Cyfarfodydd
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2018-19
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/03/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2018-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am wybodaeth bellach mewn
perthynas â'r ymateb i ddau o'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor. Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Pwyllgor
a chytunodd ar ymateb.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar drefniadau asesu ac adrodd 2018-19 - Ymateb y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am waith craffu arferol y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus ar Gyfrifon 2018-19. Roedd yr adroddiad yn cynnwys chwe argymhelliad.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar eu hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Cyfarfod: 05/11/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllideb y Comisiwn ar gyfer 18/19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
- Cyfyngedig 12
- Cyfyngedig 13
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Diweddarwyd
y Comisiynwyr ar wahanol agweddau ar gyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn
gyfredol.
Trafododd
y Comisiynwyr danwariant a ragwelir mewn perthynas â defnyddio cyllideb y
Penderfyniad a'r amcangyfrif o gostau Cyllid Pensiwn yr Aelodau, a gafwyd gan
Adran Actiwari'r Llywodraeth, sy'n is na'r gyllideb a osodwyd cyn dechrau'r
flwyddyn ariannol.
Cytunodd y
Comisiynwyr i gyflwyno Cyllideb Atodol, i'w chynnwys yng nghynnig cyllideb
Llywodraeth Cymru, i wneud gostyngiad o £500,000 yng nghyllideb y gwariant a
reolir yn flynyddol a gostyngiad o £500,000 yn llinell Penderfyniad y Bwrdd
Taliadau yn y gyllideb (cyflogau Aelodau a chostau cysylltiedig).
Cytunodd y
Comisiwn i gynnig Cynllun Ymadael Gwirfoddol, y rhagwelir y bydd yn hwyr ym mis
Tachwedd 2018 i sicrhau y gall barhau i ddarparu'r sgiliau, yr arbenigedd a'r
capasiti angenrheidiol i gefnogi'r Cynulliad drwy'r heriau penodol yn sgil
Brexit a Newid Cyfansoddiadol. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r
Pwyllgor Cyllid at y posibilrwydd o Gynllun Ymadael Gwirfoddol yn ystod y cylch
cyllideb diweddar a'r gwaith o graffu ar y cyfrifon.
Cytunodd y Comisiynwyr y
dylai'r Prif Weithredwr a'r Swyddog Cyfrifyddu ysgrifennu at y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid i roi gwybod iddynt am y penderfyniadau
hyn.
Cyfarfod: 05/03/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Cyflwynodd Catharine Bray adroddiad rheoli ariannol
diwygiedig ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Ionawr gan ystyried penderfyniadau
gwario y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau (IRB). Roedd arian wrth gefn ar gyfer
costau, fel absenoldeb mamolaeth, wedi'i neilltuo i gael ei dalu'n ganolog.
Cafodd y Bwrdd wybod er bod dyraniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd yn
cael eu cwblhau, mae'n bosibl y bydd angen gofyn am fwy o arbedion ar
gyllidebau yn ystod y flwyddyn.
Amlinellodd Dave Tosh y broses blaenoriaethu MoSCoW yr
oedd yr IRB yn eu defnyddio i helpu i nodi blaenoriaeth prosiect yn seiliedig
ar sgorau yn erbyn cyfres o feini prawf, i helpu i benderfynu ar y rhaglen
fuddsoddi ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd yn helpu i wneud penderfyniadau ac
yn rhoi ffurfioldeb i'r broses. Byddai angen mwy o drafodaeth ar yr eitemau y
gellir eu gwneud a byddai'n dibynnu ar yr arian sydd ar gael.
CAM I’W GYMRYD: Dave Tosh i ddosbarthu proses MoSCoW i aelodau'r
Bwrdd.
Cyfarfod: 26/02/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb y Comisiwn 2018-19 - ymateb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
Wedi rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Cyllid
eisoes, trafododd y Comisiynwyr weddill yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor
yn ei adroddiad ar Gyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2018-19, yn ymwneud ag
adeiladau a’r Adolygiad Capasiti.
Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i
adroddiad y Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 30/11/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Ailddatganiad o Ffigurau’r Gyllideb
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 06/11/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
- Cyfyngedig 30
- Cyfyngedig 31
Cyfarfod: 23/10/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
Rhoddodd Manon Antoniazzi amlinelliad i'r Bwrdd o'r heriau a oedd yn codi
yn sgil yr argymhellion, yn dilyn sesiwn graffu'r Pwyllgor ar Gyllideb ddrafft
y Comisiwn ar gyfer 2018-19. Nid oedd cylch gorchwyl mor glir i'r Pwyllgor
fabwysiadu'r gyllideb eleni fel yn y blynyddoedd blaenorol, a cheisiwyd
eglurhad pellach mewn perthynas â'r cyfnod a gwmpesir gan yr argymhelliad
cyntaf.
Trafododd y Bwrdd yr ymateb i bob argymhelliad, a fyddai'n cael eu cyflwyno
i'r Comisiynwyr yn eu cyfarfod ar 6 Tachwedd i'w cymeradwyo, gan gynnig y dylid
cytuno ar yr argymhellion gan mwyaf, ond hefyd wneud achos am yr adnoddau a'r hyblygrwydd sydd eu hangen i
gyflawni strategaeth y Comisiwn.
CAM I’W GYMRYD: Nia Morgan i ddosbarthu'r ymateb drafft i'r Bwrdd i gael
sylwadau cyn ei gwblhau.
Cyfarfod: 19/10/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
6 Cyllideb ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2018-19: Trafod yr adroddiad drafft
Papur 1 –
adroddiad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38 , View reasons restricted (6/1)
Cofnodion:
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.
Cyfarfod: 25/09/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb ddrafft 2018-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
- Cyfyngedig 42
Cyfarfod: 17/07/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diweddariad ar y strategaeth y gyllideb 2018-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Ar ôl
trafodaeth gychwynnol ar y gyllideb ddrafft yn y cyfarfod diwethaf, trafododd y
Comisiynwyr waith pellach a oedd wedi'i wneud yn cynnwys gwybodaeth newydd a
ddaeth i law mewn perthynas â Chynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad a Chost
Gwasanaeth Pensiwn (cyllideb AME).
Bu'r
Comisiynwyr yn myfyrio ar y sefyllfa o ran eu strategaeth a gwaith y Cynulliad
flwyddyn ar ôl yr etholiad, a'r cyfeiriad y maent yn dymuno ei ddarparu o ran
blaenoriaethu. Roeddent yn cytuno y dylent fod yn rhan o waith pellach ar hyn
yn ystod y toriad.
Caiff y
gyllideb ddrafft ei gosod ar ôl ystyriaeth derfynol y Comisiwn ym mis Medi.
Cyfarfod: 22/06/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Diweddariad ar strategaeth y gyllideb
Eitem lafar
Cofnodion:
Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am
strategaeth y gyllideb o gyfarfod y Comisiwn ar 12 Mehefin. Oherwydd y pwysau ariannol sylweddol ar y
gyllideb a datblygiadau annisgwyl, gwnaeth swyddogion, ynghyd â'r Llywydd a
Suzy Davies AC yn ei rôl fel prif Gomisiynydd ar strategaeth y gyllideb,
ystyried cynigion i reoli costau prosiectau, gan ystyried ymarferoldeb a
risgiau, a sicrhau gwell eglurder mewn perthynas â chapasiti a chyfeiriad.
Darparodd y Bwrdd fewnbwn ar y
pwysau yn ystod y flwyddyn, sut y gellid rheoli hynny a'r effaith ar y
strategaeth ar gyfer ariannu yn y dyfodol.
Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ystyriaethau o ran y gyllideb (Saesneg yn unig)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr baratoadau’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol
2018-19.
Trafododd y Comisiynwyr y cyd-destun presennol, sydd wedi gweld lefel y
newid yn mynd yn fwy na’r disgwyl, gyda chynnydd yn y pwysau a’r galw ar
Gomisiwn y Cynulliad. Cydnabuont fod newidiadau pellach ar y gorwel a bod angen
dal y ddysgl yn wastad rhwng cefnogi’r rhain a pharhau i ddarparu gwasanaethau
rhagorol i’r Aelodau ac i bobl Cymru.
Cadarnhaodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth am gyfeiriad y gwaith a gwnaed cais
am wybodaeth ychwanegol i gefnogi eu penderfyniadau yn y dyfodol.
Cytunodd y Comisiynwyr y caiff y gyllideb ddrafft derfynol ei gosod erbyn
diwedd mis Medi yn dilyn ystyriaeth bellach.
Cyfarfod: 25/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Strategaeth Cyllideb 2018-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
- Cyfyngedig 54
Cofnodion:
Crynhodd Manon Antoniazzi bwyntiau allweddol y strategaeth i roi cyd-destun
ac i lywio trafodaethau'r Bwrdd ar gynllunio a risg.
Roedd y sefyllfa ariannol bresennol yn arbennig o heriol heb fawr o
hyblygrwydd, a oedd yn golygu bod angen i gyllideb 2018-19 fod yn ddigonol i
gynnal cyflymder y newid a dyheadau'r Pumed Cynulliad, llwyth gwaith cynyddol i
Aelodau a chynnydd o ran sicrhau mwy o bwerau i Gymru, tra'n bod yn ddarbodus
ac yn ystyriol o gyd-destun y sector cyhoeddus ehangach.
Roedd gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar feysydd hyblygrwydd a allai
gyflwyno arbedion yn y gyllideb, ond roedd angen bod yn realistig o ran
digonolrwydd ac roedd meysydd o hyd lle nad oedd costau wedi'u diffinio, neu y
gellir eu dwyn ymlaen i'r flwyddyn ariannol ganlynol.
Gofynnwyd i'r Bwrdd drafod a oedd y gyllideb arfaethedig yn ddigonol i gyflawni'r
blaenoriaethau, a thrafodwyd y tybiaethau yr oedd y gyllideb yn seiliedig
arnynt, p'un a oes effeithlonrwydd pellach y gellir eu nodi o fewn gwasanaethau
neu o waith prosiect i ryddhau cyllid neu adnoddu staff ychwanegol.
CAMAU I’W CYMRYD:
·
Nia Morgan a Lowri Williams i
ystyried y costau sy'n ymwneud â staffio.
·
Penaethiaid Gwasanaethau i edrych i
weld p'un a ellir ailystyried gwariant dewisol.
·
Egluro'r geiriad strategaeth ar
gostau ar gyfer y Senedd Ieuenctid; cryfhau'r naratif ar FySenedd; cynnwys
enghreifftiau o arbedion o ddydd i ddydd sy'n cael eu gwneud e.e. Cofnod y
Trafodion/y Swyddfa Gyflwyno.
Byddai Strategaeth y Gyllideb yn cael ei chyflwyno i gyfarfod y Comisiwn ar
12 Mehefin.