Cyfarfodydd

Cyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyf

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/11/2017 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch cyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyfyngedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwnaeth Simon Thomas AC gais bod y mater hwn yn cael ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 08/11/2017 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5.3)

5.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch cyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyfyngedig

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/09/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Carmarthenshire Energy Limited: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 1A - Rhaglen waith yr hydref

 

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-23-17 Papur 1 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Adroddiad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Carmarthenshire Energy Limited, a gyhoeddwyd ar 20 Gorffennaf.

3.2 Cytunodd yr aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn rhoi gwybod iddo am yr Adroddiad.