Cyfarfodydd

P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail y cafodd y newidiadau gwasanaeth y cyfeiriwyd atynt eu gwneud yn 2014 ac ymddengys nad oes fawr o botensial realistig i'r rhain gael eu gwrthdroi, yn enwedig yn sgil y cynigion diweddar ar gyfer ailgyflunio gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru a'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Cyngor Iechyd Cymuned.

 

 


Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Cyngor Iechyd Cymuned i ofyn am ei farn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb; a
  • cheisio rhagor o wybodaeth i wirio'r datganiad a wnaed gan y bwrdd iechyd bod nifer y marw-enedigaethau ar draws ei ardal ers 2015 "yn cymharu'n ffafriol ag unedau Mamolaeth eraill â niferoedd genedigaethau tebyg."

 

 


Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth pediatreg, obstetreg dan arweiniad ymgynghorydd ac uned gofal arbennig babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd i ofyn am ei ymateb i'r pryderon diweddaraf a fynegwyd gan y deisebydd, a gofyn am fanylion ynghylch pa mor aml y defnyddiwyd y cerbyd ambiwlans dynodedig i drosglwyddo menywod a phlant ar frys o Ysbyty Llwynhelyg i Ysbyty Glangwili.

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • nodi'r ffaith i ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ddod i law yn union cyn yr oedd y papurau i fod i gael eu cyhoeddi, a rhoi cyfle arall i'r deisebydd gwneud sylw ar yr ymateb ac unrhyw ymateb a geir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; ac
  • ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn:

o   pa asesiad y mae wedi ei wneud o effaith y newidiadau i wasanaethau Obstetreg, Pediatreg a'r Uned Gofal Arbennig Babanod yn yr ardal ers iddynt gael eu canoli yn Ysbyty Glangwili;

o   am ragor o wybodaeth am sut y mae cyfraddau marwolaethau amenedigol diweddar yn cymharu â'r cyfraddau a welwyd o dan y cyfluniad blaenorol o wasanaethau; ac

o    a oes unrhyw ddata ar gael am amseroedd trosglwyddo cleifion i Ysbyty Glangwili o'u cymharu ag amseroedd trosglwyddo i ysbytai eraill o dan y trefniadau blaenorol.