwmni, a bod gorymdaith fawr yn
cael ei threfnu yn San Steffan; a
d) bod eleni’n flwyddyn bwysig i’r
ymgyrch, o ystyried y bydd achos llys Unite the Union yn erbyn Ford yn cael ei
gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain ddiwedd 2014.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ymchwilio i effaith colli eu pensiynau ar weithwyr Visteon ac ar economi’r
ardal lle maent yn byw.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
14 |
4 |
41 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 04/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5358
Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Rhodri
Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder difrifol:
a) yr achosion o droseddwyr yn targedu plant agored i niwed
er mwyn cam-fanteisio’n rhywiol arnynt;
b) bod plant sydd ar goll o ofal yn wynebu perygl penodol o
gam-fanteisio rhywiol;
c) y dystiolaeth nad yw awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yma
yn gweithredu’n llawn ganllawiau Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant sy'n mynd
ar goll o ofal;
d) y gall yr arfer o leoli y tu allan i ardal olygu bod plant
sy'n derbyn gofal yn wynebu mwy o berygl o gamdriniaeth a cham-fanteisio.
2. Yn cymeradwyo gwaith Prosiect Plant ar Goll Gwent ac yn
nodi'r angen am ddata cymaradwy, cyson a dibynadwy ar yr achosion o blant sy'n
derbyn gofal sy'n mynd ar goll o gartrefi plant a gofal maeth.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.10
NNDM5358
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder difrifol:
a) yr achosion o droseddwyr yn targedu plant agored i
niwed er mwyn cam-fanteisio’n rhywiol arnynt;
b) bod plant sydd ar goll o ofal yn wynebu perygl
penodol o gam-fanteisio rhywiol;
c) y dystiolaeth nad yw awdurdodau lleol yng Nghymru hyd
yma yn gweithredu’n llawn ganllawiau Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant sy'n
mynd ar goll o ofal;
d) y gall yr arfer o leoli y tu allan i ardal olygu bod
plant sy'n derbyn gofal yn wynebu mwy o berygl o gamdriniaeth a cham-fanteisio.
2. Yn cymeradwyo gwaith Prosiect Plant ar Goll Gwent ac
yn nodi'r angen am ddata cymaradwy, cyson a dibynadwy ar yr achosion o blant
sy'n derbyn gofal sy'n mynd ar goll o gartrefi plant a gofal maeth.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 16/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5325
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod risg uchel llusernau
awyr i ddiogelwch y cyhoedd, i adeiladau a strwythurau, ac i les anifeiliaid
fferm a bywyd gwyllt;
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymchwilio i rinweddau cyfyngu ar ryddhau
llusernau awyr yng Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NNDM5325 Antoinette
Sandbach (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod risg uchel llusernau
awyr i ddiogelwch
y cyhoedd, i adeiladau a strwythurau, ac i les anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt;
2. Yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i ymchwilio
i rinweddau cyfyngu ar ryddhau
llusernau awyr yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 10/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5266
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi'r
ymgyrch Dim Mwy o Dudalen Tri ac yn galw ar bapur
newydd The Sun i roi'r gorau i'r cynnwys
hwn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.00
NDM5266
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi'r ymgyrch Dim Mwy o Dudalen Tri ac yn galw ar
bapur newydd The Sun i roi'r gorau i'r
cynnwys hwn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 26/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5262
Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe)
Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
credu y dylai'r setliad datganoli fod yn seiliedig ar fodel pwerau a gedwir yn
ôl.
Cefnogwyd gan:
Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Mick
Antoniw (Pontypridd)
Keith
Davies (Llanelli)
Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Lindsay
Whittle (Dwyrain De Cymru)
Llyr
Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)
Alun
Ffred Jones (Arfon)
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
David
Rees (Aberafan)
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dogfennau ategol:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5262
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylai'r setliad datganoli fod yn seiliedig
ar fodel pwerau a gedwir yn ôl.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
2 |
6 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 15/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5235 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod hyrwyddo diodydd egni llawn caffein
i blant a phobl ifanc yn achos
o bryder sylweddol i iechyd y cyhoedd; a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu i godi ymwybyddiaeth o’r pryderon iechyd sy'n ymwneud â diodydd egni llawn
caffein.
