Cyfarfodydd

Commission budget

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/09/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Chyllideb Ddrafft 2014-15

Papur 2 ac atodiad

Cofnodion:

Roedd angen gosod cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014-15 i’w hystyried gan y Cynulliad erbyn 1 Hydref fan bellaf. Mewn cyfarfodydd blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno y dylid seilio'r gyllideb ar y swm o £50.598 miliwn, fel y nodwyd yn y dogfennau cyllideb a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer y ddwy flynedd flaenorol. Bu Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn craffu ar y dogfennau hyn ym mis Hydref 2011 a 2012. 

 

2014-15 fydd blwyddyn olaf cynllun buddsoddi tair blynedd y Comisiwn ar gyfer y gyllideb. Roedd cynnig cyllideb 2014-15 yn cadw at yr hyn a nodwyd yng nghyllidebau'r ddwy flynedd flaenorol.

Roedd gwaith wedi'i wneud dros yr haf i adolygu'r ddogfen yn unol ag awgrymiadau'r Comisiynwyr.

 

Roedd Angela Burns wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid yn gofyn iddi gytuno i'r Comisiwn baratoi dim ond cyllideb ddangosol ar gyfer 2015-16 yn y Gyllideb ddrafft hon, a hynny oherwydd amserlen Adolygiad o Wariant y DU. Hefyd, teimlai'r Comisiynwyr y byddai'n briodol parhau i ganolbwyntio ar amserlen fyrrach ar gyfer y flwyddyn ddilynol (2016-17) gan y byddai hynny'n caniatáu i Gomisiwn y Pumed Cynulliad baratoi ei gynlluniau ei hun ar gyfer gwahanol gyfnodau.

Byddai Angel Burns, Claire Clancy a Nicola Callow yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad ar 3 Hydref.

 

Cytunwyd ar y gyllideb ddrafft a byddai'n cael ei gosod y prynhawn hwnnw. Byddai'r Comisiwn yn ystyried unrhyw argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid cyn gosod y ddogfen i'r Cynulliad ei hystyried ym mis Tachwedd.

 

Cafodd Nicola Callow ei chanmol gan y Comisiynwyr am ei gwaith arbennig yn gysylltiedig â'r gyllideb a diolchwyd iddi hi ac Angela Burns am eu hymdrechion wrth iddynt gwblhau'r drafft. 


Cyfarfod: 05/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2013-14

Papur 2

Cofnodion:

Mae cyllideb 2013-14 y Comisiwn yn nodi'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i ddarparu gwaith Gwasanaethau'r Cynulliad sy'n flaenoriaeth yn ogystal â'r gyllideb sydd ei hangen i ariannu Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. 

Ers y cyfarfod diwethaf, mae cyllideb ddrafft 2013-14 y Comisiwn wedi'i osod. Ymddangosodd Angela Burns AC, Claire Clancy a Steve O'Donoghue gerbron y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref ac roedd adroddiad y Pwyllgor yn argymell:

·         Cyhoeddi dangosyddion perfformiad blynyddol;

·         Dim cynnydd i gyllidebau'r comisiwn ar ddiwedd y rhaglen fuddsoddi tair blynedd bresennol;

·         Mwy o fanylion am arbedion a buddsoddiadau.

Cytunodd y Comisiynwyr ag argymhellion y Pwyllgor a chytuno i osod y Gyllideb ar 7 Tachwedd. Mae'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y gyllideb wedi'i threfnu ar gyfer 14 Tachwedd.

Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi.

Cam i'w gymryd: Swyddogion i osod dogfen cyllideb 2013-14 gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd.


Cyfarfod: 11/10/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ystyried adroddiad drafft ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar ei adroddiad drafft ynghylch cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i fformadu’r adroddiad diwygiedig ar ffurf llythyr at y Gweinidog Cyllid, a fyddai’n cael ei gyhoeddi cyn hir.


Cyfarfod: 03/10/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-2014

FIN(4) 14-12 (p1) – Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-2014

 

Angela Burns AC, Comisiynydd

Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Steve O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau'r Cynulliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Pwyllgor Angela Burns, Aelod o’r Cynulliad; Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Steve O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau’r Cynulliad.

2.2 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i:

·         Ddarparu nodyn ar p’un a yw contractwyr yn cynnal safonau cydraddoldeb, cyflog byw ac aelodaeth undeb llafur.

