Cyfarfodydd

P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd llawer o gamau pendant eraill.

 

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin a P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:

  • manylion pellach am gynnydd yr Adolygiad o Derfyn Cyflymder hyd yma, yr egwyddorion sy'n sail iddo a'r meini prawf asesu a ddefnyddiwyd; ac
  • enghreifftiau ymarferol o leoedd a adolygwyd yn ystod 2018 hyd yma, a beth oedd y canlyniad ym mhob achos.

 

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor eisoes i grwpio'r ddeiseb hon i'w thrafod gyda P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig a P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth. 

 

Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ar gyfer P-05-767 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fyddai'n ystyried datblygu rhaglen Adolygiad Terfyn Cyflymder a sicrhau ei fod ar gael yn gyhoeddus, er mwyn ymateb i bryderon am ddiffyg natur agored gyda'r broses. 

 

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-721 Deiseb terfyn cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith a chytunodd i ymateb yn ysgrifenedig i ofyn, o gofio bod yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr adolygiad hwnnw. 

 

 


Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-721 Deiseb terfyn cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb yng ngoleuni cais y deisebwyr am ddiweddariad, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am ragor o fanylion am yr amserlenni ar gyfer yr adolygiad terfyn cyflymder.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ddisgwyl am ganlyniad yr Adolygiad Terfyn Cyflymder sydd i gychwyn yn haf 2017.

 


Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniad trafodaethau'r deisebwyr â swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

 

 

 


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i rannu canlyniadau'r cynllun monitro traffig gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan ofyn am ei sylwadau a gofyn a allai'r wybodaeth hon gael ei hystyried fel rhan o'r gwaith parhaus ar ddiogelwch y darn hwn o'r ffordd.

 

 


Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ganlyniadau'r cynllun monitro traffig, yn ogystal â sylwadau'r deisebydd bryd hynny, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.