Cyfarfodydd

P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

NDM7053 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2019.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019.

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.45

NDM7053 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Adroddiad drafft - P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi'r adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd a chytunodd i lunio adroddiad ar y ddeiseb i'r Pwyllgor ei drafod.

 

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trafod llythyr drafft ynghylch P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu – adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i'r cyfarfod. 

 


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pryd y disgwylir i'r Fframwaith Triniaethau Camddefnyddio Sylweddau gael ei gyhoeddi; a

·         llunio llythyr drafft at Ysgrifennydd y Cabinet, gan amlinellu'r dystiolaeth a gafwyd ynghyd ag unrhyw argymhellion y bydd y Pwyllgor efallai am eu gwneud.

 


Cyfarfod: 14/02/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth - llythyr gan y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynglŷn â Deiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu.

 


Cyfarfod: 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • gwahodd unigolion y mae'r mater hwn yn effeithio arnynt, ynghyd â byrddau iechyd, Cymdeithas Feddygol Prydain a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig bellach ar y materion a godwyd gan y ddeiseb; ac
  • ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn a yw wedi ystyried y materion hyn mewn gwaith diweddar, neu'n bwriadu gwneud hynny mewn ymchwiliadau y bydd yn eu cynnal cyn bo hir.

 

 


Cyfarfod: 05/12/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebydd ac i ofyn ei farn ar y materion a ganlyn:

    • p'un a ddylid ychwanegu gwrthiselyddion at y rhestr o gyffuriau a dargedir i'w lleihau gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru; ac

o   a ddylai cleifion ledled Cymru gael mynediad at Wasanaeth Cymorth Meddyginiaethau Rhagnodedig.