·         Ymateb i bryderon a godwyd gan Mike Hedges AC ar fuddsoddiad TGCh;


Cyfarfod: 28/06/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Cyllideb ddrafft 2013-14

Papur 4

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Comisiynwyr y byddant yn parhau â’u hymrwymiad i weithio o fewn y gwariant dangosol ar gyfer 2013-14 a nodwyd yn nogfen gyllidebol y llynedd. Y gyllideb ddangosol ar gyfer 2013-14 yw £49.5 miliwn. Mae £33.5 miliwn yn gysylltiedig â chostau gweithredu ac mae £13.7 miliwn ar gyfer cyllideb yr Aelodau ac mae’r gweddill ar gael ar gyfer buddsoddiadau.

Trafododd y Comisiynwyr flaenoriaethau cyllideb 2013-14. Cytunodd Angela Burns AC i gyfarfod ag Aelodau unigol i drafod cyllideb y Comisiwn cyn pennu’r gyllideb derfynol.

Disgwylir i’r Gyllideb gael ei chytuno yng nghyfarfod y Comisiwn ar 27 Medi a’i gosod ar 28 Medi. Caiff y gyllideb ei hystyried ymhellach yng nghyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf.

Cam i’w gymryd: Swyddogion i ddod â dogfen ar y gyllideb ddrafft i’r cyfarfod nesaf.


Cyfarfod: 14/05/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb 2013-14 - blaenoriaethau/goblygiadau strategol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

Yn y cyfarfod ar 8 Mawrth, cytunodd y Comisiynwyr i barhau i weithio o fewn yr arian dangosol ar gyfer 2013-14 a nodwyd yn y ddogfen gyllideb, a thrafodwyd blaenoriaethau cyllideb 2013-14 yn y cyd-destun hwn.

 

Y gyllideb ddangosol yw £49.5 miliwn, y mae £34.1 miliwn ohoni ar gyfer talu costau gweithredol a £13.7 miliwn yn gysylltiedig ag Aelodau’r Cynulliad. Mae’r gweddill ar gael i’w fuddsoddi, yn unol â blaenoriaethau strategol y Comisiwn. Disgwylir y caiff adnoddau ychwanegol eu rhyddhau ar gyfer blaenoriaethau buddsoddi yn 2013-14, gyda chyfraniadau’n deillio o’r rhaglen gwerth am arian, y targedau effeithlonrwydd a chronfeydd wrth gefn.

 

Trafodwyd nifer o flaenoriaethau o ran buddsoddi. Er y cydnabuwyd mai TGCh a gâi’r brif flaenoriaeth, byddai’n rhaid parhau i drafod goblygiadau mabwysiadu’r dull blaenoriaethu hwn, ymhellach, mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Caiff cyllideb y Comisiwn ei gosod ym mis Medi. Mae’n debyg y bydd y dulliau ymgynghori ag Aelodau eleni, yn dilyn y fformat a fabwysiadwyd y llynedd, pan fu Angela Burns AC, y Comisiynydd sy’n gyfrifol am y portffolio perthnasol, yn mynd i gyfarfodydd y grwpiau ac yn cynnal sesiynau gwybodaeth gydag Aelodau

Cam i’w gymryd: Y swyddogion i ddatblygu’r ddogfen gyllideb yn unol â’r dull y cytunwyd arno.


Cyfarfod: 08/03/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

4 Strategaeth cyllideb y Comisiwn 2013-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd sut y dylid ymdrin â chyllideb y Comisiwn ar gyfer 2013-14 a’r ffigurau dangosol ar gyfer y blynyddoedd sy’n weddill yn nhymor y Pedwerydd Cynulliad (2014-15 a 2015-16). Y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2013-14 fydd £49.450 miliwn;  £13.700 miliwn ar gyfer cyflogau a chostau Aelodau’r Cynulliad a £35.750 ar gyfer gwasanaethau’r Cynulliad, sef cynnydd o 5.3% o’i gymharu â chyllideb 2012-13.

Mae’r dulliau arfaethedig o ymdrin â’r gyllideb yn adlewyrchu cytundeb y Comisiwn i gyflwyno’r cynnydd yn y gyllideb  fesul cam, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Cyllid. Cytunodd y Comisiwn y dylid paratoi cyllideb  2013-14 yn unol â’r ffigurau dangosol.

