Cyfarfodydd

Diwygio Rheolau Sefydlog: Proses y Gyllideb

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/06/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â chraffu ar y gyllideb ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar y gyllideb ddrafft.

Cyfarfod: 28/06/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – craffu ar y gyllideb ddrafft

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 26/06/2017 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Craffu ar y gyllideb ddrafft

CLA(5)-17-17 – Papur 1 – Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid Craffu ar y Gyllideb ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr a chroesawodd y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog a amlinellwyd ynddo.

Cyfarfod: 22/06/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Cadeirydd: Craffu ar y gyllideb ddrafft

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 21/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cynnig i gymeradwyo protocol y gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru

NDM6333 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cymeradwyo'r protocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 21/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 mewn perthynas â Phroses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid

NDM6332 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 – Proses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14.06.17; ac

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cofnodion:

NDM6332 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 – Proses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14.06.17; ac

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 21/06/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â gwaith craffu ar y Gyllideb ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chraffu ar y gyllideb ddrafft.

Cyfarfod: 17/05/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Diwygio Rheolau Sefydlog: Proses y gyllideb

Papur 3 – Protocol diwygiedig ynghylch y gyllideb

Papur 4 – Llythyr drafft at y Pwyllgor Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i'r Cadeirydd ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes gyda phrotocol diwygiedig y gyllideb.

Cyfarfod: 03/05/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Newidiadau i Reolau Sefydlog: Proses y gyllideb

Papur 2 – Newidiadau i brotocol y gyllideb

Dogfennau ategol:

  • FIN(5)-12-17 P2 - Newidiadau i brotocol y gyllideb (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i edrych ar yr eitem hon eto yn y cyfarfod nesaf.

Cyfarfod: 29/03/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Newidiadau i Reolau Sefydlog: Proses y gyllideb

Papur 5 – Newidiadau i Reolau Sefydlog: Proses y gyllideb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i ailedrych ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ystod tymor yr haf.