Cyfarfodydd

Senedd Ieuenctid

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Senedd Ieuenctid Cymru - gwahoddiad i ddigwyddiad ymgysylltu

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/03/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid a'r Dathliadau Ugain Mlynedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid

 

Clywodd y Comisiynwyr am ddigwyddiad llawn cyntaf y Senedd Ieuenctid, a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol.

Dywedodd y Llywydd y bu’n brofiad cynhyrfus ac roedd yn canmol pawb a fu ynghlwm wrth y digwyddiad a’r holl waith paratoi. 

Gellir gweld cyfarfod y Senedd Ieuenctid yma:http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/79aa22a2-0253-4a7e-badb-3baf239e5ff3?autostart=True

 

Trefniadau i nodi’r ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol

 

Cafodd y Comisiynwyr wybod am y trefniadau i nodi’r ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y dathliadau’n dechrau ar ddyddiad yr etholiad cyntaf, sef 6 Mai.

Cytunodd y Comisiynwyr fod hyn yn gyfle unigryw i feithrin cysylltiadau â phobl Cymru. Trafodwyd  cyfleoedd i gynnwys Aelodau’r Cynulliad yn y gweithgareddau ac i roi cyfle iddynt arwain digwyddiadau yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain, gan danlinellu ei bod yn arbennig o bwysig estyn allan i gymunedau difreintiedig nad ydynt yn ymwneud fawr ddim â’r broses wleidyddol.

Trafododd y Comisiynwyr ei bod yn bwysig i Aelodau'r Cynulliad  ymrwymo i gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau, naill ei fel unigolion neu fel rhan o bwyllgorau, gan ddysgu o brofiadau Senedd@.

Cafwyd trafodaeth fanwl ynghylch y posibilrwydd o gynnal Cynulliad Dinasyddion a'r posibilrwydd y gallai hyn ysgogi pobl i feddwl sut y byddent yn gallu cyfrannu at waith y Cynulliad yn y dyfodol.  Roedd gwahanol fodelau ar gael, ac roedd y cynnig yn ffafrio gofyn i gwmni arbenigol recriwtio cyfranogwyr ar sail demograffeg gytbwys.


Cyfarfod: 11/07/2018 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Senedd Ieuenctid


Cyfarfod: 30/04/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cyfarfod: 30/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Llythyr gan y Llywydd - Y diweddaraf am y Senedd Ieuenctid

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/09/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Sefydlu Senedd Ieuenctid newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Llywydd - Senedd Ieuenctid

Mae'r llythyr hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect y Senedd Ieuenctid.

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/08/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Senedd Ieuenctid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25

Cofnodion:

Cyflwynodd Non Gwilym bapur drafft, i’w drafod yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Medi, yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar brif egwyddorion y senedd ieuenctid. Roedd y papur yn crynhoi canlyniadau'r ymgynghoriad, yr opsiynau ar gyfer y camau nesaf a'r materion i'w hystyried o ran y sefyllfa ariannol, dulliau gweithredu ac enw da'r sefydliad.

Roedd y tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant wrthi'n paratoi Asesiad Effaith Cydraddoldeb, a chyfranogion allanol yn cyfrannu ato, er mwyn sicrhau bod grwpiau anodd eu cyrraedd yn cael eu cynnwys.

Trafododd y Bwrdd Rheoli yr opsiynau a amlinellwyd o ran cynnal etholiad a gweithredu'r senedd ieuenctid am y ddwy flynedd gyntaf, naill ai: drwy ddefnyddio adnoddau presennol y sefydliad a dad-flaenoriaethu, gohirio neu atal gweithgareddau eraill er mwyn cyflawni'r nod hwn; drwy ddarparu cymorth amgen, fel adnoddau addysg ar-lein i ryddhau staff; neu drwy sicrhau adnoddau ychwanegol (cydnabuwyd y byddai'n parhau i effeithio ar staff presennol ar adegau allweddol yn ystod blwyddyn y senedd ieuenctid ac ar y rhai sydd â sgiliau penodol o ran cefnogi, er enghraifft, y tîm Ymchwil a'r tîm Cyfreithiol).

Camau i’w cymryd:

·                Non Gwilym i gynnwys yr opsiynau o ran cyflawni'r senedd ieuenctid yn y papur terfynol a disgrifio beth fyddai natur unrhyw adnoddau ychwanegol; y costau parhaus a ymrwymir er mwyn parhau â'r senedd ar ôl iddi gael ei sefydlu a'r effaith ar dimau eraill yn y sefydliad.

·                Aelodau'r Bwrdd Rheoli i gynorthwyo Non wrth lenwi'r adran ynglŷn â’r effaith ar dimau eraill.

 

 


Cyfarfod: 27/02/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid

Cofnodion:

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf grŵp llywio'r Senedd Ieuenctid ddydd Llun 13 Chwefror. 

 

Y camau nesaf fydd ystyried sut y dylai'r Senedd Ieuenctid weithio gyda'r Cynulliad - o ran ei pherthynas ag Aelodau a phwyllgorau, ac o ran trefniadau llywodraethu.

 

Y bwriad yw gallu ymgynghori ar fodel o gyfansoddiad drafft ar gyfer Senedd Ieuenctid ar ôl toriad y Pasg.