Bydd rhagor o drafodaethau yng nghyfarfodydd y Comisiwn yn ystod tymor yr haf. Disgwylir i’r gyllideb derfynol gael ei chymeradwyo yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Medi, ac y caiff ei gosod yn ffurfiol erbyn 28 Medi.

Cytunodd y Comisiynwyr i ystyried:

 

  • gofynion ariannu hirdymor y Pedwerydd Cynulliad;
  • ymgynghori â’r Aelodau a’u staff cymorth ynglyn â’r gofynion hyn.

Cam i’w gymryd: swyddogion i fwrw ymlaen, yn unol â’r dulliau y cytunwyd arnynt.


Cyfarfod: 24/11/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

5 Cyllideb Atodol 2011-12

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn ei gyllideb ar gyfer 2011-12, mae’r Comisiwn wedi cynnwys cronfeydd ar wahân i dalu am gostau sy’n gysylltiedig ag etholiadau, gan ei gwneud yn glir y bydd unrhyw arian sy’n weddill yn cael ei dalu’n ôl i floc Cymru drwy gyllideb atodol.

 

Roedd cyllideb Aelodau’r Cynulliad yn cynnwys £3.460 miliwn yn seiliedig ar amcangyfrif y bydd trosiant 30 Aelod gyda chost cyfartalog o £115,000 ar gyfer pob Aelod, ac roedd cyllideb Gwasanaethau’r Cynulliad yn cynnwys £0.655 miliwn. Cafodd y dyraniadau cyllidebol hyn eu clustnodi ar gyfer costau’n ymwneud â’r etholiad. Nodwyd bod y gwir drosiant o 23 Aelod wedi arwain at danwariant o £1.8 miliwn yn erbyn cyllideb Aelodau’r Cynulliad a thanwariant o £0.2 miliwn yn erbyn cyllideb Gwasanaethau’r Cynulliad.

 

Cytunodd y Comisiwn y byddai £0.2 miliwn yn cael ei roi yn ôl i floc Cymru drwy gynnig cyllideb atodol.


Cyfarfod: 16/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012/13

NDM4851 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

 

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012-13, fel y pennir yn Nhabl 5 o’r ddogfenCynulliad Cenedlaethol Cymru: Cynigion Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2012-13”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2011 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

 

Dogfennau ategol:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cynigion: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2012-13

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 12/10/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Adroddiad drafft ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2012-2013

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ni ddaeth Peter Black AC i’r rhan hon o’r cyfarfod, gan ei fod yn Gomisiynydd Cynulliad.

 

6.2 Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar adroddiad drafft y Pwyllgor ar y gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2012-2013 a’i gymeradwyo.


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Aelodau yn ystyried y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y cyfarfod.


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2012-2013

Comisiwn y Cynulliad
FIN(4)-04-11 (Papur1)

 

Angela Burns, Aelod Cynulliad     

Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Swyddogion (i’w cadarnhau)

Steve O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau'r Cynulliad

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Comisiwn y Cynulliad

 

2.1 Croesawodd y Pwyllgor Angela Burns, Aelod Cynulliad; Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Steve O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau’r Cynulliad, i’r cyfarfod.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am sut mae’r Comisiwn yn monitro’r gwasanaeth addysg, yn arbennig ei weithgareddau allanol.

·         Rhagor o wybodaeth am rôl y staff a gafodd dâl diswyddo gwirfoddol yn ystod y cynllun diswyddo gwirfoddol diwethaf a natur eu cyflogaeth.

·         Adroddiad diweddaraf y Bwrdd Rheoli.


Cyfarfod: 22/09/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

2 Cyllideb ddrafft 2012-13

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yr egwyddorion sy’n ganolog i strategaeth cyllideb y Comisiwn, fel y cytunwyd ym mis Gorffennaf 2011, oedd:

 

i.   y dylai’r gyllideb gynnwys digon o adnoddau i ganiatáu i’r Comisiwn ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad fel deddfwrfa sydd â phwerau deddfu llawn yn dilyn y refferendwm;

 

ii. bod angen safon uchel o wasanaethau cymorth ar y Cynulliad, fel sefydliad sy’n tyfu, gydag adnoddau priodol ar gyfer y gwasanaethau hynny, er mwyn galluogi’r Aelodau i wneud eu gwaith; ac

 

iii. y byddai’n hanfodol parhau i sicrhau effeithiolrwydd a gwerth am arian.

