Cyfarfodydd
P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd
nad yw'n bosibl nodi sut i symud y ddeiseb ymlaen heb gyswllt â'r deisebydd, ac
oherwydd rhywfaint o'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i gofio bywyd
William Williams.
Drwy wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i
ddiolch i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb ac am ei waith ar y pwnc hwn.
Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 42 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- Gohebiaeth – Cyngor Celfyddydau Cymru at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 139 KB
Cofnodion:
Datganodd Rhun
ap Iorwerth y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae mewn
cysylltiad â'r prif ddeisebydd ynghylch y mater.
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chytunodd i ysgrifennu at y
deisebydd i rannu gwybodaeth am y digwyddiad diweddar yn y Senedd a'r atebion a
roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, a gofyn a
yw'n gwybod am unrhyw sefydliadau neu unigolion addas a allai gyflwyno cynigion
pendant.
Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 43 KB Gweld fel HTML (2/1) 11 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 96 KB Gweld fel HTML (2/2) 42 KB
- 03.09.17 Gohebiaeth – gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 104 KB
- 27.09.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y tîm clercio , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/4)
- 27.09.17 - Gohebiaeth – gan y deisebydd at y tîm clercio (Ar gael yn Gymraeg yn unig), Eitem 2 PDF 134 KB Gweld fel HTML (2/5) 22 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru i ofyn:
o
p’un ai fod unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau wedi
cael eu cynnal yn ystod 2017 i gydnabod tri chan mlwyddiant geni William
Williams;
o
os na, pa ystyriaeth roddwyd i nodi’r garreg filltir hon
yn ystod y flwyddyn; ac
o
am eu barn am y cynigion a wnaed gan y deisebydd.