Cefnogir
gan:
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin
a De Sir Benfro)
Ann
Jones (Dyffryn Clwyd)
Keith
Davies (Llanelli)
Ken
Skates (De Clwyd)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Dileu pwynt 2.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.02
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5235
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod hyrwyddo diodydd egni llawn caffein
i blant a phobl ifanc yn achos
o bryder sylweddol i iechyd y cyhoedd; a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu i godi ymwybyddiaeth o’r pryderon iechyd sy'n ymwneud â diodydd egni llawn
caffein.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
5 |
10 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei
ddiwygio.
Cyfarfod: 13/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5181 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn penderfynu
cefnogi'r egwyddor o gynnal gwrandawiadau cyn cadarnhau penodiadau
cyhoeddus pwysig yng Nghymru.
Cefnogwyd
gan:
Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Mick
Antoniw (Pontypridd)
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru)
William
Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin
a De Sir Benfro)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
David
Rees (Aberafan)
Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Ann
Jones (Dyffryn Clwyd)
Christine
Chapman (Cwm Cynon)
David
Melding (Canol De Cymru)
Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Mohammad
Asghar (Dwyrain De Cymru)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.42
NDM5181
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn penderfynu cefnogi'r egwyddor o gynnal gwrandawiadau cyn cadarnhau penodiadau cyhoeddus pwysig yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cyfarfod: 06/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5137
Joyce Watson (Canolbarth
a Gorllewin Cymru)
Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Byron Davies (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod cerddwyr a gafodd eu hanafu neu eu lladd yn cynrychioli 21 y cant o
nifer y bobl a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ar
y ffyrdd yng Nghymru yn 2011;
2.
Yn cydnabod bod terfynau cyflymder o 20 milltir yr awr wedi’u profi i fod yn
fuddiol i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu neu eu lladd; a
3.
Yn galw ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20 milltir yr awr yng
Nghymru.
Cefnogwyd gan:
Christine
Chapman (Cwm Cynon)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NDM5137
Joyce Watson (Canolbarth
a Gorllewin Cymru)
Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Byron Davies (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod cerddwyr a gafodd eu hanafu neu eu lladd yn cynrychioli 21 y cant o
nifer y bobl a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ar
y ffyrdd yng Nghymru yn 2011;
2.
Yn cydnabod bod terfynau cyflymder o 20 milltir yr awr wedi’u profi i fod yn
fuddiol i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu neu eu lladd; a
3.
Yn galw ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20 milltir yr awr yng
Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 30/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5147
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
David Rees (Aberafan)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod
y manteision i Gymru o fod yn rhan
o’r Undeb Ewropeaidd.
