Cyfarfodydd
Adrioddiad Blynyddol ACARAC
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/06/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
ARAC (23-03) Papur 10
– papur blaen
ARAC (23-03) Papur 10
Adroddiad Blynyddol ARAC drafft
13.1 Gwahoddodd y
Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor i roi eu sylwadau ar Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgor i’r tîm clercio. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn eu barn am y
meysydd i dynnu sylw atynt pan gyflwynwyd yr adroddiad i’r Comisiwn ar 10
Gorffennaf, gan nodi y byddai hyn yn cynnwys cyfeirio at gynllunio
corfforaethol ac adnoddau.
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
ARAC (22-03) Papur 8 – papur blaen
ARAC (22-03) Papur 8 Adroddiad Blynyddol ARAC drafft
9.1 Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor i roi
sylwadau ar Adroddiad Blynyddol drafft ARAC. Diolchodd i Kathryn Hughes am
gyflwyno drafft mor gynhwysfawr.
9.2 Trafododd y Pwyllgor a chytunodd ar y meysydd a
awgrymwyd yn y papur i’w cynnwys yn adran edrych tua’r dyfodol yr adroddiad.
Roedd y rhain yn cynnwys Diwygio’r Senedd a fyddai’n amlwg yn cael ffocws amlwg
iawn gan y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn nesaf, a datgarboneiddio a fydd yn cael
ei drafod yng nghyfarfod mis Gorffennaf. Nododd y Cadeirydd hefyd bwysigrwydd
cynyddol Cynllun Cyflawni Corfforaethol y Comisiwn.
9.3 Gofynodd Ann Beynon am eglurhad fod cynnwys
cyfathrebu ac ymgysylltu fel maes ffocws yn y flwyddyn nesaf yn ymwneud â
strategaeth y Comisiwn ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd, yn enwedig gyda'r rhai
sydd wedi ymddieithrio neu’n anodd eu cyrraedd. Cytunodd Arwyn Jones i ddarparu
diweddariadau i’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn ar gynlluniau i fynd i’r afael â
hyn, gan gynnwys drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Byddai hefyd yn
adrodd ar y defnydd o offer monitro cyfryngau cymdeithasol newydd i fesur
ymgysylltiad yn well a fyddai’n sail i ddangosyddion perfformiad allweddol yn
Adroddiad Blynyddol 2022-23 y Comisiwn.
9.4 Cymeradwyodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol a
nododd y byddai’r Cadeirydd yn cyflwyno fersiwn ddwyieithog mewn cyfarfod o’r
Comisiwn ddydd Llun 11 Mehefin.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifo
Eitem lafar
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
18.1 Fe wnaeth y Cadeirydd wahodd aelodau o’r Pwyllgor i
awgrymu cynnwys ar gyfer adroddiad blynyddol y Pwyllgor. Soniodd am un maes yr
oedd am ganolbwyntio arno sef cadernid y ffyrdd yr oedd y Comisiwn yn dod allan
o’r pandemig.
Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
ARAC (03-21) Papur 7 – Adroddiad Blynyddol ARAC
10.1
Cyflwynodd y Cadeirydd
yr eitem hon drwy ddiolch i Kathryn Hughes am ei gwaith rhagorol wrth
ddrafftio'r adroddiad. Ei brif feysydd ffocws wrth gyflwyno i'r Comisiwn ym mis
Gorffennaf fyddai ymateb rhyfeddol y sefydliad i'r pandemig, yn enwedig
gwydnwch y rhai a oedd yn rhan ohono ac ymagwedd y Comisiwn tuag at
seiberddiogelwch.
10.2
Teimlai Ann y dylid
dathlu’r ffaith bod urddas a pharch wedi’u cynnwys yn y Cod Ymddygiad
diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Senedd, a nododd y gallai hyn gael ei gynnwys yn
adroddiad blynyddol Pwyllgor Cynghori'r Comisiwn ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu
a'r Gweithlu.
