Cyfarfodydd

P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth lafar a gafodd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Cytunodd y Pwyllgor mai pob awdurdod lleol yn unigol ddylai benderfynu ynghylch ffilmio cyfarfodydd cynghorau ac, er y dylid annog hynny, ni ddylai’r Gweinidog ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ffilmio cyfarfodydd.

 

O gofio datganiadau’r Gweinidog ei fod yn cefnogi’r syniad o broses strwythuredig i awdurdodau lleol gynnal eu cyfarfodydd ond nad oes ganddo unrhyw fwriad o orfodi cynghorau i wneud hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater a godir yn y ddeiseb.


Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd fuddiant gan ei fod wedi cyhoeddi Datganiad Barn ar ddarlledu cyfarfodydd awdurdod parciau cenedlaethol ac wedi cefnogi Datganiad Barn gan William Graham AC, a oedd yn cefnogi’r materion hyn yn gyffredinol.

 

Cytunodd y Pwyllgor:

I drafod y ddeiseb hon gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y sesiwn dystiolaeth nesaf;

I gomisiynu gwaith ymchwil ar y gost o ffilmio cyfarfodydd cynghorau, a chynnwys barn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y mater.

 


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

 

Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn nhestun y ddeiseb hon, gan ei fod wedi cyhoeddi datganiad barn ar bwnc cysylltiedig yn y gorffennol.

 

Camau i’w cymryd

 

Bydd y tîm clercio yn archwilio a ganiateir i’r cyhoedd a chyrff allanol ail-ddefnyddio clipiau o Senedd TV.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y mater hwn nes bod yr alwad am dystiolaeth yn dod i ben ar 3 Tachwedd.