Cyfarfodydd

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/01/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19

Papur 5 - Llythyr gan y Comisiynydd a Memorandwm Esboniadol ynghylch Cyllideb Atodol 2018-19

Papur 6 - Llythyr gan y Comisiynydd - tanwariant 2018-19 y Bwrdd Taliadau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd y Pwyllgor Ail Gyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19.

 


Cyfarfod: 15/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19

NDM6564 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19, fel y pennir yn Nhabl 1 o “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2017 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

NDM6564 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19, fel y pennir yn Nhabl 1 o “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2017 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 15/11/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19: trafod ymateb Comisiwn y Cynulliad

Papur 13 - Ymateb Comisiwn y Cynulliad i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Comisiwn y Cynulliad cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw.

 


Cyfarfod: 11/10/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a dderbyniwyd yn ystod sesiwn yr wythnos diwethaf ar gyllideb ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2018-19.

 


Cyfarfod: 05/10/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19 Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 05/10/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyllideb Ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19

Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Papur 1 – Cyllideb Ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2018-19

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar gyllideb ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19 gan Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid.

 

3.2 Cytunodd y Comisiwn i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu rhagor o wybodaeth am y gwelliannau a wnaed o ran diogelwch ac i rannu canlyniadau ei adolygiad capasiti.

 


Cyfarfod: 06/07/2017 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch newidiadau i broses y gyllideb

Dogfennau ategol: