Cyfarfodydd
Unrhyw Fusnes Arall
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/11/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw fusnes arall
Cofnodion:
Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr
wedi gwneud un penderfyniad yn ymwneud â phenodi Cynghorwyr Annibynnol i'r
Comisiwn, gan gynnwys ar gyfer aelodaeth o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
(ARAC) a'r Pwyllgor Taliadau.
Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Diolchodd Comisiynydd
am yr holl waith a oedd wedi'i wneud i gyflawni'r trefniadau yn dilyn
marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines ac ymweliad y Brenin Charles III â'r Senedd.
Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Dim.
Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
·
Diogelu – soniodd
Joyce Watson am waith dilynol yn sgil trafodaethau’r Comisiwn yr hydref
diwethaf, gan gefnogi pwysigrwydd y camau a gymerir gan Aelodau (gan gynnwys
hyfforddiant) i roi sicrwydd priodol i’r cyhoedd o ystyried eu rôl. Cytunwyd y
byddai gwybodaeth gefndir yn cael ei darparu i'r Comisiynwyr.
·
Diwygio'r Senedd - rhoddodd y Llywydd wybod i’r Comisiynwyr y byddai
trafodaeth gynhwysfawr ar y materion perthnasol yn cael ei chynnwys ar yr
agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Comisiwn.
Materion eraill - cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at yr
ohebiaeth ynghylch y Jiwbilî a gofynnodd am y protocol o ran baneri.
Cyfarfod: 09/05/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Dim.
Cyfarfod: 14/03/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un penderfyniad ar gynigion i
osod plac coffa ar ystâd y Senedd.
Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw faterion eraill
Cyfarfod: 13/12/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
·
Hysbyswyd y
Comisiynwyr am ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus (i) adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y
Comisiwn. Roedd pedwar argymhelliad, a byddai ymateb yn cael ei ddarparu ar
gyfer cyfarfod nesaf y Comisiwn; a (ii) llythyr ychwanegol yn gofyn am
ystyriaeth y Comisiwn.
Cadarnhawyd i'r
Comisiynwyr fod yr ymgynghoriad ar gynigion i newidiadau i Reolau'r Swyddog
Cyfrifyddu yn fyw.
Ers y cyfarfod diwethaf, fe wnaeth y Comisiynwyr un
penderfyniad yn ymwneud ag ymestyn y contractau presennol a oedd ar waith ar
gyfer Cynghorwyr Annibynnol i'r Comisiwn.
Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
·
Diweddariad Covid -
presenoldeb ar yr ystâd
Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau y
gellir cynnal digwyddiadau mor ddiogel â phosibl, gyda lefelau presenoldeb pobl
yn gymesur â'r lefelau risg cyfredol.
Fe'u hysbyswyd am y
canlynol:
-
Trafod gohirio rhai
digwyddiadau
-
Annog digwyddiadau
hybrid i leihau nifer y bobl a fydd yn bresennol wyneb yn wyneb
-
Lleihau nifer y bobl
sy’n dod yn bersonol i'n rhaglen digwyddiadau (manylion isod)
-
Cynyddu’r lle ffisegol
sy'n cael ei ddefnyddio
-
Atgoffa trefnwyr o'r
gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb
-
Parhau i argymell i
drefnwyr y dylai’r rhai sy’n bresennol gymryd Profion Llif Unffordd
-
Prosesau asesu risg
trwyadl
·
Cynghorwyr Annibynnol
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran y trefniadau ar gyfer cynghorwyr
annibynnol y Comisiwn a benodwyd am gyfnod o dair blynedd. Tynnwyd sylw at
waith ar werthusiad o effeithiolrwydd a’r awydd i symud tuag at gylch mwy
graddol ar gyfer penodiadau. Yn unol â hynny, mae’r Comisiynwyr i gael
gwybodaeth bellach ar ôl y cyfarfod, ac fe'u gwahoddwyd i rannu unrhyw adborth
perthnasol.
·
Festival UK
Trafododd y Comisiynwyr y ffaith
bod trefnwyr yr ŵyl wedi mynegi diddordeb mewn defnyddio'r Senedd fel
lleoliad yn ystod toriad yr haf 2022.
Trafodwyd y risgiau
sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau a fyddai ar weithgareddau eraill o ganlyniad
i gymryd rhan yn yr ŵyl. Daeth y Comisiynwyr i'r casgliad bod y risgiau
hyn i’w gweld yn anghymesur ac felly nid oeddent yn teimlo y dylid mynd ar
drywydd y cyfle.
Cyfarfod: 27/09/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Caplaniaeth –
trafododd y Comisiynwyr nodyn a ddaeth i law gan gadeirydd y Grŵp
Trawsbleidiol ar Ffydd. Roedd Aelodau'r Comisiwn yn cydymdeimlo â'r pwynt a
wnaed, ond roeddent yn ymwybodol o faterion ymarferol ac nid oeddent yn dymuno
symud i drefniant ffurfiol heb ymgynghori'n fwy cynhwysfawr â'r Aelodau.
Diogelu – cytunodd y
Comisiynwyr i gael gwybodaeth sy’n rhoi amlinelliad o’r ystyriaethau.
Amodau Diogelwch a
Defnyddio TGCh – nododd y Llywydd ei bod wedi ysgrifennu at Aelodau am y
paramedrau ynghylch y system a'i bod yn bwriadu trafod hyn gyda'r grwpiau.
Cyfarfod: 12/07/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Rhwydwaith Gwresogi
Ardal Caerdydd – Cafodd y Comisiynwyr gyflwyniad byr i'r gwaith sy'n cael ei
wneud i alluogi dŵr poeth, a gynhyrchir o wres gwastraff o waith ynni-o-wastraff
Viridor yn y dociau, wedi'i bibellu o amgylch rhan isaf Caerdydd, i'w
ddefnyddio gan gwsmeriaid yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus i wresogi eu
hadeiladau. Byddai dogfen Cwestiynau Cyffredin yn cael ei darparu i Gomisiynwyr
yn dilyn y cyfarfod.
Adroddiad prisio
terfynol Cynllun Pensiwn yr Aelodau gan Actiwari'r Cynllun - Hysbyswyd y
Comisiynwyr bod y bwrdd pensiynau wedi cytuno ar y prisiad ac na nododd unrhyw
gynnydd yng nghyfradd cyfraniadau pensiwn y Comisiwn i Aelodau. Byddai’r adroddiad
yn cael ei ddosbarthu er gwybodaeth.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiwn
wedi cytuno ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ac Adroddiadau
Blynyddol yn ymwneud ag Amrywiaeth a Chynhwysiant, Ieithoedd Swyddogol a
Chynaliadwyedd, ymgynghorwyd ar y trefniadau sy'n ymwneud â'r Prif Gynghorydd
Cyfreithiol a chytunodd i gael gwared â’r ffensys dros dro o amgylch y Senedd.
Mae'r Comisiynwyr hefyd wedi cytuno ar benodiad i'r Bwrdd
Taliadau ac ymgynghorwyd ar newidiadau arfaethedig i Gynllun Pensiwn yr
Aelodau.
Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
· Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Bwrdd Taliadau yn
cadarnhau bod y Bwrdd bellach wedi ymgorffori darpariaeth gyfredol gan y Comisiwn
ar gyfer costau deunydd ysgrifennu / swmp-bostio / argraffu’r Aelodau yn y
Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd, ac y bydd darpariaeth uniongyrchol y
Comisiwn yn dod i ben ar yr un adeg yn unol â hynny.
· Gofynnwyd i'r Comisiynwyr lenwi eu ffurflenni Datgan
Buddiannau.
· Cytunodd y Comisiynwyr y gallai dwy eitem sydd i'w hanfon
i'r Pwyllgor Cyllid mewn ymateb i'w hargymhellion yn dilyn gwaith craffu ar y
gyllideb gael eu cymeradwyo gan Suzy Davies y tu allan i’r cyfarfod. Mae'r
materion yn ymwneud â diweddariad ar lesiant a diweddariad o oblygiadau
ariannol sy’n ymwneud â covid.
· Gan gyfeirio at ymholiad ynglŷn â dyrannu trwydded
TGCh a oedd yn bodoli eisoes i aelod o staff cymorth ar gyfer gweithgareddau a
ganiateir yn ystod cyfnod yr etholiad, eglurwyd, mewn amgylchiadau o absenoldeb
estynedig, y gellid cyfnewid yr unigolyn a enwyd am aelod arall o staff, ac y
dylid cysylltu â’r Ddesg Gymorth TGCh.
Diolchodd y Llywydd
i'r Comisiynwyr am y dull gwybodus a fabwysiadwyd ganddynt wrth gyflawni eu
rolau yn ystod y Bumed Senedd.
Cyfarfod: 08/02/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
·
Penderfyniadau ar
ddarpariaeth TGCh ar gyfer y chweched Senedd – Cytunodd y Comisiynwyr ar
gynigion ar gyfer darpariaeth TGCh i'r Aelodau, a ystyriwyd yn y cyfarfod
blaenorol ac a drafodwyd ymhellach yn y cyfamser.
Cyfrifiaduron Personol
Penderfyniad 1: Dylai gliniadur bellach fod yn gynnig safonol -
un i bob Aelod, ynghyd ag un yr un ar gyfer staff cymorth hyd at uchafswm o
6. Gellir prynu peiriannau ychwanegol
gan ddefnyddio arian Costau Swyddfa (byddai hyn yn cynnwys y gallu i ddefnyddio
peiriannau presennol sy'n parhau o fewn y disgwyliad oes â chymorth, ar gyfer
Aelodau sy'n dychwelyd).
Penderfyniad 2: Mae gan yr Aelodau opsiwn i gyfnewid un
gliniadur am gyfrifiadur bwrdd gwaith.
Penderfyniad 3: Holl staff swyddfeydd grwpiau i gael gliniadur.
Penderfyniad 4: Gall Aelodau gyfnewid eu gliniadur safonol am Microsoft Surface Pro, ond oherwydd
cost uwch y ddyfais hon, byddent yn ildio'r ddyfais llechen (iPad) o'u
dyraniad.
Monitorau cyfrifiaduron a gorsafoedd docio
Penderfyniad 5: Darperir monitor bwrdd gwaith a gorsaf ddocio (+ bysellfwrdd a llygoden)
gyda phob gliniadur ym mhrif fan gwaith yr unigolyn.
Penderfyniad 6: Dyrennir un monitor a gorsaf ddocio arall i Aelodau mewn ail leoliad (e.e.
gartref).
Dyfeisiau Apple
Penderfyniad 7: Mewn amgylchiadau eithriadol, gall Aelodau, neu eu staff cymorth, sy'n fwy
cyfarwydd â system weithredu Apple na Windows, ddewis un ddyfais Apple yn
hytrach na dyfais Windows (un i bob Aelod gan gynnwys eu staff). Mae
cymwysiadau’r Senedd a’r hyfforddiant sydd ar gael wedi'u cynllunio'n bennaf ar
gyfer Windows.
Meddalwedd
Penderfyniad 8: Dyrennir trwydded Office 365 bersonol i Aelodau, ynghyd â thrwydded ar
gyfer y blwch post a rennir ganddynt ("Swyddfa..."). Yn ogystal â
hyn, dyrennir hyd at chwe thrwydded arall iddynt ar gyfer pob un o'u staff
cymorth.
Penderfyniad 9: Adobe Creative Cloud, os oes angen, i bob Aelod (wedi'i ddyrannu i aelod o
staff cymorth).
Argraffwyr
Penderfyniad 10: Dyrennir dwy Ddyfais argraffu Amlddefnydd (argraffu, sganio a llungopïo)
ac un argraffydd laser unlliw i Aelodau.
Dyfeisiau llechen
Penderfyniad 11: Dyrennir un iPad Apple i Aelodau (oni bai bod yr Aelod wedi dewis dyfais
Microsoft Surface).
Ffonau symudol
Penderfyniad 12: Dyrennir ffôn symudol addas (Apple neu Android) i bob Aelod ynghyd â
chontract galwadau misol a fydd yn darparu ar gyfer galwadau a negeseuon testun
diderfyn yn y DU ac 16GB o ddata symudol y mis.
Band eang
Penderfyniad 13: Bod cysylltiad rhwydwaith addas yn cael ei ddarparu ar gyfer
Swyddfa/swyddfeydd Etholaethol yr Aelod (uchafswm o 2).
Penderfyniad 14: Ni ddarperir band eang i brif breswylfa Aelodau (ac eithrio mewn achosion
eithriadol). Bydd gan yr Aelodau sy'n dychwelyd ac sydd â band eang y Senedd
gartref ar hyn o bryd ddeufis yn dilyn yr etholiad i wneud trefniadau
newydd.
Caiff pob eithriad ei
asesu fesul achos. Gall yr amgylchiadau penodol sy'n cyfiawnhau darparu band
eang ym mhrif breswylfa'r Aelod gynnwys:
·
Nid yw band eang
confensiynol ar gael yn y lleoliad, sy'n golygu defnyddio technolegau gwahanol,
mwy costus,
· Mwy nag un aelod yn byw yn yr eiddo sy'n golygu bod angen mwy o gapasiti ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9
Cyfarfod: 07/12/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Dywedodd un
Comisiynydd fod y penderfyniadau a wnaed ym mis Mehefin ynghylch mynediad
cyn-Aelodau at adnoddau’r Comisiwn yn ystod y cyfnod pan fydd y Senedd yn cael
ei Diddymu wedi arwain at rai ymholiadau gan aelodau eu grŵp. Egwyddor
graidd y broses benderfynu honno oedd darparu ar gyfer etholiad rhydd a theg.
Yng ngoleuni'r
potensial ar gyfer newid y cyfnod Diddymu trwy ddeddfwriaeth frys arfaethedig y
Llywodraeth, nododd y Llywydd y gallai fod angen ailedrych ar y mater a gofyn
am adborth gan y Comisiynwyr.
Cyfarfod: 02/11/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
·
Materion ynghylch yr
etholiad Cafodd y Comisiynwyr eu briffio ar botensial
penderfyniadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion deddfwriaethol neu
newidiadau eraill mewn perthynas ag etholiad Senedd 2021, ar ôl ystyried
adroddiad o’u grŵp etholiadau.
· Agwedd at y gwersi a ddysgwyd Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnig i ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd ynghylch
darnau/agweddau allweddol mwyaf arwyddocaol ar waith y Comisiwn yn ystod y
Pumed Senedd, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaeth nesaf y Comisiwn. Bydd
hyn yn disodli’r gwaith o greu ‘adroddiad etifeddiaeth’ mwy traddodiadol, er
mwyn osgoi bod gwybodaeth ddyblyg yn cael ei chasglu a’i chyhoeddi bob blwyddyn
yn yr adroddiad blynyddol.
Dilyniant i Gwestiwn
Llafar ar Gefnogi staff y Comisiwn sy’n gweithio gartref yn ystod y pandemig Derbyniodd y Comisiynwyr ddiweddariad byr yn ymateb i
bwyntiau a nodwyd a gwybodaeth am ganlyniadau arolwg Parhad Busnes y Comisiwn.
Roeddent yn croesawu’r gwaith helaeth a wnaed ac yn cydnabod y gallai barn ac
anghenion gweithwyr fod yn wahanol dros gyfnod y gaeaf o gymharu â’u profiad yn
ystod y gwanwyn a’r haf. Roeddent hefyd yn cydnabod arwyddocâd cyfrifoldebau
Aelodau eu hunain fel cyflogwyr, er enghraifft wrth sicrhau bod eu staff
cymorth yn cymryd gwyliau blynyddol.
Cyfarfod: 28/09/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
· Hwyluso datganiad trawsbleidiol – Cytunodd y Comisiynwyr i ymgynghori â'r Grŵp Trawsbleidiol
ar Gydraddoldeb Hiliol o ran hwyluso datblygu datganiad Cymraeg trawsbleidiol,
gan ymgorffori egwyddorion y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o
Wahaniaethu ar sail Hil, yn unol â chais y Senedd.
· Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Nododd y Comisiynwyr lythyr a gafodd y Prif Weithredwr
gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn dilyn sesiwn dystiolaeth y pwyllgor ar 21
Medi.
Ers y cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un
penderfyniad brys yn ymwneud ag ymestyn y cyfnod ar gyfer canslo gweithgareddau
ymgysylltu cyhoeddus wyneb yn wyneb.
Cyfarfod: 13/07/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
·
Ymddiriedolwyr Cynllun
Pensiwn yr Aelodau
O dan reolau Aelodau
Cynllun Pensiwn Aelodau’r Senedd a Chylch Gorchwyl y Bwrdd Pensiwn, mae'r swyddog
Cyfrifyddu, mewn ymgynghoriad â'r Comisiynwyr, yn gyfrifol am nodi pwy ddylai
sefyll fel cynrychiolwyr y Comisiwn ar y Bwrdd Pensiwn. Disgwylir i dymor
pedair blynedd Nia Morgan fel Ymddiriedolwr ddod i ben ar 4 Awst 2020. Mae Cylch Gorchwyl y Bwrdd yn caniatáu i'r
Ymddiriedolwyr presennol barhau am bedair blynedd arall i helpu i gadw profiad
ar y Bwrdd. Roedd y Comisiynwyr yn gefnogol i gynnig y Swyddog Cyfrifyddu y
dylai Nia barhau fel Ymddiriedolwr am bedair blynedd arall.
Ers y cyfarfod
diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un penderfyniad brys yn ymwneud ag
ymestyn y cyfnod ar gyfer canslo gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus wyneb yn
wyneb.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Ers y cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un
penderfyniad brys yn ymwneud ag ymestyn y cyfnod ar gyfer canslo gweithgareddau
ymgysylltu cyhoeddus wyneb yn wyneb.
Cyfarfod: 04/05/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Ystyriodd y
Comisiynwyr amseriad cyfarfodydd yn y dyfodol os bydd patrwm cyfarfodydd y
Pwyllgor Busnes yn parhau.
Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi gwneud tri phenderfyniad brys.
Roedd y rhain yn
ymwneud â darlledu’r cyfarfod llawn a chyfarfodydd phwyllgorau ac ymestyn y
cyfnod pan na fydd gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd yn cael eu cynnal.
Cafwyd briffio
ychwanegol hefyd i egluro'r adnodd ychwanegol, er mwyn cefnogi’r flaenoriaeth
strategol o ymgysylltu.
Cyfarfod: 16/03/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Hysbyswyd y
Comisiynwyr fod y contract glanhau wedi'i ddyfarnu yn dilyn ymarfer caffael.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
·
Mynd â busnes y Cynulliad i leoliad y tu allan i Gaerdydd
Mewn trafodaethau â grwpiau ac
arweinwyr plaid, roedd yr adborth, yn gyffredinol, wedi bod yn gefnogol i
wythnos gywasgedig o fusnes y Cynulliad, i'w gynnal yng Ngogledd-ddwyrain
Cymru.
Cytunodd y Comisiwn, drwy
fwyafrif, y dylai gwaith i gyflawni'r fenter fynd yn ei flaen yn awr, a
chytunodd i gyllideb ddangosol o hyd at £250k.
·
Llythyr gan dri Aelod
Cytunodd y Comisiynwyr i gadw’r polisi cofebion yn ei ffurf bresennol.
·
Digwyddiadau ar yr ystâd
Trafododd y Comisiynwyr faterion yn ymwneud â digwyddiadau sy'n cynnwys
dadl wleidyddol, a'r ffiniau o ran yr hyn sy'n ddefnydd priodol o'r ystâd, a
gofynnwyd am bapur ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
Yn y cyfnod ers y
cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno i gais gan y BBC i gynnal
dadl etholiad ar yr ystâd. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfod briffio gyda'r
Comisiynwyr a'r Llywydd ar 11 Tachwedd mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer
cael Comisiynydd Safonau dros dro.
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
·
Dywedodd y Llywydd
wrth y Comisiynwyr y byddent yn cael gwybodaeth, maes o law, am adroddiad y
Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
·
Cafodd y Comisiynwyr
wybod bod apêl a gynhaliwyd yn ddiweddar mewn perthynas â thribiwnlys
cyflogaeth wedi’i wrthod.
Byddai dyddiad y
cyfarfod nesaf yn cael ei gadarnhau.
Cyfarfod: 23/09/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Rhoddwyd gwybod i’r
Comisiynwyr am hysbysiad cynllunio a ddaeth i law yn ymwneud â datblygu llinell
sip arfaethedig dros dro ym Mae Caerdydd.
Yn y cyfnod ers y
cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar yr Adroddiad
Amgylcheddol Blynyddol.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
·
Penodiadau – wedi
ymgynghori â hwy ym mis Ebrill, cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am
y broses i benodi ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu.
·
Cyfeiriodd Joyce Watson
at yr ohebiaeth a gafodd gan David Emery. Nododd y Comisiynwyr eu bod yn fodlon
i'r trefniadau cyfredol aros yn ddigyfnewid.
Yn y
cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, cytunodd y Comisiynwyr ar newidiadau i'r Cod
Ymddygiad i Ymwelwyr.
Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
·
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am achos Tribiwnlys Cyflogaeth sy’n mynd rhagddo.
·
Nododd y Comisiynwyr
lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas ag ystyriaeth y Pwyllgor
o gynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar ymatebion i’r Pwyllgor
Cyllid mewn perthynas â chraffu ar ôl deddfu ac Ariannu cyrff a ariennir yn
uniongyrchol, i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas ag argymhellion o
ran craffu ar y Gyllideb ac i Ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau ar y Penderfyniad
(ynghyd ag egwyddorion cysylltiedig ar gyfer teithio gan y Comisiwn).
Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
·
Bwriad i recriwtio
Cyfarwyddwr
Er mwyn cyflawni gofyniad
Dirprwyaeth y Comisiwn, ymgynghorodd Manon â'r Comisiwn ynghylch ei bwriad i benodi
Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, a hynny er mwyn llenwi'r swydd wag a fydd
yn codi maes o law. Nododd hefyd y byddai trefniadau dros dro yn cael eu gwneud
i ddarparu'r math o gymorth a ddarperir ar hyn o bryd gan y Prif Gynghorydd
Cyfreithiol, sy'n ymadael, gan ychwanegu y byddai'r gydnabyddiaeth ariannol a'r
telerau ac amodau o dan y trefniant dros dro yn wahanol i'r trefniadau ar gyfer
deiliad presennol y swydd.
·
Sgam ffôn
Clywodd y Comisiynwyr am
sgâm dros y ffôn sy'n defnyddio rhai o rifau ffôn y Cynulliad. Gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â'u rheolwr
Cyfrif TGCh os ydynt yn cael galwadau ymwneud â’r sgâm.
·
Llythyr gan Gadeirydd y
Pwyllgor Cyllid
Roedd y
Pwyllgor Cyllid wedi ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn iddo roi tystiolaeth
ysgrifenedig ar gyfer ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2013.
Cytunodd y Comisiynwyr
i'r Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros Gyllideb a Llywodraethu ymateb ar eu
rhan.
Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Y Pwyllgor Deisebau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wahodd UKIP i
lenwi'r swydd wag ar y Pwyllgor Deisebau. Dywedodd Neil Hamilton fod angen i
Grŵp UKIP gael trafodaeth gyffredinol am ddyranniad eu lleoedd ar
pwyllgorau, cyn enwebu aelod i lenwi'r lle gwag ar y Pwyllgor Deisebau.
Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig
i ethol Janet Finch-Saunders yn aelod o'r
Pwyllgor Craffu Waith y Prif Weinidog yn lle David Rowlands. Bydd y
cynnig yn cael ei ychwanegu at agenda Cyfarfod Llawn yfory.
Agenda'r Wythnos Nesaf
Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr
Busnes y bydd papurau ar Goladu Canllawiau ac ar Reolau Sefydlog ar gyfer
Biliau Cydgrynhoi ar yr agenda ar gyfer yr wythnos nesaf.
Cyfarfod: 04/03/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw Fater Arall
·
Llythyr gan Joyce Watson
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
·
Isafswm cyflog - soniodd
Joyce Watson am y setliad cyflog a gafodd staff y Comisiwn yn ddiweddar, gan ei
groesawu fel cytundeb cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yn teimlo y dylai isafswm
cyflog staff sy'n gweithio yma dan gontract gyfateb i’n hisafswm cyflog ni.
Roedd y comisiynwyr yn gefnogol o ran egwyddor a gofynnwyd am ragor o wybodaeth
er mwyn medru penderfynu ar y mater mewn cyfarfod arall.
·
Tribiwnlys - Cafodd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am Dribiwnlys Cyflogaeth a oedd yn mynd
rhagddo.
Yn ystod y cyfnod ers y
cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cwblhau eu Polisi ar gyfer darparu
henebion, cofebion a phlaciau, a chytunwyd ar Ymatebion i argymhellion y
Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Cwestiynau'r
Llefarwyr
Gofynnodd
y Llywydd i Reolwyr Busnes sicrhau bod eu haelodau, lle y bo'n rhesymol
ymarferol, yn ei hysbysu drwy'r blwch post Ceisiadau Cyfarfod Llawn pan fyddant
yn bwriadu cyfeirio cwestiynau eu llefarwyr at Ddirprwy Weinidog, a'u bod yn
parhau i hysbysu'r Llywodraeth hefyd.
Sŵn
yn y Siambr
Yn dilyn
achosion o sŵn yn y Siambr yr wythnos diwethaf, atgoffodd y Llywydd y
Rheolwyr Busnes na ddylai Aelodau adael eu dyfeisiau yn y Siambr heb eu
goruchwylio.
Dyraniad
Cadeiryddion Pwyllgorau rhwng grwpiau
Dywedodd Darren Millar y byddai'r Ceidwadwyr
Cymreig yn awyddus i ddychwelyd at gynigion blaenorol y Pwyllgor Busnes i
ail-ddyrannu Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau o Grŵp UKIP i'r Ceidwadwyr
Cymreig, ond nad oedd y Grŵp mewn sefyllfa i wneud enwebiad ar hyn o bryd.
Dywedodd y
Llywydd y bydd angen i'r pwyllgor ddychwelyd at y penderfyniadau blaenorol a
wnaeth y Pwyllgor Busnes ynglŷn â dyrannu Cadeiryddion pwyllgorau, unwaith
y bydd y Ceidwadwyr Cymreig mewn sefyllfa i enwebu.
Nododd
Rhun ap Iorwerth y byddai'n fodlon cefnogi cynnig o'r fath. Dywedodd Neil
Hamilton mai ei farn oedd bod gan Grŵp UKIP, ar sail y cydbwysedd
presennol rhwng y pleidiau, yr hawl i un Cadeirydd pwyllgor.
Nododd y
Llywydd nad oedd safbwyntiau'r Rheolwyr Busnes wedi newid ers y tro diwethaf y
cafodd y mater ei ystyried, ac eithrio Darren Millar, a ddywedodd y byddai ei
Grŵp, bellach, yn derbyn ail-ddyrannu Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mewn
ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Llywydd y byddai unrhyw gynnig i ailddyrannu
Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn, yn agored i'w
drafod.
Cynigion
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Rhoddodd y
Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Rheolwyr Busnes, mewn perthynas â dau Fil
Brexit. Oherwydd amserlenni Seneddol a thrafodaethau parhaus â Llywodraeth y
DU, mae gosod y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol hyn wedi cael ei
ohirio a byddai'n arwain at gyfyngu ar yr amser i graffu mewn pwyllgor.
Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Gwnaed y Comisiynwyr yn ymwybodol fod argymhellion wedi'u
gwneud gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor
Safonau iddynt eu hystyried - ac y byddai ymatebion drafft yn cael eu dosbarthu
iddynt eu hystyried cyn bo hir.
Yn y
cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cefnogi cynnig i
enwebu Bob Evans fel un o gynrychiolwyr y Comisiwn Pensiynau ACau, a phenodiad Cyfarwyddwr Newydd Busnes y Cynulliad.
Cyfarfod: 05/11/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
·
Swyddfa'r Comisiynydd
Safonau - diweddarwyd y Comisiynwyr ynghylch y newidiadau a wnaed i wella'r
strwythur staffio sy'n cefnogi'r Comisiynydd Safonau. Roedd hyn yn sgil y swm
cynyddol o waith mewn perthynas ag ymholiadau i swyddfa'r Comisiynydd Safonau
dros y flwyddyn hon, ac mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor
Safonau Ymddygiad.
Yn y
cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno i benodi
cynghorwyr annibynnol i'r Comisiwn, yn dilyn proses recriwtio agored a
thryloyw.
Cyfarfod: 24/09/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw fater arall
Cyfarfod: 09/07/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Swyddfa Brwsel -
Nododd y Comisiynwyr fod Llywodraeth Cymru yn fodlon parhau â'r trefniant
presennol ar gyfer Swyddfa'r Comisiwn ym Mrwsel, a ddarperir gan Lywodraeth
Cymru yng Nghanolfan Cymru, Brwsel, ar yr un telerau tan ddiwedd mis Rhagfyr
2020.
Sesiynau
ymwybyddiaeth seiber gan yr Aelodau a Staff Cymorth yr Aelodau - Nodwyd bod y
nifer sy'n manteisio ar sesiynau briffio ymwybyddiaeth seiber yn gymysg,
gofynnwyd i'r Comisiynwyr danlinellu ei bwysigrwydd gyda'u grwpiau.
Bwrdd Pensiynau -
Cytunodd y Comisiynwyr y gellid ymgymryd â threfniadau ar gyfer cynrychiolydd y
Comisiwn ar y Bwrdd Pensiynau y tu allan i'r cyfarfod os oes angen.
Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw fater arall
Cyfarfod: 30/04/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cyfarfod: 19/03/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
·
Caffael y Comisiwn
Cofnodion:
·
Caffael
y Comisiwn - Bu’r Comisiynwyr yn trafod caffael gan gyflenwyr o Gymru a
chytunodd i gyflwyno Dangosydd Perfformiad Allweddol penodol ar gaffael gan
gyflenwyr o Gymru. Cytunwyd hefyd i ystyried y mater mewn cyfarfod yn y
dyfodol, a gofynnwyd am bapur ar y trefniadau caffael presennol o ran cyflenwyr
o Gymru, a pha opsiynau sydd ar gael i wella perfformiad.
·
Chwythu’r
Chwiban - Gofynnodd Joyce Watson a allai’r Comisiwn wneud rhywfaint o waith codi
ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau chwythu’r chwiban. Cytunodd y Comisiwn
y byddai’n briodol ei gynnwys yn y pecyn gwaith a wneir yn ystod ein hwythnos
cydraddoldeb, sy’n debygol o fod ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf.
·
Ymweliad
â’r Senedd Fflemig - Cytunodd y Comisiwn i dderbyn y gwahoddiad gan y Llefarydd
Jan Peumans, i ymweld â’r Senedd Fflemig ym mis Mehefin 2018, yn amodol ar fod
cynrychiolwyr ar gael.
·
Mynediad
i goridor llawr gwaelod Tŷ Hywel - Nodwyd cwynion gan yr
Aelodau ynghylch y cyfyngiadau ar y mynediad i goridor bloc B ar y llawr
gwaelod. Roedd y rhain wedi eu rhoi yn wreiddiol mewn ymateb i bryderon
ynghylch diogelwch a tharfu ar gyfarfodydd pwyllgor. Trafododd y Comisiynwyr y
mater, a daeth i’r casgliad y dylid codi’r cyfyngiadau fel bod y coridor yn
agored i’w ddefnyddio, ac y a dylid atgoffa defnyddwyr i fod yn dawel er mwyn
osgoi tarfu ar gyfarfodydd.
Roedd
Joyce Watson am gofnodi ei diolch i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad ‘I am
Embolden’, a oedd yn dathlu llwyddiannau menywod byddar ac anabl yng Nghymru.
Cyfarfod: 26/02/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Unrhyw fater arall
Wedi'i nodi ar
hyn o bryd:
·
Adolygiad Capasiti - cynlluniau o ran cyfathrebu, a rhagair
·
Cynghorwyr Annibynnol y Comisiwn [nodi cychwynnol]
·
Strategaeth y Comisiwn 2020/21 – diwrnod cwrdd i
ffwrdd [y posibilrwydd o gynnal diwrnod o’r fath]
Cofnodion:
Adolygiad Capasiti - Cytunodd y Comisiynwyr
ar ragair eu hadroddiad.
Cynnig ynghylch Dippy - Cytunodd y Comisiwn i
ffurfioli’r cynnig i drosglwyddo arddangosfa Dippy i safle Parc Cathays yr Amgueddfa
Genedlaethol, yn dilyn trafodaethau ag Amgueddfa Bud Natur a chyfarwyddwr
cyffredinol Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Ystyriwyd y materion canlynol, a’u cytuno,
drwy ohebiaeth yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn:
•
Adroddiad terfynol yr
adolygiad capasiti
•
Cytundeb dangosol
ynghylch cyfeiriad y polisi Urddas a Pharch
Cyfarfod: 22/01/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cyfarfod: 04/12/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cyfarfod: 06/11/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cyfarfod: 25/09/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw fater arall
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 83
- Cyfyngedig 84
Cyfarfod: 17/07/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Rhaglen
ddiwygio'r Cynulliad
Rhoddodd
y Llywydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr ar waith y Panel Arbenigol.
Dywedodd wrthynt y bydd y panel yn dechrau dod i gasgliadau ar y tri phwnc dan
sylw sef, a ddylid gostwng yr oed pleidleisio, a ddylid cynyddu nifer Aelodau'r
Cynulliad a ph'un a ddylid newid y system bleidleisio. Bydd adroddiad gan y
Panel yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn yn ddiweddarach eleni.
Cynllun
Pensiwn Aelodau’r Cynulliad
Rhoddodd
Joyce Watson ddiweddariad byr ac atgoffodd y Comisiynwyr eu bod wedi cael papur
ar gynllun pensiwn yr Aelodau yn gofyn iddynt am eu sylwadau.
Senedd
Ieuenctid
Dywedodd
y Llywydd wrth y Comisiynwyr bod yr ymgynghoriad ar Senedd Ieuenctid wedi cau
bellach, a bod dros 5,000 o ymatebion wedi dod i law o bob rhan o Gymru. Nododd
fod y data yn cael ei ddadansoddi a bydd papur yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn
ar 25 Medi.
Plac
porffor
Dywedodd
y Llywydd wrth y Comisiynwyr ei bod wedi cael cais gan y grŵp trawsbleidiol sy'n ymgyrchu i nodi cyfraniad menywod
ledled Cymru i godi plac ar yr ystâd i
gofio am Val Feld. Cytunodd y
Comisiynwyr mewn egwyddor i'r cais, yn amodol ar drefniadau priodol a lleoliad
addas yn cael ei nodi.
Y Cynllun
Ieithoedd Swyddogol
Nododd
y Comisiynwyr ymholiadau yn ymwneud â sylw yn y cyfryngau am amryw agweddau ar
y cynllun ieithoedd swyddogol yn yr wythnos flaenorol, gan gynnwys siom
ynghylch y ffordd y cafodd sylw yn y cyfryngau a'r canfyddiadau anghywir a
allai achosi.
Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cynhaliwyd ymarfer recriwtio agored i lenwi swydd wag ar y Bwrdd Taliadau.
Trafododd y Comisiwn yr argymhelliad a chytunodd ar benodi’r ymgeisydd a
ffafrir gan y Panel Dethol.
Cyfarfod: 15/05/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Gofynnodd
y Comisiynwyr am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â diogelwch ar ystâd y Cynulliad.
Cyfarfod: 05/04/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Dim, hyd
y gwyddys.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Dim, hyd
y gwyddys.
Cyfarfod: 27/02/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Rhoddodd
y Llywydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am waith yn ymwneud â Senedd
Ieuenctid a'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol.
Cyfarfod: 26/01/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Crybwyllodd Adam Price yr arolwg yn y dyfodol agos ar gyfer Aelodau / staff
cymorth yr Aelodau.
Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Llyfr
coffa Aberfan
Dywedodd y Llywydd ei bod wedi teithio i Gastell
Cyfarthfa ym Merthyr i ymweld â'r arddangosfa sydd ar hyn o bryd yn cynnwys
Llyfr Coffa Aberfan. Llyfr caligraffig
ydyw sy'n nodi enwau'r rhai a fu farw yn nhrychineb Aberfan. Y Cynulliad yw
ceidwad presennol y Llyfr ond mae wedi ei fenthyca i'r arddangosfa; cafodd y llyfr
ei arddangos yn y Pierhead cyn hynny.
Cytunodd
y Comisiwn i ddychwelyd y Llyfr yn ffurfiol i Elusen Goffa Aberfan ac y dylid
ei arddangos yn llyfrgell gymunedol Aberfan.
Y pynciau
a gaiff sylw yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn fydd y strategaeth ymgysylltu â'r
cyhoedd a'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd.
Cyfarfod: 03/11/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr rai materion amserol.
Cyfarfod: 19/09/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Nododd y
Llywydd fod y polisi ar werthu alcohol ar yr Ystâd wedi'i godi gyda hi. Teimlai
Comisiynwyr nad yw yfed alcohol tra'n gweithio yn briodol, a gallai greu
risgiau i unigolion. Cytunwyd felly yn unfrydol y dylai'r polisi presennol gael
ei gadw.
Cyfarfod: 11/07/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw fater arall
Cyfarfod: 30/06/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw fater arall
Cyfarfod: 16/06/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Ni chodwyd unrhyw fater arall.
Cyfarfod: 17/03/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cyfarfod: 02/12/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Ni chodwyd unrhyw fater arall.
Cyfarfod: 11/11/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Diolchodd y Comisiynwyr i'r Dirprwy Lywydd am y gwaith roedd wedi'i wneud
ar gyllideb y Comisiwn.
Trafodwyd a chytunwyd ar y materion a ganlyn, drwy
ohebiaeth, yn ystod y cyfnod cyn y cyfarfod hwn:
·
Cynigion i osod system teledu cylch cyfyng newydd ar
Ystâd y Cynulliad. Ystyriwyd hyn yn y cyfarfod ar 17 Medi ac roedd y Comisiwn
wedi cael rhagor o wybodaeth i ganiatáu iddynt ddod i gasgliad terfynol.
Cyfarfod: 21/10/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw fater arall
Papur i'w nodi: Diweddariad ar Newid Cyfansoddiadol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 119
Cofnodion:
Dywedodd
y Llywydd ei bod wedi cael sylwadau’n holi am ymgynghoriad arfaethedig ynghylch
sefydlu senedd ieuenctid. O gofio'r
ymateb cadarnhaol a gafwyd i’r rhaglen ymgysylltu â phobl ifanc, byddai’n rhaid
i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol gyd-fynd â’r rhaglen honno ac adeiladu ar y
gwaith rhagorol a wnaed yn y cyswllt hwnnw.
Cyfarfod: 17/09/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cafodd y materion canlynol eu hystyried, a chytunwyd arnynt, trwy ohebiaeth
yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn:
- Adroddiad
y Comisiwn i Aelodau ar gyfer 2014-15.
Cyfarfod: 09/07/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Trafodwyd a
chytunwyd y materion canlynol drwy ohebiaeth yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn:
• Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2014-15
• Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol
2014-15
• Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r
Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2014-15.
Hwn oedd
cyfarfod olaf y Comisiwn cyn toriad yr haf. Bydd y cyfarfod nesaf ar 17 Medi
pryd y bydd y Comisiynwyr yn ystyried dogfen gyllideb wedi’i diweddaru.
Cyfarfod: 25/06/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cododd y Comisiynwyr bryderon am ddau fater a oedd yn ymwneud â rheoli
cyfleusterau.
Bydd y Comisiwn yn cyfarfod nesaf ddydd Iau 9 Gorffennaf. Bydd y cyfarfod
yn canolbwyntio ar berfformiad a bydd y Comisiynwyr yn trafod y gyllideb
ddrafft ar gyfer 2016/17.
Cyfarfod: 11/06/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw fater arall
Cyfarfod: 21/05/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Bydd cyfarfod nesaf y Comisiwn ddydd Iau, 11 Mehefin 2015, pan fydd y
Comisiynwyr yn trafod papur ar benodi olynydd i Brif Weithredwr a Chlerc y
Cynulliad.
Cyfarfod: 23/04/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Adroddodd David Melding yn ôl i'r Comisiwn ar yr ymweliad diweddar â Bosnia
Herzegovina, a oedd yn nodi 20 mlynedd ers y digwyddiadau yn Srebrenica.
Dywedodd y cynhelir digwyddiad yn y Senedd ar 8 Gorffennaf.
Nododd y Llywydd fod digwyddiadau wythnos y Cynulliad yn Wrecsam wedi bod
yn llwyddiannus.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 21 Mai, pan fydd y Comisiynwyr yn
cynnal un o'u cyfarfodydd rheolaidd i ganolbwyntio ar berfformiad.
Cyfarfod: 05/03/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Diolchodd y
Llywydd i’r Comisiynwyr a staff y Comisiwn am y gwaith a wnaed yn y cyfnod cyn
datganiad yr Ysgrifennydd Gwladol a oedd yn cyhoeddi cytundeb Dydd Gŵyl
Dewi ar ddyfodol datganoli yng Nghymru. Nododd fod y cyflwyniadau manwl a
gyflwynwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol, ac adroddiad y Comisiwn ar gapasiti, wedi
gwneud gwahaniaeth go iawn.
Hefyd,
dywedodd y Llywydd wrth y Comisiynwyr, gan fod Angela Burns yn wynebu
absenoldeb estynedig, y byddai David Melding yn ymgymryd â’i chyfrifoldebau fel
Comisiynydd tra’i bod yn absennol.
Tynnodd
Claire Clancy sylw at ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau, a fyddai’n cael ei
gyhoeddi y diwrnod canlynol, a dywedodd wrth y Comisiynwyr fod y Pwyllgor
Cyllid wedi adrodd ar y gyllideb atodol.
Bydd y
Comisiwn yn cyfarfod nesaf ddydd Iau 23 Ebrill 2015, pan fydd y Comisiynwyr yn
ystyried y Strategaeth Gyllideb ar gyfer 2016-17 ac yn cael briff diogelwch
llawn.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Dim.
Cynhelir cyfarfod nesaf
y Coimsiwn ddydd Iau, 5 Mawrth 2015, pan fydd y Comisiynwyr yn canolbwyntio ar
y paratoadau ar gyfer y Pumed Cynulliad.
Cyfarfod: 29/01/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Bydd y
Comisiwn yn cyfarfod nesaf ar 9 Chwefror, pan fydd y drafodaeth yn canolbwyntio
ar ymgysylltu â phobl Cymru, a bydd y Comisiynwyr yn trafod materion diogelwch
unwaith eto.
Cyfarfod: 15/01/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw fusnes arall
Cofnodion:
Rhoddodd y Comisiwn ei gymeradwyaeth ffurfiol i
benodiadau’r ymgeiswyr llwyddiannus yn y ddwy gystadleuaeth recriwtio ar gyfer
swyddi Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad a’r Cyfarwyddwr Cyllid.
Bydd y cyfarfod nesaf ddydd Iau 29 Ionawr yn un o’r
cyfarfodydd rheolaidd sy’n canolbwyntio ar Berfformiad. Bydd y Comisiwn yn ystyried Adroddiad
Perfformiad Corfforaethol Ebrill-Rhagfyr 2014, yr Adroddiad Blynyddol ar ein
Strategaeth Reoli Carbon a’r Adroddiad Uchafbwyntiau diweddaraf.
Cyfarfod: 04/12/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 17/11/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 3
Rhagfyr.
Bydd yr eitemau ar yr agenda yn
cynnwys trafodaeth ar faterion Ewropeaidd gyda Gregg Jones, a diweddariadau gan
y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg ac ar y newidiadau TGCh a gafwyd yn y
Siambr.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Tachwedd 2014
Cyfarfod: 03/11/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir y
cyfarfod nesaf ar 17 Tachwedd.
Bydd yr eitemau
ar yr agenda yn cynnwys y newyddion diweddaraf am gyfieithu peirianyddol,
Cofnod y Trafodion a’r adolygiad o’r cymorth i bwyllgorau. Bydd y Comisiwn
hefyd yn ystyried goblygiadau cyfansoddiadol Silk 1 a 2.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Tachwedd 2014
Cyfarfod: 29/09/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 3
Tachwedd.
Bydd eitemau ar yr agenda yn
cynnwys cytuno ar gyllideb derfynol y Comisiwn, gan ystyried adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb. Bydd Comisiynwyr hefyd yn cynnal trafodaethau
gyda’r Bwrdd Taliadau.
Dywedodd y Llywydd wrth y
Comisiynwyr fod Dadl Fer wedi’i chyflwyno a oedd yn fater i’r Comisiwn, ac y
byddai’n ymateb i’r ddadl ddydd Mercher 1 Hydref.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Medi 2014
Cyfarfod: 17/09/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 29
Medi. Bydd y Comisiynwyr yn canolbwyntio ar faterion perfformiad, pan fyddant
yn trafod yr adroddiad Perfformiad Corfforaethol
am y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, a chanlyniadau’r Arolwg Aelodau a’u
staff cymorth.
Bydd Peter Black yn ymddangos
gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ar 23 Medi i roi tystiolaeth
ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Medi
2014
Cyfarfod: 07/07/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cynhelir y
cyfarfod nesaf ym mis Medi. Byddai'r Comisiynwyr yn trafod cyllideb ddrafft
2015-16 cyn iddi gael ei chyflwyno gerbron y Cynulliad.
Byddai Rhodri
Glyn Thomas a Peter Black yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ar
16 Gorffennaf i roi tystiolaeth am berfformiad y Comisiwn ym maes gwasanaethau
TCGh a dwyieithrwydd.
Caiff
Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
2013-14 ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Gorffennaf.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Gorffennaf 2014
Cyfarfod: 26/06/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 18/06/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Diwygio polisi - ar lafar
Cofnodion:
Adolygodd y Comisiynwyr Bolisi Cadw Cofnodion y Comisiwn a
chytunwyd i ymdrin ag amgylchiadau pan fo effaith y cydymffurfiad â'r Polisi yn
afresymol ac yn anghymesur.
Yr
Ysgrifenyddiaeth
Mehefin 2014
Cyfarfod: 08/05/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Roedd y Llywydd wedi cynnal cyfarfod tairochrog â’r
swyddogion cyfatebol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a Thŷ’r Cyffredin.
Rhoddodd Dave Tosh grynodeb o’i waith ar gyfer y
Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar, pan fu’n cynghori llywodraeth Fiji yngylch
paratoi i sefydlu Senedd.
Penodwyd Craig Stephenson yn Gyfarwyddwr Dros Dro
Gwasanaethau’r Comisiwn.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Mai 2014
Cyfarfod: 26/03/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 06/03/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cynhelir
cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 26 Mawrth 2014. Bydd yr eitemau ar yr agenda yn
cynnwys TGCh yn y Siambr a pharodrwydd o ran trosglwyddo gwasanaethau
TGCh.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Mawrth 2014
Cyfarfod: 13/02/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Rhoddodd Angela Burns grynodeb o drafodaethau’r Pwyllgor
Plant a Phobl Ifanc ar yr angen i sicrhau bod gan ddarparwyr allanol, a oedd yn
gyfrifol am raglen Datblygu Proffesiynol Parhaus yr Aelodau, ddealltwriaeth
lawn o waith y Cynulliad, a sut y mae’n wahanol i waith deddfwrfeydd eraill.
Byddai swyddogion yn bwrw ymlaen â’r mater hwn.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 6 Mawrth 2014.
Byddai’r agenda’n cynnwys Cofnod y Trafodion a’r newid yn y modd y darperir
gwasanaethau TGCh.
Yr
Ysgrifenyddiaeth
Chwefror 2014
Cyfarfod: 30/01/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nid oedd
materion eraill i’w trafod.
Cynhelir cyfarfod nesaf y
Comisiwn ar 13 Chwefror 2014.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Ionawr 2014
Cyfarfod: 05/12/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cyfarfu’r Pwyllgor Archwilio ar 7 Tachwedd, a bu’n
trafod y gwasanaethau TGCh ar gyfer y dyfodol, risgiau corfforaethol o ran
graddfa’r gweithgareddau sydd ar y gweill yn y sefydliad a’u heffaith ar
gapasiti, ac adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli cyfrifon. Hwn oedd
cyfarfod olaf Richard Calvert fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Nododd y
Comisiynwyr eu diolch iddo am ei gyfraniad.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 30 Ionawr 2014.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Rhagfyr 2013
Cyfarfod: 21/11/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Yr
Ysgrifenyddiaeth
Tachwedd 2013
Cyfarfod: 11/11/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Yr Ysgrifenyddiaeth
Tachwedd 2013
Cyfarfod: 17/10/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Yr Ysgrifenyddiaeth
Hydref 2013
Cyfarfod: 26/09/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Yr Ysgrifenyddiaeth
Medi 2013
Cyfarfod: 20/06/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 06/06/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Weithredwr
wybod i’r Comisiwn bod y Cyfarwyddwr TGCh yn cymryd camau ar ddau fater a oedd
yn achosi pryder i’r Aelodau ar hyn o bryd: i weithredu dull Rhif Adnabod
Personol syml o ran cyfrineiriau Blackberry ac i ymestyn y cyfnod cadw rhagosodedig
ar gyfer cysoni negeseuon e-bost i un mis. Disgwyliwyd y byddai’r newidiadau
hyn wedi’u rhoi ar waith y diwrnod hwnnw. Canmolodd y Comisiwn y ffordd yr oedd
yr adran TGCh wedi ymateb i broblemau ac wedi’u datrys.
Cytunodd y Prif Weithredwr i
gyflwyno papur trafod i’r Comisiwn ar ddigwyddiadau cenedlaethol sydd i’w
cynnal dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn galluogi’r Comisiwn i ddylanwadu ar
gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Byddai swyddogion yn ymchwilio
i’r materion a ganlyn, ac yn cyflwyno adroddiad arnynt:
·
hygyrchedd dyddiaduron Aelodau’r Cynulliad, a
·
materion diogelwch ac ymarferoldeb o ran y cwpanau
tseina newydd yn y caffi.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Mehefin 2013
Cyfarfod: 16/05/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr gais gan Star Walk Wales yn gofyn am ganiatâd gan
Gomisiwn y Cynulliad i osod pafin a sêr ar ystâd y Cynulliad. Byddai’r prosiect
yn dathlu bywydau a gwaith unigolion sydd wedi cyfrannu at fywyd Cymru, a
byddai gweithgor yn arsylwi’r prosiect hwnnw. Ni fyddai unrhyw gostau i’r
Comisiwn.
Cytunodd y Comisiynwyr mewn egwyddor y dylai’r prosiect gynnwys Ystâd y
Cynulliad, ar yr amod y ceir cyfraniad gan gynrychiolydd o’r Comisiwn.
Cam i’w gymryd: Byddai llythyr yn cael ei anfon at Brif Weithredwr y
prosiect i gadarnhau cytundeb y Comisiwn mewn egwyddor.
Yr
Ysgrifenyddiaeth
Mai 2013
Cyfarfod: 02/05/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nid oedd materion eraill i’w trafod.
Yr
Ysgrifenyddiaeth
Mai 2013
Cyfarfod: 18/04/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nid oedd
materion eraill i’w trafod.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Ebrill 2013
Cyfarfod: 28/02/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nid oedd
materion eraill i’w trafod.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Chwefror 2013
Cyfarfod: 07/02/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 24/01/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 16/01/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 03/12/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 29/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 12/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cyfarfod: 05/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw fater arall.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Tachwedd 2012
Cyfarfod: 22/10/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw fater arall.
Yr
Ysgrifenyddiaeth
Hydref 2012
Cyfarfod: 27/09/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Clywodd y Comisiynwyr fod set newydd o Gynghorwyr Annibynnol yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd.
Rhoddodd Keith Bush y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am yr her i gymhwysedd y Cynulliad o ran Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru).
Yr Ysgrifenyddiaeth
Medi 2012
Cyfarfod: 12/07/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Bydd y Comisiynwyr yn cynnal cyfarfod anffurfiol ar 2
Awst.
Cytunodd Claire Clancy i rannu'r ohebiaeth ddiweddaraf ag
Atos â'r Comisiynwyr.
Yna, aeth y Comisiwn i sesiwn breifat a chytuno ar gynnig
ynghylch mater cyfrinachol yn ymwneud â staffio a gyflwynwyd iddynt gan y Prif
Weithredwr yn unol â’r Ddirprwyaeth.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Gorffennaf 2012
Cyfarfod: 28/06/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
·
Trafododd
y Comisiynwyr statws Cofnod y Trafodion.
·
Gofynnodd
y Comisiynwyr am wybodaeth bellach am yr holl wasanaethau sydd ar gael i
gefnogi trafodion y pwyllgorau.
·
Pwysleisiodd
Angela Burns AC eitemau i’w nodi yn Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol
Comisiwn y Cynulliad.
·
Cytunodd
y Comisiynwyr i gynnal cyfarfod anffurfiol yn ystod toriad yr haf.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Mehefin
2012
Cyfarfod: 14/05/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw fusnes arall
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.
Cyfarfod: 09/05/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr y sylw a gafodd y Cynulliad yn y cyfryngau yn ddiweddar.
Cyfarfod: 08/03/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw
fater arall i’w drafod.
Cyfarfod: 02/02/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Gofynnodd y Comisiynwyr am gyfarfod
preifat â’r Prif Weithredwr ar ôl cyfarfod y Comisiwn.
Cyfarfod: 24/11/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Ni nodwyd unrhyw fusnes arall.
Cyfarfod: 20/10/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
10 Unrhyw Fusnes Arall
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(5) Paper 10 - IT Director
Cofnodion:
Trafodwyd y bwriad i greu rôl Cyfarwyddwr TG a chytunwyd arno. Nododd y Comisiynwyr y dylai’r broses recriwtio ddechrau cyn gynted â phosibl.
Cyfarfod: 22/09/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Cytunwyd y dylid paratoi opsiynau ar gyfer cydnabod cyfraniadau sylweddol tuag at ddatblygu’r Cynulliad, er enghraifft gan Lywyddion, a chreu arteffactau a fyddai’n gofnod hanesyddol priodol o ddatblygiad y Cynulliad.
Camau gweithredu: Swyddogion i baratoi opsiynau ar gyfer cydnabod cyfraniadau sylweddol i’r Cynulliad
Roedd nifer o Aelodau’r Cynulliad a’u staff yn y Cynulliad a’u swyddfeydd yn y rhanbarthau a’r etholaethau wedi parhau i gael trafferthion TGCh. Roedd cylchedau newydd yn cael eu gosod, a fyddai’n gwella cyflymder y cysylltiad mewn swyddfeydd pell. Cytunwyd y gallai’r Aelodau gysylltu â Peter Black os oeddynt yn wynebu trafferthion sylweddol, ac y dylai Saesneg clir, heb jargon, gael ei ddefnyddio i gyfleu unrhyw drafferthion y gwyddom amdanynt, i’r Aelodau.
Roedd rhai Aelodau wedi wynebu trafferthion wrth ddefnyddio ystafelloedd pwyllgora 1, 2 a 3 yn ystod wythnos gyntaf y tymor. Roedd ymchwiliadau yn cael eu cynnal a bydd adroddiad yn cael ei ddosbarthu.
Cyfarfod: 14/07/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw fusnes arall.
Cyfarfod: 29/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nododd y Comisiwn bod Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng y Cynulliad a Chanolfan Llywodraethu Cymru i’w gytuno arno cyn hir.