Cefnogwyd
gan:
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Llyr Huws
Gruffydd (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Rhodri
Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin
a Dinefwr)
Ieuan Wyn
Jones (Ynys Môn)
Rebecca
Evans (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Lindsay
Whittle (Dwyrain De Cymru)
Keith
Davies (Llanelli)
Elin Jones (Ceredigion)
Christine
Chapman (Cwm Cynon)
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ar ôl
‘Ewropeaidd’ ychwanegu ‘, ond yn nodi
bod angen ail-negodi telerau perthynas y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd'.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu
bod un Llywodraeth Lafur ar ôl
y llall yng Nghymru wedi methu’n
barhaus â defnyddio cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i ddatblygu economi gref a chynaliadwy yng Nghymru.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi
nad oes
neb o dan 55 oed yng Nghymru wedi
cael pleidlais ar berthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu
ymrwymiad Prif Weinidog y DU i gynnig refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr
Undeb Ewropeaidd.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.56
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5147
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
David Rees (Aberafan)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod
y manteision i Gymru o fod yn rhan
o’r Undeb Ewropeaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
7 |
3 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 28/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5096
Ken Skates (De Clwyd)
Eluned Parrott (Canol
De Cymru)
David Melding (Canol
De Cymru)
Llyr Huws Gruffydd
(Gogledd Cymru)
Cefnogwyd gan:
Rebecca Evans
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod ac yn gresynu bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dioddef stigma a gwahaniaethu;
2. Yn croesawu Amser i Newid Cymru, sef yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn eu hwynebu;
3. Yn nodi’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Amser i Newid Cymru, a oedd yn dangos bod:
a) un ym mhob pedwar yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl fod mewn swydd gyhoeddus; a
b) um ym mhob 10 yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael plant;
4. Yn cydnabod bod pobl sydd â materion iechyd meddwl yn chwarae rhan sylweddol mewn cymdeithas, yn gweithio ar draws ystod o sectorau ac yn gwneud cyfraniadau pwysig at yr economi; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch Amser i Newid Cymru a dangos ymrwymiad i roi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.29
NDM5096
Ken Skates (De Clwyd)
Eluned Parrott (Canol
De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd
Cymru)
Cefnogwyd gan:
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod ac yn gresynu bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dioddef stigma a gwahaniaethu;
2. Yn croesawu Amser i Newid Cymru, sef yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn eu hwynebu;
3. Yn nodi’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Amser i Newid Cymru, a oedd yn dangos bod:
a) un ym mhob pedwar yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl fod mewn swydd gyhoeddus; a
b) um ym mhob 10 yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael plant;
4. Yn cydnabod bod pobl sydd â materion iechyd meddwl yn chwarae rhan sylweddol mewn cymdeithas, yn gweithio ar draws ystod o sectorau ac yn gwneud cyfraniadau pwysig at yr economi; a
5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch Amser i Newid Cymru a dangos ymrwymiad i roi terfyn ar
y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd
meddwl.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 17/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM5020
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn cydnabod y potensial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o Aber Afon Hafren a phwysigrwydd prosiect o’r fath i Lywodraeth Cymru o ran cyflawni ei thargedau ynni adnewyddadwy, yn ogystal â’r potensial i greu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi; a
2. Yn credu, wrth ddatblygu ynni o’r fath, y dylid dylunio’r dechnoleg i echdynnu’r ynni gan sicrhau ei fod yn cael yr effaith amgylcheddol leiaf bosibl, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol a chymesur.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:13
NDM5020
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn cydnabod y potensial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o Aber Afon Hafren a phwysigrwydd prosiect o’r fath i Lywodraeth Cymru o ran cyflawni ei thargedau ynni adnewyddadwy, yn ogystal â’r potensial i greu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi; a
2. Yn credu, wrth ddatblygu ynni o’r fath, y dylid dylunio’r dechnoleg i echdynnu’r ynni gan sicrhau ei fod yn cael yr effaith amgylcheddol leiaf bosibl, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol a chymesur.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 04/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM5023
Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd)
Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru)
Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ym mhob
etholiad a refferendwm a gynhelir yng Nghymru.
Cefnogwyd gan:
Keith Davies (Llanelli)
Christine Chapman (Cwm Cynon)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Julie James (Gorllewin Abertawe)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.33
NDM5023
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi gostwng yr oedran
pleidleisio i 16 oed ym mhob etholiad
a refferendwm a gynhelir yng Nghymru.
Cefnogwyd gan:
Keith Davies (Llanelli)
Christine Chapman (Cwm Cynon)
Kirsty Williams (Brycheiniog
a Sir Faesyfed)
Vaughan Gething (De Caerdydd
a Phenarth)
Mark Drakeford (Gorllewin
Caerdydd)
Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd)
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
8 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig.
Cyfarfod: 09/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM4965
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn colli golwg y mae modd ei osgoi yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Cefnogwyd gan:
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie James (Gorllewin Abertawe)
Lynne Neagle (Tor-faen)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Sandy Mewies (Delyn)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Nick Ramsay (Mynwy)
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Keith Davies (Llanelli)
David Rees (Aberafan)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
Byron Davies (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14:57.
NDM4965
Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd)
Suzy Davies
(Gorllewin De Cymru)
Lindsay Whittle
(Dwyrain De Cymru)
Kirsty Williams
(Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn colli golwg y mae modd ei osgoi yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Cefnogwyd gan:
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie James (Gorllewin Abertawe)
Lynne Neagle (Tor-faen)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Sandy Mewies (Delyn)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Nick Ramsay (Mynwy)
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Keith Davies (Llanelli)
David Rees (Aberafan)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
Byron Davies (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Derbyniwyd y
cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 07/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM4863
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn hybu cyllid a gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar alluogi ystod eang o ddulliau teithio cynaliadwy a charbon isel i gael eu defnyddio mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol.
Gellir gweld y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/topics/transport/publications/ntp/?skip=1&lang=cy
Gyda chefnogaeth:
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.18
NNDM4863
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn hybu cyllid a gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar alluogi ystod eang o ddulliau teithio cynaliadwy a charbon isel mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol.
Gyda chefnogaeth:
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM4864
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) y doreth o gwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog sydd ar waith yng Nghymru;
b) y cyfraddau llog eithriadol o uchel y mae nifer o gwmnïau o'r fath yn eu codi ar eu cwsmeriaid;
c) ei bod yn haws cael gafael ar fenthyciadau o’r fath drwy ffonau deallus a’r rhyngrwyd; a
d) y potensial i fenthyca o’r fath greu dyledion difrifol ymysg ein cymunedau tlotaf a sugno arian allan ohonynt.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r trydydd sector i weithio gyda’i gilydd cymaint ag y bo modd i gynnig dewisiadau hyfyw eraill yn lle cwmnïau o’r fath er mwyn tynnu sylw dinasyddion at gost go iawn y benthyciadau a gynigir.
Gyda chefnogaeth:
Keith Davies (Llanelli)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
David Rees (Aberafan)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Nick Ramsay (Mynwy)
Julie James (Gorllewin Abertawe)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)
Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Leanne Wood (Canol De Cymru)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 15.04
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cyfarfod: 07/12/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM4862
Mick Antoniw
(Pontypridd)
Nick Ramsay (Mynwy)
Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Byron Davies (Gorllewin De Cymru)
Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Keith Davies
(Llanelli)
Christine Chapman
(Cwm Cynon)
Lynne Neagle (Tor-faen)
Eluned Parrott (Canol
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r
ystod eang o gefnogaeth, gan gynnwys gan Lywodraeth
Cymru, ar gyfer system teithio cyflym integredig (metro) yn seiliedig ar rwydwaith
rheilffyrdd y cymoedd;
2. Yn cydnabod
nad yw
trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd wedi’i ddatganoli a bod hynny’n rhagofyniad ar gyfer datblygu’r metro; ac
3. Yn cydnabod
y bydd y cyd-destun ariannol presennol, ynghyd â diffyg pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, yn golygu y bydd y prosiect yn symud
yn ei flaen
bob yn dipyn ac y bydd yn galw
am ddull cydweithredol wedi’i gydgysylltu gan Lywodraeth Cymru.
Gyda chefnogaeth:
Julie James (Gorllewin Abertawe)
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Penderfyniad:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cyfarfod: 19/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl gan Aelod unigol, o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM4825
Christine Chapman
(Cwm Cynon)
Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd)
Lindsay Whittle
(Dwyrain De Cymru)
Kirsty Williams
(Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i’r
Cynulliad ei hystyried a fyddai’n cael gwared â’r gallu i ddefnyddio ‘cosb
gyfreithlon’ fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o ymosod ar blentyn.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
13 |
15 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.