Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

NDM6184 Rebecca Evans (Gŵyr):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn person sy'n gwneud cais am swydd gofal cymdeithasol i blant am ei bod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr ymgeisydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Children and Social Work Bill [HL] 2016-17 — Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.50

NDM6184 Rebecca Evans (Gŵyr):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn person sy'n gwneud cais am swydd gofal cymdeithasol i blant am ei bod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr ymgeisydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 01/12/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) - Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol - Ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytuno arno.

 


Cyfarfod: 29/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

NDM6173 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol sy'n ymwneud ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

'Bill documents — Children and Social Work Bill [HL] 2016-17 — UK Parliament' (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Plant a Gofal Cymdeithasol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.19

NDM6173 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol sy'n ymwneud ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 23/11/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) - y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ysgrifennu adroddiad.

 


Cyfarfod: 02/11/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.  Bydd adroddiad yn cael ei osod yn argymell bod y Cynulliad yn derbyn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.