Cyfarfodydd

Adrodd Deuol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/06/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adrodd Deuol

SoC(5)-08-20 Papur 1 – Adrodd Deuol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

-      Trafododd y Pwyllgor ei adolygiad o ofynion adrodd yn ymwneud â rhoddion o dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda.

-     Cytunodd y Pwyllgor, oherwydd cyfyngiadau amser yn sgil y pandemig Covid-19, na fyddai’n bwrw ymlaen â’r gwaith hwn ar unrhyw ffurf ar hyn o bryd.

-     Cytunodd y Pwyllgor y dylid cynnwys y gwaith hwn yn yr adroddiad etifeddiaeth ar gyfer pwyllgor y Chweched Senedd sy’n gyfrifol am safonau.


Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adrodd Deuol: Trafod y materion allweddol

SoC(5)-07-20 Papur 3 – Materion allweddol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau'r papur ar adrodd deuol, a chytuno ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer trafod hyn.

 


Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adrodd Deuol: Trafod llythyr gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro

SoC(5)-02-20 Papur 1 – Llythyr gan y Pwyllgor at Douglas Bain, Comisiyndd Safonau Dros Dro

SoC(5)-02-20 Papur 2 – Llythyr gan Douglas Bain, Comisiyndd Safonau Dros Dro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried ac yn nodi'r ohebiaeth gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro.

 


Cyfarfod: 10/12/2019 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Adrodd Deuol

SoC(5)-18-19 Papur 3 – Adroddiad cynnydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr aelodau’r cynnydd a wnaed yn y maes gwaith hwn a bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu yn nhymor y gwanwyn 2020.

4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Comisiynydd Safonau Dros Dro yn gofyn am ei farn ar effaith y newidiadau arfaethedig sy'n ofynnol i ddod â chofrestriad deuol i ben.

 

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Adrodd Deuol

SoC(5)-11-19 Papur 3 – Y Comisiwn Etholiadol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi paratoi papur i’w ystyried yng nghyfarfod y Bwrdd Cynghori Etholiadol yn ddiweddarach y mis hwn. Nododd yr Aelodau y papur a bod gwaith wedi dechrau gyda dileu gofynion adrodd deuol.

 


Cyfarfod: 29/11/2016 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Cofrestru Dwbl: Cyflwyniad gan y Comisiwn Etholiadol

Y Comisiwn Etholiadol

Rob Coombs 

Adrian Fryer

Rhydian Thomas

 

 

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn gwrando ar gyflwyniad gan y Comisiwn Etholiadol ar Adrodd Deuol a Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i fwrw ymlaen â'r gwaith o gael gwared ar y gofynion adrodd deuol.