Cyfarfodydd

Introductions, apologies and declaration of interests

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cofnodion cyfarfod 22 Tachwedd, camau gweithredu a materion yn codi

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3

Cofnodion:

ARAC (22-01) Papur 1 - Cofnodion drafft 22 Tachwedd 2021

ARAC (22-01) Papur 2 - Crynodeb o'r camau gweithredu

2.1 Cytunwyd yn ffurfiol ar gofnodion y cyfarfod ar 22 Tachwedd gydag un gwelliant i baragraff 18.1 i'w nodi.

2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect archif ddigidol. Roedd Manon Antoniazzi wedi cyfarfod ag archifydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac roedd cynlluniau ar y gweill i ail-leoli'r tapiau mewn amodau archif gyda'r bwriad o ddigideiddio yn y dyfodol. Roedd hyn ond yn berthnasol i dapiau darlledu gan fod cofnodion papur eisoes yn cael eu harchifio fel mater o drefn.

2.3 Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am y papurau a ddosbarthwyd ers cyfarfod mis Tachwedd a chroesawodd yn arbennig yr adroddiad sicrwydd seiberddiogelwch drafft newydd a manylion y Strategaeth Ystadau arfaethedig a welwyd. Croesawodd yr Aelodau'r cynnig i gynnal sesiwn friffio ar y Strategaeth Ystadau a gofynnodd am ddiweddariadau rheolaidd pan oedd hynny'n briodol.

 

Camau i’w cymryd

·       Bydd Ed Williams yn darparu sesiwn friffio i aelodau ARAC am hynt y Strategaeth Ystadau.


Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod estynedig. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.2         Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf Suzy Davies, diolchodd y Cadeirydd yn fawr iddi ar ran yr holl Bwyllgor am ei chyfraniad, ei mewnwelediad a’i hadborth adeiladol yn ystod ei chyfnod fel aelod o’r Pwyllgor. Ychwanegodd y byddai’n edrych ymlaen at glywed ei sylwadau ar ei haelodaeth yn nes ymlaen yn y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 10/07/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd fod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Gareth Watts ac Ann-Marie Harkin.

1.2        Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 


Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd fod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru.

1.2        Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

1.3        Er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod enw Comisiwn y Cynulliad wedi newid i Gomisiwn y Senedd, a bod hynny wedi dod i rym ar 6 Mai, cytunwyd y tu allan i’r Pwyllgor y byddai enw llawn y Pwyllgor yn newid i Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Senedd (SCARAC) ac mai’r enw a fyddai’n cael ei ddefnyddio’n fewnol fyddai ARAC.

 


Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd y derbyniwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC, Comisiynydd y Cynulliad ac aelod o'r Pwyllgor. Roedd Julian Luke, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, yn bresennol fel arsylwr.

1.2        Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.


Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi y cafwyd ymddiheuriadau gan Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey, ill dau o Swyddfa Archwilio Cymru, a chroesawyd Jon Martin a oedd yn bresennol ar eu rhan.

1.2        Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.


Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1        Cafwyd dau ymddiheuriad gan Suzy Davies AC, Comisiynydd ac Ann-Marie Harkin, Swyddfa Archwilio Cymru.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a gofynnodd i'r aelodau ystyried cofnodion y cyfarfod ym mis Mehefin a lywiodd yr argymhelliad bod y Prif Weithredwr a'r Clerc yn llofnodi'r cyfrifon.

 


Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1        Cafwyd ymddiheuriad gan Hugh Widdis, Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gyda chroeso arbennig i Aled Eirug, a oedd yn arsylwi'r cyfarfod cyn ymuno â'r Pwyllgor yn ffurfiol ym mis Hydref 2019.

1.3        Nid oedd buddiannau i'w datgan.

 


Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Cafwyd ymddiheuriad gan Ann-Marie Harkin.

1.2     Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a diolchodd i'r tîm clercio am eu cymorth gyda’i gyfarfod cyntaf fel Cadeirydd.

1.3     Nid oedd buddiannau i'w datgan.


Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)

Introductions, apologies and declarations of interest

Cofnodion:

1.1     Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Lucey (Swyddfa Archwilio Cymru) a Buddug Saer, Dirprwy Glerc y Pwyllgor.

1.2     Croesawodd y Cadeirydd Clive Fitzgerald o TIAA a Siwan Davies, a gafodd ei phenodi'n ddiweddar yn Gyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, i'r cyfarfod.

1.3     Datganodd y Cadeirydd ei fod yn aelod o Grŵp Ymgynghorol Adolygiad Pensaernïaeth Ddigidol GIG Cymru.

 


Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1     Derbyniwyd un ymddiheuriad gan Ann-Marie Harkin (Swyddfa Archwilio Cymru).

1.2     Croesawodd y Cadeirydd ddau Gynghorwr Annibynnol newydd i'r cyfarfod, sef Ann Beynon a Bob Evans.   Amlinellodd Ann a Bob eu cefndiroedd proffesiynnol a'u portffolio swyddogaethau presennol.

1.3     Dywedodd y Cadeirydd, yn dilyn yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ei fod bellach yn cefnogi'r adolygiadau o'r trefniadau Pensaernïaeth Ddigidol a Llywodraethu.

 


Cyfarfod: 09/07/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1     Ni chafwyd ymddiheuriadau ac ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 


Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1     Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies, Aelod Cynulliad a Chomisiynydd. Cytunwyd y byddai'r tîm clercio yn casglu unrhyw sylwadau ar y papurau gan Suzy ynghyd ag ymatebion gan swyddogion.

1.2     Croesawodd y Cadeirydd Craig Stephenson ar gyfer dwy eitem benodol - 7 a 12.

1.3     Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 


Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1     Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann-Marie Harkin, Swyddfa Archwilio Cymru.

1.2     Croesawodd y Cadeirydd Mark Neilson (Pennaeth TGCh a Darlledu) a Richard Coombe (Pennaeth Seilwaith a Rheoli Gweithrediadau).

1.3     Nododd Eric Gregory ei fod yn parhau i fod yn rhan o'r tîm gweithredu ar gyfer yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. 

1.4     Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau eraill.