 

Cafodd cynigion y gyllideb ddrafft, i ariannu’r blaenoriaethau hyn, eu trafod. Penderfynwyd ar y cynigion drwy gyfuniad o arbedion, ailddosbarthu’r adnoddau presennol a thwf yn y gyllideb a gaiff ei gyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf. Gwnaeth y Comisiynwyr gais i dynnu mwy o sylw at yr arbedion, yn arbennig y rhai sy’n deillio o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau, bod tystiolaeth i gefnogi meysydd buddsoddi arfaethedig yn cael ei gryfhau, a bod ychydig o ailddrafftio yn cael ei wneud i wella eglurder yr iaith a ddefnyddir yn y ddogfen.

 

Cafodd y gyllideb ddrafft o £47.7 miliwn ar gyfer 2012-13 ei thrafod. Roedd hyn yn gynnydd o 6.6 y cant o gymharu â 2011-12; yn dilyn trafodaeth o’r cynigion manwl, cymeradwyodd y Comisiwn gynnydd o 6.4 y cant. O hwn, byddai angen 5.1 y cant i dalu costau ychwanegol anochel. Cytunwyd bod y gyllideb hon, sy’n cynrychioli 0.3 y cant o Floc Cymru, yn bris rhesymol a phriodol ar gyfer cefnogaeth briodol i’r broses ddeddfwriaethol, craffu ar y Llywodraeth a chynrychiolaeth ddemocrataidd. Pwysleisiodd y Comisiwn ei fod am sicrhau bod gwasanaethau gwerth am arian yn cael eu darparu’n effeithlon ac yn effeithiol.

 

Bydd y gyllideb ddrafft, a gaiff ei diweddaru i adlewyrchu atborth y Comisiynwyr, yn cael ei gosod ar 29 Medi. Bydd Angela Burns, gyda swyddogion, yn cyflwyno’r gyllideb i’r Pwyllgor Cyllid ar 6 Hydref.

 

Byddai sesiwn yn cael ei threfnu ar ôl y Cyfarfod Llawn i gyflwyno’r gyllideb a strategaeth y Comisiwn i holl Aelodau’r Cynulliad.

 

Camau gweithredu: Swyddogion, mewn trafodaeth ag Angela Burns, i ddiweddaru dogfen y gyllideb ddrafft yn unol ag atborth gan y Comisiwn.

 

Camau gweithredu: Sesiwn i gael ei threfnu i gyflwyno’r gyllideb a strategaeth y Comisiwn i holl Aelodau’r Cynulliad.


Cyfarfod: 14/07/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

3 Strategaeth cyllideb ddrafft y Comisiwn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad fel deddfwrfa sydd â phwerau deddfu llawn yn dilyn y refferendwm. Cytunwyd bod y Cynulliad, fel sefydliad sy’n tyfu, angen safon uchel o wasanaethau cymorth priodol i alluogi’r Aelodau i gyflawni eu rolau. Rhoddwyd adborth ar yr effaith a gaiff gostyngiadau yng nghyllideb y gwasanaeth ymchwil ar Aelodau.

 

Trafodwyd blaenoriaethau’r Comisiynwyr ar gyfer darparu gwasanaethau craidd, gan gynnwys cefnogaeth arbenigol benodol ar gyfer pwyllgorau’r Cynulliad, Gwasanaeth Ymchwil cryf, gwasanaethau cyfreithiol, ac adnoddau TGCh arbenigol ar gyfer datblygu’r strategaeth TGCh. Rhoddwyd arweiniad ar y dull cyffredinol o weithredu strategaeth y gyllideb ar gyfer 2011-16, ac ar y lefel orau o gydbwysedd rhwng gwelliannau / twf a chost. Roedd y Comisiynwyr yn teimlo ei bod yn bwysig i gyflwyno cyfanswm cyfunol cyllideb Gwasanaethau’r Cynulliad a chyllideb yr Aelodau gyda’i gilydd.

 

Bydd cynigion cyllidebol manwl—gan amlygu lle gellid gwneud arbedion a lefel yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer pob gwasanaeth—a strategaethau cyfathrebu drafft yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

Cam i’w gymryd: Swyddogion i wneud gwaith manwl yn ystod yr haf, gan weithio gyda deiliaid portffolio. Bydd y Comisiwn yn trafod y gwaith ym mis Medi.