Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Economi Ddigidol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Economi Ddigidol

NDM6254 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau ym Mil yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).  Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol
Bil yr Economi Ddigidol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Adroddiad Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.56

NDM6254 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau ym Mil yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 09/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Economi Ddigidol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch Bil yr Economi Ddigidol.

 


Cyfarfod: 15/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Economi Ddigidol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am eglurhad ynghylch goblygiadau hawliau dynol cymalau perthnasol y Bil.