Cyfarfodydd

P-05-730 Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-730 Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail bod gan y deisebwyr ar hyn o bryd gyfle i roi eu barn o ran datblygu cynigion ar ddiwygio llywodraeth leol, ac nad oes fawr o werth pellach y gall y Pwyllgor Deisebau gynnig ochr yn ochr â'r broses honno.

 


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-730 Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol er mwyn gofyn a fyddai'r deisebwyr yn gallu cyfrannu at y broses o ddatblygu cynigion i ddiwygio llywodraeth leol, ac os felly, sut.