Cyfarfodydd

P-05-770 Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-770 Ailagor gorsaf drenau Crymlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd. O gofio bod Llywodraeth Cymru yn datblygu proses o asesu gorsafoedd newydd posibl, a'r ffaith bod Crymlyn yn cael ei asesu fel rhan o’r gwaith hwn, cytunodd yr aelodau i gau'r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, roeddent am ddiolch i'r deisebydd am ymgyrchu dros y mater hwn.

 

 


Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-770 Ailagor Gorsaf Drenau Crymlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â gohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am fanylion llawn sgoriau asesu cyfnod 1 sydd wedi'u cynnwys yn y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at Aelodau’r Cynulliad ym mis Gorffennaf 2017.

 

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-770 Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am fanylion am sut y sgoriodd Crymlyn yn asesiad Cam 1 o orsafoedd rheilffordd newydd posibl.

 

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-770 Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

  • Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn a yw mewn sefyllfa i roi diweddariad ar y broses asesu mewn perthynas â'r achos dros orsaf newydd yn Crymlin, ac i gael gwybodaeth bellach am yr amser tebygol ar gyfer y gwaith hwn.

 

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-770 Ailagor Gorsaf Drenau Crymlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd aros am farn y deisebydd am hyn cyn ystyried unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-770 Ailagor Gorsaf Drenau Crymlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gytuno i anfon y wybodaeth fanwl a ddarparwyd gan y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan ofyn:

 

·         a ellir defnyddio'r wybodaeth hon wrth lunio unrhyw asesiad yn y dyfodol o'r potensial ar gyfer gorsaf newydd yn yr ardal; ac

·         a fydd cyfle i ystyried barn pobl leol yn ystod yr asesiad hwnnw.