Cyfarfodydd

P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a chytunwyd i gau’r deisebau o ystyried bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bellach wedi diystyru mynd ar drywydd newid deddfwriaethol yn y maes hwn yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd sawl mesur a newidiadau polisi gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfamser.

 

 


Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r ddeiseb P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru, a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran diwygio trwyddedu tacsis ac, yn benodol, y cynllun ar gyfer camau tymor byr y gellid eu cymryd ymlaen llaw i ddeddfwriaeth.

 

 


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-775 Cau'r bwlch gweithredu tacsis yn drawsffiniol ac is-gontractio.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i aros nes bod yr adroddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y deisebau.

 


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:

  • a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngu neu atal gweithio trawsffiniol pe bai'n penderfynu peidio â sefydlu un awdurdod trwyddedu cenedlaethol yn dilyn yr ymgynghoriad; a
  • phe bai awdurdod trwyddedu cenedlaethol yn cael ei sefydlu, a fyddai'n rheoli nifer y tacsis a cherbydau llogi preifat sy'n gweithredu mewn ardal benodol, ac os felly sut.

 

 


Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         grwpio'r ddeiseb hon gyda deiseb P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a'u hystyried gyda'i gilydd yn y dyfodol; ac

·         aros i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-775 Cau'r bwlch gweithredu tacsis yn drawsffiniol ac is-gontractio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros nes bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'i hymgynghoriad cyhoeddus diweddar ynghylch diwygiadau posibl i drwyddedu tacsis, a ddisgwylir cyn diwedd 2017, cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb.