Cyfarfodydd
Ymchwiliad i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/07/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Trafodaeth
Gareth Cunningham, Cyswllt Amgylchedd Cymru
Dr Euan Dunn, RSPB Cymru
Clare Eno, Cyfoeth Naturiol Cymru
Jeremy Percy, New Under Ten Fishermen's Association
Joanne Sherwood, Cyfoeth Naturiol Cymru
Dogfennau ategol:
- Papur briffio y Gwasanaeth Ymchwil
Cofnodion:
4.1 Bu’r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
4.2 Cytunodd Jeremy Percy i
ddarparu copi o’r nodyn a gynhyrchodd ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a
Materion Gwledig ynghylch bysgodfeydd ar raddfa fach
Cyfarfod: 11/07/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Cymorth y wladwriaeth ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu - Trafodaeth gyda Rhodri Glyn Thomas AC
E&S(4)-19-13 papur 2
Rhodri Glyn Thomas AC, Aelod, Pwyllgor y Rhanbarthau
Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa UE Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Bu Rhodri Glyn Thomas yn ateb cwestiynau gan
aelodau’r Pwyllgor.
Cyfarfod: 22/02/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Ymchwiliad i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Llythyron drafft y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin
Cofnodion:
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyron drafft gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.
Cyfarfod: 22/02/2012 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Ymchwiliad i ddiwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - cytuno ar lythyrau drafft
Cofnodion:
3.1 Cytunodd y Grŵp ar y llythyron drafft ar y diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.
Cyfarfod: 18/01/2012 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Ymchwiliad i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd
Lowri Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd
Joost Paardekooper, Swyddog
Polisi, y Pwyllgor Pysgodfeydd Cyffredin a Dyframaethu, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd
Cofnodion:
2.1 Bu’r tystion
yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y diwygiadau arfaethedig
i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.
Cyfarfod: 17/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin: Tystiolaeth gan The New Under Ten Fishermen's Association a Chymdeithas Pysgotwyr Cymru
CFP(4)-04-11
Papur 1
Jeremy Percy, The New Under Ten
Fishermen’s Association
CFP(4)-04-11
Papur 2
Jim Evans, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
Sarah Horsfall, Seafish
James Wilson, Cynhyrchwyr
Cregyn Gleision Bangor
Dogfennau ategol:
- Papur 1 - Saesneg yn unig, Eitem 2
PDF 47 KB Gweld fel HTML (2/1) 19 KB
- Papur 2, Eitem 2
PDF 52 KB Gweld fel HTML (2/2) 19 KB
Cofnodion:
2.1
Cafodd y Grŵp Gorchwyl a
Gorffen dystiolaeth gan The New Under Ten Fishermen’s
Association a Chymdeithas Pysgotwyr
Cymru.
2.2 Cytunodd Jeremy Percy i ddarparu copi o’r papur
a gyflwynwyd i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
2.3 Cytunodd Jim Evans a James Wilson i ddarparu
nodyn ychwanegol ar y berthynas â Chyngor Cefn Gwlad
Cymru.
Cyfarfod: 03/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru
CFP(4)-03-11 papur 2
John Clark, RSPB Cymru
Debbie Crockard, y Gymdeithas Cadwraeth Forol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru, a gytunodd i ddarparu rhagor o wybodaeth am hawliau pysgota hanesyddol.
Cyfarfod: 03/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.1 Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog, a gytunodd i ysgrifennu at y Grŵp cyn y Nadolig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am ei drafodaethau â Gweinidog Senedd y DU ynghylch rhywogaethau nad oes cwota ar eu cyfer, a’r concordat.
Cyfarfod: 03/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru
CFP(4)-03-11 papur 1
Dr Clare Eno, Uwch Gynghorydd ar Bysgodfeydd
Dr Sue Gubbay, Aelod o Gyngor Cefn Gwlad
Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a gytunodd i ddarparu gwybodaeth am gost y cynllun newydd ar gyfer rheoli llongau.
Cyfarfod: 13/10/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd
Drwy gyfrwng cynhadledd fideo:
Joost Paardekooper, Swyddog Polisi, y Pwyllgor Pysgodfeydd Cyffredin a Dyframaethu, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd
Cofnodion:
2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r sesiwn dystiolaeth oherwydd anawsterau technegol wrth ddefnyddio’r system fideogynadledda.
2.2 Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben.
Cyfarfod: 05/10/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin: Papur briffio gan y Sefydliad Polisi Amgylcheddol Ewropeaidd
CFP(4)-01-11 papur 1
Indrani Lutchman, Pennaeth y Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Rhoddodd Ms Lutchman gyflwyniad i’r grŵp ar y cynigion ar gyfer diwygio’r
Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.
2.2 Atebodd Ms Lutchman gwestiynau gan y grŵp.
2.3 Cytunodd Ms Lutchman i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am archwiliad iechyd y Sefydliad Polisi Amgylcheddol Ewropeaidd, enghreiffitau o arfer da yng nghyswllt systemau pysgota ar raddfa fechan yn Ewrop, ffigurau am y pysgod a deflir yn ôl i’r môr, a manylion cyhoeddiadau’r Cyngor Rhyngwladol er Archwilio’r Moroedd ar ddalfeydd o rywogaethau niferus.
Cyfarfod: 29/09/2011 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Cytuno'r cylch gorchwyl (11:30 - 11:35)
E&S(4)-05-11 papur 4
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen ar y polisi pysgodfeydd cyffredin.
Cyfarfod: 21/09/2011 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin
E&S(4)-04-11 papur 3 – i ddilyn
Cofnodion:
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin o dan Reol Sefydlog 17.17:
Bod y pwyllgor
yn penderfynu sefydlu Grŵp Gorchwyl
a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin; |
mai cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl
a Gorffen hwnnw yw ystyried effaith
cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer diwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yng Nghymru, y bydd yn gwneud
argymhellion i Lywodraeth
Cymru ar y blaenoriaethau
negodi ac yn dylanwadu ar y drafodaeth ehangach ar y polisi, ac y bydd y pwyllgor yn cael ei
ddiddymu heb fod yn hwyrach
na diwedd 2012 neu unwaith y bydd y negodiadau ar y cynigion deddfu ar gyfer
y polisi wedi’u cwblhau, pa un bynnag a ddaw gyntaf. |
bod aelodaeth
y Grŵp
Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd
Cyffredin yn cynnwys Dafydd Elis-Thomas AC, Llyr
Huws Gruffydd AC, Julie James AC, William Powell
AC, David Rees AC ac Antoinette Sandbach
AC, gyda Julie James AC wedi’i
hethol yn Gadeirydd. |