Cyfarfodydd

P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail yr ymddengys nad oes fawr o ddim y gall y Pwyllgor ei wneud ynghylch y ddeiseb ar hyn o bryd.

 

Wrth wneud hynny, nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn mynd â nifer o orsafoedd newydd posibl trwy broses model busnes 5 cam, a hynny er mwyn cefnogi ceisiadau a wneir i unrhyw Gronfa Gorsafoedd Newydd a gynhelir gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol. Mae wedi ymrwymo'r arian cyfatebol angenrheidiol ar gyfer unrhyw geisiadau a gyflwynir.

 

 


Cyfarfod: 13/06/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch Deiseb P-05-780 Ail-agor Gorsaf Carno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr


Cyfarfod: 07/06/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebwyr a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i rannu sylwadau'r deisebwyr a gofyn pryd, ac am ba resymau, y diwygiodd Llywodraeth Cymru ei pholisi mewn perthynas â chyllido'r broses o ddatblygu gorsaf newydd yn uniongyrchol; a

·         Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i ofyn a yw’n bwriadu edrych ar fater cyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu gorsafoedd newydd yng Nghymru, gan gynnwys fel rhan o ystyried masnachfraint rheilffordd yn y dyfodol, neu a fyddai'n ystyried neilltuo amser i wneud hynny, yn ôl cais gan y deisebwyr.

 

 

 

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-780 Ailagor gorsaf Carno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr ateb hwnnw cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-780 Ailagor gorsaf Carno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i dynnu sylw at bryderon y deisebwyr a gofyn am ymateb i'w galwad i Lywodraeth Cymru ddychwelyd i'r polisi blaenorol o ddyrannu ei chyllideb ei hun i ddatblygu gorsafoedd newydd yng Nghymru.