Cyfarfodydd

SL(5)079 - Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017

NDM6280 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.34

NDM6280 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 27/03/2017 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

SL(5)079 - Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017

Cofnodion:

3.0a Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.