Cyfarfodydd

P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ffaith bod gwaith manwl ar y gweill i ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a’r ffaith y rhagwelir ymgynghoriad pellach ar ddyluniad y cynllun yn ddiweddarach yn 2020, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddarparu sylwadau pellach y deisebwyr am ddylunio cynllun i Lywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a’r offer sy’n gysylltiedig â hwy.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am ddiweddariad ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i’r gwaith i ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn yr ymgynghoriad blaenorol yn 2019 ac i ofyn beth yn fwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-803 a P-05-829, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriadau perthnasol a gynhelir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd, cyn ystyried a ddylai gymryd camau pellach ar y deisebau.

 


Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i ganiatáu amser ychwanegol i'r deisebydd roi sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol a thrafod ymhellach a ddylid gwahodd Gweinidog yr Amgylchedd i'r Pwyllgor yn nhymor yr hydref i ateb cwestiynau ar nifer o ddeisebau sy'n ymwneud â phlastigau untro.

 

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth! a chytunodd i ysgrifennu at:

  • Weinidog yr Amgylchedd i ofyn am y canlynol:
    •  manylion pellach am y trafodaethau y mae'n bwriadu eu cynnal gyda llywodraethau eraill o fewn y DU ar y posibilrwydd o gael System Dychwelyd Adneuo ledled y DU a threth plastig;
    • ei barn ar y pwynt arall a godwyd yn y ddeiseb ynghylch deddfu i sicrhau y gellir compostio'r holl gynwysyddion ac offer bwyd a diod untro yn gyfan gwbl; ac
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gael diweddariad ar ddatblygu treth bosibl ar blastigau untro.

 

 


Cyfarfod: 26/04/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 2.3)

2.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar gyflwyno treth ar eitemau defnydd sengl tafladwy a phecynnau bwyd y gellir eu compostio

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Sesiwn dystiolaeth - P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

·         Gill Bell, Deisebydd, Pennaeth Cadwraeth Cymru, Cymdeithas Cadwraeth Morol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gill Bell, Pennaeth Cadwraeth Cymru, Cymdeithas Cadwraeth Forol.

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy a chytunodd i:

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd yr Amgylchedd i ofyn pryd y bydd astudiaeth ymchwil cyfrifoldeb y Cynhyrchydd Estynedig yn cael ei chyhoeddi ac iddi hysbysu'r Pwyllgor unwaith y bydd ar gael; ac
  • anfon manylion y ddeiseb at Gadeirydd y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a gofyn a yw'r Pwyllgor yn bwriadu gwneud unrhyw waith ar faterion sy'n ymwneud â phlastigau untro.

 

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i wahodd y deisebwyr i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth am y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 13/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn y cwestiynau penodol a ganlyn a gynigiwyd gan y deisebwyr:

 

o   a fydd yr adolygiadau arfaethedig yn cynnwys gwerthusiad o'r posibilrwydd o gyflwyno System Dychwelyd Ernes ac asesiad o'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen; ac

o   a fydd rhanddeiliaid yn gallu ymgysylltu â Llywodraeth Cymru mewn modd ystyrlon wrth iddi werthuso'r dystiolaeth o'r adolygiadau hyn cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ystyried cynnal ymchwiliad i'r cynnig yn y ddeiseb unwaith i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ddod i law.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebwyr cyn trafod y camau nesaf i'w cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb.