Cyfarfodydd

P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Sir Gâr ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod y deisebwyr bellach yn fodlon â'r sefyllfa a'r cynnydd a wnaed wrth annog awdurdodau lleol yng Nghymru i fabwysiadu polisi sganio am ficrosglodion.

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-779: Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ymatebion gan bum awdurdod lleol a nododd yn flaenorol nad oeddent yn sganio carcasau anifeiliaid anwes fel mater o drefn, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr.  Yn sgil cyfeiriad diweddar at awdurdod lleol arall mewn perthynas â'r mater hwn, cytunodd Aelodau i ofyn am eglurhad pellach ynghylch pa awdurdodau lleol nad ydynt yn sganio carcasau anifeiliaid anwes gyda'r bwriad o bosibl i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i awgrymu ei bod hi'n cyhoeddi canllawiau pellach ar y mater.

 

 

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at yr awdurdodau lleol nad ydynt ar hyn o bryd yn sganio carcasau anifeiliaid anwes fel mater o drefn, gan ofyn am fanylion eu polisïau cyfredol ac a ydynt wedi ystyried pa mor ymarferol yw cyflwyno sganio fel mater o drefn. Dywedodd y Pwyllgor hefyd y gallai ddymuno cau'r ddeiseb ar ôl cael yr ymatebion.

 

 


Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a fydd yn ystyried cynnig y deisebydd i Lywodraeth Cymru gyflwyno gofyniad i sganio carcasau anifeiliaid anwes sy'n cael eu canfod a hysbysu perchnogion mewn contractau newydd ar gyfer gwasanaethau gwastraff, neu roi canllawiau pellach i awdurdodau lleol ar y mater hwn.