10.3
Cymeradwyodd y
Pwyllgor yr adroddiad i'w gyflwyno i'r Comisiwn a diolchodd i'r tîm clercio am
ddrafftio adroddiad mor gynhwysfawr ar weithgarwch.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)
Adroddiad blynyddol y Pwyllgor ar gyfer y Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu
Cofnodion:
Eitem lafar
19.1
Gofynnwyd i aelodau’r Pwyllgor wneud sylwadau ar gynnwys
adroddiad blynyddol y Pwyllgor, a chyfrannu at y cynnwys hwn, a fyddai’n cael
ei gyflwyno i’r Comisiwn newydd unwaith iddo gael ei benodi. Roedd copi o
adroddiad blynyddol y flwyddyn flaenorol wedi’i gynnwys yn y pecyn papurau ar
gyfer y cyfarfod hwn.
19.2
Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynnwys adolygiad o dymor
cyfan y Bumed Senedd i ddangos y gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw a’r ffordd y
mae’r Pwyllgor wedi esblygu. Cyfeiriodd Ann at bwysigrwydd dwyn sylw’r
Comisiynwyr newydd at rôl y Pwyllgor o ran herio’r drefn mewn ffordd adeiladol
a chytbwys. Ychwanegodd Suzy ei bod yn bwysig cyfleu diben yr adroddiad i’r
Comisiynwyr newydd, gan gyfeirio at gryfder cyffredinol y gweithdrefnau o ran
llywodraethu.
19.3
Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau’r Pwyllgor anfon unrhyw
sylwadau at y tîm Clercio erbyn 7 Mai.
Cam gweithredu: Sylwadau
ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor i gael eu hanfon at y tîm Clercio erbyn 7
Mai.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
8.1
Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg
o Adroddiad Blynyddol 2019-20 y Pwyllgor, a amlinellai waith y Pwyllgor mewn
perthynas â threfniadau llywodraethu, rheoli risg, rheolaeth fewnol a
fframwaith sicrwydd y Comisiwn.
8.2
Wrth ymateb i wahoddiadau i
wneud sylwadau, awgrymodd Ann y dylai'r adroddiad gyfeirio ymhellach at rai
ffactorau allanol fel y newid yn yr hinsawdd, y dirywiad economaidd a symudedd
cymdeithasol, gan ddangos y cysylltiadau ag amcanion y Comisiwn ar gyfer
amrywiaeth.
8.3
Cymeradwyodd y Pwyllgor yr
adroddiad, yn amodol ar welliannau a awgrymwyd. Byddai'r Cadeirydd yn ystyried
meysydd i dynnu sylw atynt wrth gyflwyno'r adroddiad i'r Comisiwn yn ei
gyfarfod ym mis Gorffennaf.
Camau Gweithredu
(8.2) Y
Cadeirydd i gael trafodaeth â’r tîm clercio am ychwanegiadau i'r Adroddiad
Blynyddol, er mwyn rhoi sylw i ffactorau allanol fel y newid yn yr hinsawdd, y
dirywiad economaidd a symudedd cymdeithasol (gan greu cysylltiad â’r amcanion
ar gyfer BAME).
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Cyflwyno Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn y Cynulliad
Cofnodion:
16.1 Byddai'r Cadeirydd yn rhoi adborth y tu allan
i'r Pwyllgor ynghylch cyflwyno Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn y
Cynulliad ym mis Gorffennaf 2019.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adroddiad blynyddol ACARAC
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Cyflwynodd Bob Evans
Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad i'r
Comisiynwyr. Tynnodd sylw at nifer o agweddau ar y gwaith y canolbwyntiodd y
Pwyllgor arno yn ystod y flwyddyn flaenorol, a nododd y casgliad bod trefniadau
llywodraethu'r Comisiwn yn rhai cryf, cadarn a dibynadwy.
Soniodd am gwblhau Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y
Comisiwn, gan roi sicrwydd ynglŷn â'i barodrwydd. Gan edrych ymlaen, soniodd fod y cyfnod i
ddod yn debygol o barhau i fod yn heriol, ac y byddai'n werthfawr cadw
hyblygrwydd ac ystwythder staff y Comisiwn.
Nododd y Pwyllgor
adroddiad blynyddol ACARAC.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Adroddiad Blynyddol ACARAC 2018-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
ACARAC (03-19) Papur 13 – Adroddiad Blynyddol ACARAC
12.1
Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol
ACARAC a ddosbarthwyd yn flaenorol ar gyfer sylwadau y tu allan i'r
pwyllgor. Cytunwyd y byddai unrhyw
sylwadau pellach yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, gan nodi y byddai'r
adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ar 15
Gorffennaf.
Camau i’w cymryd
·
Sylwadau i'w rhannu â'r tîm clercio, a fyddai
wedyn yn gweithio gyda'r Cadeirydd i gwblhau cyn 1 Gorffennaf, sef dyddiad
cau'r Comisiwn ar gyfer papurau.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Diweddariad gan y Cadeirydd ynghylch cyflwyno Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn y Cynulliad
Cofnodion:
Diweddariad ar lafar
14.1
Cadarnhaodd y Cadeirydd a Suzy fod y Comisiwn
wedi croesawu adroddiad blynyddol ACARAC ym mis Gorffennaf.
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Adroddiad blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad 2017-18
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
ACARAC (03-18) Papur 11
– Adroddiad Blynyddol ACARAC
10.1
Cymeradwywyd Adroddiad
Blynyddol ACARAC a byddai'r fersiwn derfynol yn cael ei chyflwyno i Gomisiwn y
Cynulliad i'w drafod yn ei gyfarfod ar 9 Gorffennaf.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 19)
Amlinelliad o Adroddiad Blynyddol ACARAC
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 33
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Papur 19 – Adroddiad Blynyddol ACARAC Drafft
19.1 Amlygodd y
Cadeirydd rai diweddariadau mân i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol yn well, gan
gynnwys GDPR. Cadarnhaodd Gareth nad oedd unrhyw faterion yn deillio o'r
adroddiadau Archwilio Mewnol. Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf
am y rhaglen Trawsnewid Digidol.
Camau i’w cymryd
Dave i ddarparu manylion am yr hyn a gyflwynwyd trwy Drawsnewid Digidol
ar gyfer Cynhwysiant yn Adroddiad Blynyddol ACARAC.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Cytuno ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 36
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 18 – Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd
Risg Comisiwn y Cynulliad
2016-17
17.1 Cytunwyd ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor heb unrhyw newidiadau
pellach. Byddai'r tîm clercio yn trefnu
iddo gael ei gyfieithu yn barod i gael ei gyflwyno gan y Cadeirydd yng
nghyfarfod Comisiwn y Cynulliad ym mis Gorffennaf.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Amlinelliad o adroddiad blynyddol ACARAC - Eitem lafar
Cofnodion:
Eitem
lafar
16.1
Byddai'r Cadeirydd yn rhannu adroddiad drafft
gyda'r aelodau er mwyn cael sylwadau arno ym mis Ebrill.
Cyfarfod: 06/02/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Trafod materion wrth baratoi ar gyfer adroddiad blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
ACARAC (01-17) Papur 12 - Adroddiad Blynyddol 2015-16
10.1 Anogodd y Cadeirydd yr aelodau i ystyried y meysydd yr hoffent i adroddiad
blynyddol y Pwyllgor roi sylw iddynt.
Byddai'r tîm clercio yn gweithio gydag ef i drafod gwahanol opsiynau ar
gyfer cyflwyno.
10.2 Byddai'r tîm clercio yn gwneud y newidiadau a awgrymwyd i'r Cylch Gorchwyl.
Camau i’w cymryd
-
Aelodau'r Pwyllgor i roi
syniadau i'r tîm clercio am feysydd i'w cynnwys yn Adroddiad Blynyddol ACARAC
ar gyfer 2016-17 a sut y gallai diwyg y ddogfen fod yn fwy atyniadol yn
gyffredinol.
-
Y tîm clercio i
ychwanegu Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth i'r Cylch
Gorchwyl o dan ofynion gwybodaeth.
Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn y Cynulliad ym mis Gorffennaf
Cofnodion:
Unrhyw fater arall
17.0
Y
wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn y
Cynulliad ym mis Gorffennaf
Eitem lafar
17.1
Roedd y Cadeirydd wedi mynd i gyfarfod y Comisiwn ym mis
Gorffennaf i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. Esboniodd Suzy eu bod yn
croesawu'r broses, er bod y Comisiynwyr wedi eu penodi yn ddiweddar iawn.
17.2
Byddai'r
tîm clercio yn paratoi crynodeb o'r ACARAC a gynhaliwyd ym mis Tachwedd er mwyn
i Suzy friffio'r Comisiwn.
Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Paratoi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 46
Cofnodion:
ACARAC (31) Papur 12 – Adroddiad Blynyddol
2014-15
9.1
Cafodd yr
adroddiad hwn ei dderbyn gan y Comisiwn yn 2015. Byddai’r Cadeirydd yn paratoi drafft, i
gynnwys canlyniadau’r arolwg effeithiolrwydd diweddar, a byddai'n ei ddosbarthu
er mwyn cael cyfraniadau, ac i'w gymeradwyo cyn y cyfarfod ym mis Ebrill. Oherwydd y newid yn aelodaeth y Comisiwn,
roedd Claire yn ansicr ynghylch pryd y byddai’n briodol i’r Cadeirydd
gyflwyno’r adroddiad blynyddol i Gomisiwn y Cynulliad.
Cam i’w
gymryd
-
Drafftio a
dosbarthu’r Adroddiad Blynyddol mewn pryd i gyflwyno adroddiad drafft yng
nghyfarfod ACARAC ym mis Ebrill.
Cyfarfod: 20/04/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Adroddiad blynyddol ACARAC 2014-15
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 49
Cofnodion:
ACARAC (27)
Papur 4 – Adroddiad Blynyddol ACARAC 2014-2015
13.1 Cymeradwyodd y
Pwyllgor yr adroddiad hwn, ond roedd yn aros am un newid a awgrymwyd gan
Swyddfa Archwilio Cymru.
13.2 Byddai’r tîm
Clercio’n trefnu i’r adroddiad gael ei frandio a’i gyfieithu erbyn cyfarfod Comisiwn
y Cynulliad ym mis Gorffennaf.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Trafod materion ar gyfer adroddiad blynyddol y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 52
Cofnodion:
ACARAC (26)
Papur 16 - Paratoi ar gyfer Adroddiad Blynyddol 2014-15 y Pwyllgor
14.1
Gofynnodd y Cadeirydd am gyfeiriadau at yr eitemau
canlynol yn yr adroddiad blynyddol: rheoli rhaglenni a phrosiectau a rhaglenni
newid allweddol; cynllunio capasiti; y fframwaith sicrwydd; rheoli risg;
datblygiadau archwilio mewnol; rolau estynedig aelodau'r Pwyllgor; arolwg
effeithiolrwydd; camau gweithredu a meysydd ffocws yn adroddiad 2013-14. Hefyd, gofynnodd i Swyddfa Archwilio Cymru
ystyried cynnwys elfennau o flaengynllunio.
Byddai drafft yn cael ei gylchredeg y tu allan i'r Pwyllgor a'i drafod
yn y cyfarfod ym mis Ebrill.
Camau gweithredu
-
Eric a'r tîm clercio i
ddrafftio a chylchredeg Adroddiad Blynyddol ACARAC y tu allan i'r Pwyllgor a
chyflwyno drafft ar gyfer ei gymeradwyo yng nghyfarfod mis Ebrill.