Cyfarfodydd
P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 41 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 19.07.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 33 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i
gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Thrafnidiaeth y bydd y deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu
hystyried yn ystod yr Adolygiad Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na
allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd llawer o gamau pendant eraill.
Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 41 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 16.04.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 43 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes a
P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol
i Arafu Traffig a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:
- manylion pellach am gynnydd yr Adolygiad
o Derfyn Cyflymder hyd yma, yr egwyddorion sy'n sail iddo a'r meini prawf
asesu a ddefnyddiwyd; ac
- enghreifftiau ymarferol o leoedd a
adolygwyd yn ystod 2018 hyd yma, a beth oedd y canlyniad ym mhob achos.
Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 41 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 13.02.18 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 47 KB
- 14.02.18 Gohebiaeth - Cyngor Sir Ceredigion at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 387 KB
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor eisoes i grwpio'r ddeiseb hon i'w thrafod gyda P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy
Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig a P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy
Tre-Taliesin: Angen Brys am Fesurau Camymddwyn Cyflymdra Effeithiol.
Trafododd yr
Aelodau yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ar gyfer P-05-767 a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fyddai'n ystyried datblygu
rhaglen Adolygiad Terfyn Cyflymder a sicrhau ei fod ar gael yn gyhoeddus, er
mwyn ymateb i bryderon am ddiffyg natur agored gyda'r broses.
Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 41 KB Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 88 KB Gweld fel HTML (2/2) 38 KB
- 24.11.17 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 57 KB
- 02.01.18 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 26 KB Gweld fel HTML (2/4) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at y canlynol:
·
Cyngor Sir Ceredigion i ofyn am ei farn ynghylch y materion sy'n codi yn y
ddeiseb a gofyn pa asesiad y mae wedi'i wneud ynghylch diogelwch plant sy'n
defnyddio bysiau ysgol yn y lleoliad hwn; ac
·
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i ofyn, o gofio bod yr
adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o
safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr
adolygiad hwnnw.