Cyfarfodydd

P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-731 Gwerthu tir a lonydd mynediad yn Abercwmboi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd ac, o gofio bod y Pwyllgor eisoes wedi gofyn i'r preswylwyr gael cyfle i roi sylwadau os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu bwrw ymlaen i werthu'r tir dan sylw a bod y deisebydd wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion y Llywodraeth, cytunodd mai ychydig iawn y gallai’r Pwyllgor ei wneud eto. Gan hynny, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn i'r Llywodraeth ymgynghori ag unrhyw breswylwyr fydd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol os yw'n cynnig gwerthu'r tir;

·         cadw llygad ar ddatblygiadau.

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a daeth i'r casgliad nad oes llawer rhagor y gall y Pwyllgor ei wneud tra bod y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol ynglŷn â'r defnydd o'r tir yn parhau. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor unwaith y bydd y trafodaethau hyn wedi dod i ben.

 

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-731 Gwerthu tir a lonydd mynediad yn Abercwmboi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith:

 

  • i ofyn a fyddai'n fodlon ymgynghori â'r deisebydd a thrigolion eraill Park View Terrace ynghylch y modd y caiff y tir ei ddefnyddio yn y dyfodol wedi i’r trafodaethau presennol â’r awdurdod lleol ddod i ben, a chyn i’r broses o werthu’r tir ddechrau;
  • i holi a fydd gan y rhai sy’n defnyddio’r lonydd a’r tir i barcio ar hyn o bryd hawl tramwy gan eu bod yn defnyddio’r tir ers cryn amser.
  • gofyn am eglurhad ynghylch yr anghysondebau yn yr ohebiaeth flaenorol y tynnodd y deisebydd sylw atynt.

 


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd ynglŷn â'r mater.